Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Ysgrifennydd
- Gradd
- Band 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 30 awr yr wythnos (Dyddiau i'w trafod yn y cyfweliad)
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AC054-0226
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Bronglais/Clinig Gogledd y Ffordd
- Tref
- Aberystwyth
- Cyflog
- £25,313 - £26,999 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 11/03/2026 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 24/03/2026
Teitl cyflogwr
Ysgrifennydd Clinigol
Band 3
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle newydd am swydd wedi dod ar gael ar gyfer Ysgrifennydd Clinigol i ymuno â'n Tîm Ysgrifenyddion Meddygol.
Mae'r swydd hon yn un 30 awr yr wythnos.
Byddwch yn gyfrifol am deipio adroddiadau clinigau, trefnu apwyntiadau, ateb ymholiadau dros y ffôn, mynd ar drywydd canlyniadau profion, cyrchu cofnodion meddygol a chysylltu â gweithwyr proffesiynol eraill. Bydd gofyn i chi feddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol a bod â phrofiad o ddyletswyddau clercol a gweinyddol. Bydd angen i chi allu gweithio mewn modd pwyllog, rhesymegol a threfnus, ond yn gallu gwneud sawl peth yr un pryd wrth ymdrin ag ymyriadau cyson. Byddai profiad o weithio mewn lleoliad gofal iechyd yn fantais
Prif ddyletswyddau'r swydd
Cefnogi'r adran trwy ddarparu gwasanaeth cymorth ysgrifenyddol a gweinyddol cynhwysfawr i'r staff clinigol yn y gwasanaeth.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gynnal cofnodion â llaw ac ar system gyfrifiadurol, a bydd yn amlygu'r gallu i drin gwybodaeth sensitif a chyfrinachol am gleifion, e.e. llythyrau clinigol, ymchwiliadau a chanlyniadau.
Darparu gwasanaeth cyflenwi os bydd unrhyw ysgrifennydd meddygol yn absennol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro ·
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 24/03/2026.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Lefel 3 neu gymhwysedd i lefel gyfatebol mewn prosesu geiriau a thrawsgrifio sain
- Gwybodaeth am ystod o weithdrefnau ysgrifenyddol
- Gwybodaeth am raglenni meddalwedd, e.e. pecynnau Microsoft, e-bost, y Rhyngrwyd a chronfeydd data
- 5 TGAU neu gymwysterau cyfatebol
Meini prawf dymunol
- NVQ Lefel II mewn Gweinyddu
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ysgrifenyddol a/neu weinyddol blaenorol
- Profiad mewn Gwasanaeth Iechyd – yn gyfarwydd a defnyddio termau meddygol
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Sam Strickleton
- Teitl y swydd
- Medical Secretary Co-ordinator
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07974867577
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Claire Davies - Rheolwr Gwasanaethau Ysbyty
01970 635409
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector





