Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Radioleg
Gradd
Gradd 3
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhannu swydd
  • Gweithio hyblyg
  • Oriau cywasgedig
37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-AC265-0925
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Bronglais,
Tref
Aberystwyth,
Cyflog
£25,313 - £26,999 y flwyddyn (pro rata os yn rhan-amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
22/09/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
02/10/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Cymorth Clercol/Cydlynydd Apwyntiadau Radioleg

Gradd 3

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig i ymuno â'r tîm i ddarparu cymorth clercol ar gyfer yr Adran Radioleg sydd wedi'i lleoli yn Ysbyty Bronglais

Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn unigolyn hyderus sy'n gyfforddus yn cyfathrebu â'r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol eraill. Bydd yn meddu ar lefel dda o sgiliau TG ac yn gallu rheoli a blaenoriaethu ei lwyth gwaith ei hun yn effeithiol. 

Mae Adran Radioleg Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn adran hapus a chyfeillgar. Wrth i chi weithio gyda ni byddwch yn cael eich cefnogi a'ch annog i gyrraedd eich llawn botensial yn y tîm. Mae'r adran yn darparu ystod o wasanaethau delweddu diagnostig i'r gymuned.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

O fod yn rhan o’r tîm clercol, chi yw’r person cyntaf y daw ein defnyddwyr gwasanaethau ar ei draws, felly mae’n rhaid i chi feddu ar sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol, bod yn dringar, yn ddiplomyddol, a gallu gweithio ar eich pen eich hun ac fel rhan o dîm yn yr adran brysur hon.

Mae'r swydd yn cynnwys ystod o ddyletswyddau clercol, gan gynnwys cwrdd â'r defnyddwyr gwasanaethau a'u cyfarch yn y dderbynfa, trefnu apwyntiadau, ac unrhyw ddyletswyddau clercol eraill sy'n ofynnol i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i'r defnyddwyr gwasanaethau a'r gymuned.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio. 

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

•    Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd 
•    Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro · Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall 
•    47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref 
•    Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadau ar 02/10/2025

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cymhwyster lefel 3 NEU gymhwyster cyfatebol ynghyd a phrofiad perthnasol
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd gweinyddol.
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth ymarferol am raglenni Windows, e.e. Microsoft Word

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio mewn rol weinyddol
  • Sgiliau trefnu, ynghyd a'r gallu i gynllunio eich llwyth gwaith eich hun a bodloni unrhyw derfynau amser
  • Delio a'r cyhoedd, a phrofiad o ateb galwadau ffon ac ymateb i ymholiadau
  • Y gallu i weithio dan bwysau ac i gadw'n ddigynnwrf bob amser

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Sharon Roberts
Teitl y swydd
Deputy Site Lead Radiographer
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01970 635356
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg