Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Radioleg
Gradd
Gradd 6
Contract
12 mis (Cyfnod Penodol/Secondiad tan 30/09/2026 oherwydd cyfnod mamolaeth)
Oriau
Rhan-amser - 15 awr yr wythnos (15 awr yr wythnos)
Cyfeirnod y swydd
100-AHP076-0825
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Bronglais
Tref
Aberystwyth
Cyflog
£39,263 - £47,280 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
03/09/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
17/09/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Radiograffydd Arbenigol

Gradd 6

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae hon yn swydd cyfnod penodol/secondiad tan 30/09/2026 oherwydd cyfnod mamolaeth.  Os ydych chi'n gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am y swydd hon fel secondiad, mae angen cytundeb ar gyfer yr secondiad gan eich rheolwr presennol cyn gwneud cais.

Mae Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn chwilio am Radiograffydd Arbenigol brwdfrydig i ymuno â'n tîm. Mae'r adran ddelweddu brysur yn cynnwys gwasanaethau Radiograffeg Gyffredinol, CT, ac MRI.

Bydd yr ymgeiswyr yn meddu ar BSc/DCR(R) mewn Radiograffeg Ddiagnostig, byddant wedi'u cofrestru gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC), a bydd ganddynt brofiad priodol mewn Radiograffeg Gyffredinol. Bydd gofyn i chi oruchwylio myfyrwyr[1]radiograffwyr a chynorthwyo â hyfforddi staff radiograffeg cylchdro.

Offer delweddu, egluro'r protocolau delweddu a'r canlyniadau diagnostig, a chynorthwyo gyda hyfforddi staff radiograffeg cylchdro.

Bydd bod ar alwad yn orfodol gyda'r rôl hon

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Fel Radiograffydd Arbenigol byddwch wedi eich lleoli yn Ysbyty Bronglais, sef ysbyty cyffredinol dosbarth prysur yn Aberystwyth yng Ngorllewin Cymru.

Mae gan yr adran sganiwr MRI Siemens Sola 1.5T sy'n ddwy oed. Mae'r adran hefyd yn gartref i fflworosgopeg, dau beiriant Pelydr-X Cyffredinol, peiriant Pelydr-X o'r frest, ystafell Damweiniau ac Achosion Brys, Uwchsain a Mamograffeg.

Anogir trefniadau datblygu rolau, ac mae gennym brofion Llyncu Bariwm a hysterosalpingogramau dan arweiniad Radiograffwyr, gwaith adrodd Radiograffwyr ffilm blaen, CT, MRI a Meddygaeth Niwclear, yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer astudiaeth ôl[1]raddedig, sy'n cynnwys hyfforddiant ar uwchsain, ledled y Bwrdd Iechyd.

Mae gan yr adran wasanaeth ar alwad prysur, sy'n cael ei staffio ar y safle yn achos y gwasanaethau Cyffredinol a CT.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:
• Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
• Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
• Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
• 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartre.
• Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i gefnogi ei staff i goleddu'n llawn yr angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn unol â'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Cynhelir y cyfweliadau ar 17/09/2025

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • BSc Radiograffeg, neu gyfwerth cydnabyddedig
  • Cofrestriad HCPC
  • Cyrsiau arbenigol byr neu brofiad hyd at lefel diploma ol-raddedig
Meini prawf dymunol
  • Dealltwriaeth o weithdrefnau radiograffeg arbenigol a PACS
  • Tystysgrif ôl-raddedig mewn Mammography
  • Cymhwyster ol-raddedig

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Yn gymwys i ddefnyddio gwahanol offer a thechnegau pelydr-x
  • Sgiliau radiograffydd
  • Profiad helaeth mewn arholiadau arbenigol (CT/MRI)
  • Goruchwylio a Hyfforddi Radiograffwyr
Meini prawf dymunol
  • Profiad blaenorol yn y GIG
  • Tystiolaeth o ddatblygu rol

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Sharon Roberts
Teitl y swydd
Deputy site Lead Radiographer
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg