Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Radioleg
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Rhannu swydd
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AHP077-0825
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Bronglais
- Tref
- Aberystwyth
- Cyflog
- £39,263 - £47,280 y flwyddyn (pro rata os rhan-amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 11/09/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 22/09/2025
Teitl cyflogwr
Radiograffydd Arbenigol - CT
Gradd 6
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Oherwydd bod y gwasanaethau'n cael eu hehangu, mae Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn chwilio am Radiograffydd CT profiadol.
Bydd ymgeiswyr yn meddu ar BSc/ byddant wedi'u cofrestru gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC), a bydd ganddynt brofiad priodol CT.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu lleoli ynYsbyty Cyffredinol Bronglais; fodd bynnag, bydd disgwyl iddynt fod yn hyblyg yn eu hagwedd at anghenion y gwasanaeth, ac efallai y bydd gofyn iddynt weithio ar safleoedd eraill yn y Bwrdd Iechyd.
Mae'n swydd lawn-amser, a rhoddir ystyriaeth i weithio rannu swydd, yn ogystal â chymryd rhan mewn diwrnodau estynedig mae'r rota y tu allan i oriau yn hanfodol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn ysbyty cyffredinol prysur. Mae'r adran yn cynnwys cyfarpar helaeth, sy'n cynnwys Canon Aquilion Prism a gafodd ei osod yn ddiweddar. Rydym yn cyflawni'r ystod lawn o archwiliadau, gan gynnwys Angiograffeg Coronaidd CT.
Mae gan yr adran sganiwr MRI Siemens Sola1.5T ac mae'n cynnal yr holl archwiliadau. Mae gan yr adran gyffredinol ddwy ystafell Samsung DR a detholiad o gyfarpar Philips II ac ystafell fflworosgopeg Siemens Artis Zee, ac mae'r holl gyfarpar symudol yn ddigidol.
Anogir ymestyn rolau, ac mae gennym brofion Llyncu Bariwm a hysterosalpingogramau dan arweiniad Radiograffwyr, ffilm blaen, gwaith adrodd Radiograffwyr CT ac MRI, a chyfleoedd ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig, sy'n cynnwys hyfforddiant ar uwchsain
Mae gan yr adran wasanaeth ar alwad prysur, sy'n cael ei staffio ar y safle yn achos y gwasanaethau Cyffredinol a CT. Mae cymryd rhan yn y gwasanaeth ar alwad yn orfodol ar ôl cwblhau'r hyfforddiant a'r broses gynefino
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
· Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
· Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
· Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
· 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
· Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i gefnogi ei staff i goleddu'n llawn yr angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn unol â'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Cynhelir y cyfweliadau ar 22.09.25
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- BSc Radiograffeg (neu gymhwyster cyfatebol cydnabyddedig)
- Cyrsiau arbenigol byr neu brofiad hyd at lefel diploma ôl-raddedig
- Cofrestriad gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
Meini prawf dymunol
- Dealltwriaeth o weithdrefnau radiograffeg arbenigol a PACS
- Cymhwyster ôl-raddedig
- Tystysgrif ôl-raddedig mewn Mammography
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Yn gymwys i ddefnyddio cyfarpar a thechnegau pelydr-x gwahanol
- Sgiliau Radiograffeg
- Profiad sylweddol mewn archwiliadau arbenigol (CT/MR)
- Goruchwylio a Hyfforddi Radiograffwyr
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol yn y GIG
- Tystiolaeth o ddatblygu rôl
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Catherine Davies
- Teitl y swydd
- CT Superintendent Radiographer
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Sharon Roberts - Dirprwy Arweinydd Safle
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau Perthynol i Iechyd neu bob sector





