Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Llawdriniaeth
Gradd
Gwasanaethau Meddygol a Deintyddol y GIG: Meddyg Arbenigol
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 10 sesiwn yr wythnos (Ar alwad y tu allan i oriau)
Cyfeirnod y swydd
100-MED-BGH-164
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Bronglais
Tref
Aberystwyth
Cyflog
£64,292 - £102,689 y flwyddyn
Yn cau
23/08/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Meddyg Arbenigol mewn Llawdriniaeth Gyffredinol

Gwasanaethau Meddygol a Deintyddol y GIG: Meddyg Arbenigol

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.

Trosolwg o'r swydd

Dewch i ymuno â'n tîm Llawdriniaeth Gyffredinol a chwarae rôl allweddol wrth ddarparu gofal llawfeddygol o ansawdd uchel i gleifion ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae'r swydd hon yn cynnig y cyfle i weithio mewn amgylchedd cefnogol a chydweithredol, gan ddarparu gwasanaethau llawfeddygol dewisol a brys fel ei gilydd i gymunedau lleol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyfrannu at y gwaith o atal cyflyrau llawfeddygol, gwneud diagnosis a'u trin, gan weithio'n agos gyda chyd-weithwyr ar draws y tîm amlddisgyblaethol i ofalu bod cleifion yn cael gofal diogel ac effeithiol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Byddwch yn cymryd rhan mewn rota argyfwng 1:4, gan gefnogi'r broses o ddarparu gwasanaeth llawfeddygol 24 awr ymatebol. Mae cymorth ymgynghorol ar gael ar y safle yn ystod oriau gweithio arferol, yn ogystal ag oddi ar y safle y tu allan i oriau.

Gan weithio gyda chyd-weithwyr llawfeddygol, meddygol, nyrsio a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd profiadol, byddwch yn helpu i ddarparu gofal ardderchog i gleifion wrth feithrin perthnasoedd cryf â chleifion, teuluoedd a gofalwyr, gan sicrhau eu bod yn cael yr wybodaeth berthnasol ac yn cael eu cynnwys trwy gydol hynt eu triniaeth.

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

O fod yn rhan o'r tîm Llawdriniaeth Gyffredinol, byddwch yn cyfrannu at y gwaith parhaol o ddatblygu gwasanaeth llawfeddygol o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar y claf, ynghyd â darparu asesiad, triniaeth a rheolaeth barhaus ar gyfer cleifion sy'n ymgyflwyno ag ystod eang o gyflyrau llawfeddygol acíwt a dewisol.

 

Bydd y prif gyfrifoldebau'n cynnwys: 

 

Cymryd rhan yn y broses o ddarparu a datblygu gwasanaeth Llawdriniaeth Gyffredinol cynhwysfawr

Ymgymryd â'r gwaith o asesu cleifion acíwt, eu harchwilio a'u trin ym maes Llawdriniaeth Gyffredinol

Cyfrannu at y broses o ddarparu gofal llawfeddygol trwy gymryd rhan yn y rota ar alwad

Darparu arweinyddiaeth glinigol a chydweithio ag aelodau eraill y tîm amlddisgyblaethol i sicrhau bod gofal cleifion o'r safon uchaf

Cefnogi datblygiad addysgu, hyfforddi ac ymchwilio ar draws y sefydliad

Gweithio'n agos gyda chyd-weithwyr clinigol, rheolaethol a phroffesiynol i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd diogel, effeithiol ac effeithlon

Cymryd rhan mewn gweithgarwch archwilio, mentrau gwella ansawdd a rhaglenni addysgu ôl-raddedig

Cadw cofnodion cywir, clir ac amserol a gofalu bod yna gyfathrebu effeithiol ar draws timau clinigol

Monitro ac ymateb i adborth cleifion a mesuriadau profiad i gefnogi gwelliant parhaus i wasanaethau

Hyrwyddo a darparu ymarfer clinigol seiliedig ar dystiolaeth i gael y canlyniadau gorau posibl i gleifion

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio. 

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynraddcymunedyn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu. 

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleolyn ogystal â chydweithwyr cyhoedduspreifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr. 

Darperir ein gwasanaethau yn: 

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlfford 

  • Pum ysbyty cymunedolYsbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro 

  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall 

  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartre 

  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon. 

 

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwyddgan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynolrydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraegmae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.  

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cofrestriad GMC llawn a thrwydded i ymarfer.
  • Sgiliau Cynnal Bywyd Uwch Ardystiedig a Dilys
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster(au) clinigol ychwanegol.
  • Tystiolaeth o weithio tuag at aelodaeth o'r Coleg Brenhinol.

Llywodraethu Clinigol

Meini prawf hanfodol
  • Cymryd rhan mewn archwiliad clinigol (neu brosiect gwella ansawdd) a deall rôl archwilio wrth wella ymarfer meddygol
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth am reoli risg.
  • Gwybodaeth am y broses flynyddol o adolygu cynllunio/arfarnu swyddi

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Rhaid bod wedi cwblhau o leiaf bedair blynedd o hyfforddiant ôl-raddedig llawn-amser (neu'r hyn sy'n cyfateb i'w ennill ar sail rhan-amser neu hyblyg), a bydd o leiaf dwy ohonynt mewn rhaglen hyfforddi arbenigedd mewn arbenigedd perthnasol neu fel hyfforddai arbenigedd cyfnod penodol mewn arbenigedd perthnasol; neu brofiad a chymwyseddau cyfatebol.
  • Yn gallu dangos cymwyseddau craidd a sgiliau clinigol sy'n berthnasol i'r swydd.
Meini prawf dymunol
  • Profiad yn y GIG.
  • Gallu dangos tystiolaeth o arwain tîm.

Addysgu

Meini prawf hanfodol
  • Parodrwydd i addysgu pob gradd o staff amlddisgyblaethol proffesiynol.
Meini prawf dymunol
  • Tystiolaeth o drefnu rhaglenni ac addysgu myfyrwyr meddygol a meddygon preswyl.

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol
  • Ymagwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth
Meini prawf dymunol
  • Siarad Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Samy Mohamed
Teitl y swydd
General Surgery Consultant
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Simone Sebastiani

Meddyg Ymgynghorol y Colon a'r Rhefr

[email protected]

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg