Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gweinyddu
Gradd
Gradd 4
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhannu swydd
37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am-5pm)
Cyfeirnod y swydd
100-AC327-1125
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ty Gwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£27,898 - £30,615 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
30/11/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
09/12/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Cydgysylltydd Rhestrau Aros

Gradd 4

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn bwriadu recriwtio Cydgysylltydd Rhestrau Aros parhaol i ymuno â'n Tîm Niwroddatblygiadol yn Nhŷ Gwili yng Nghaerfyrddin.

Mae hon yn rôl heriol a boddhaol, sy'n gofyn am sgiliau cyfathrebu rhagorol i gysylltu â chleifion, perthnasau ac aelodau o'r tîm amlddisgyblaethol. Mae profiad o ddefnyddio systemau megis WPAS ac WCP yn ddymunol.

Prif ddyletswyddau'r swydd

A chithau'n gydgysylltydd rhestrau aros, byddwch yn darparu cymorth cydlynu a gweinyddol cynhwysfawr i'r Tîm Niwroddatblygiadol. 

Disgwylir i chi drin cofnodion iechyd cyfrinachol â llaw ac ar Myrddin, a hefyd amlygu'r gallu i drin gwybodaeth sensitif a chyfrinachol am gleifion, h.y. llythyrau clinigol, ymchwiliadau a chanlyniadau.

Deiliad y swydd a fydd y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pob math o gyfathrebu gan y Meddyg Ymgynghorol a'r tîm meddygol, a chan feddygon teulu, cleifion, perthnasau ac ysbytai eraill, a hynny o ran rhestrau aros yr arbenigeddau a ddynodwyd iddo.

Defnyddio system WPAS mewn modd cymwys i fewnbynnu ac adalw gwybodaeth am gleifion. 

Byddwch yn darparu cymorth gweinyddol cynhwysfawr, yn cynnwys rheoli dyddiaduron, a threfnu cyfarfodydd, i gynnwys cymryd cofnodion a pharatoi adroddiadau, dogfennau a gohebiaeth arall yn ôl y cyfarwyddyd. 

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio. 

 

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

 

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

 

Darperir ein gwasanaethau yn:

 

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd 
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro ·
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall 
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref 
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadau ar 9/12/25

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cymhwyster Lefel 3 (e.e. Safon Uwch, Safon UG, NVQ3) neu brofiad amlwg cyfatebol o wybodaeth a sgiliau gweinyddol/swyddfa
  • Profiad o amrediad llawn o ddyletswyddau sy'n ymwneud â gweithio mewn amgylchedd gweinyddol/swyddfa
  • Gwybodaeth am derminoleg arbenigol y GIG/Sefydliadol
Meini prawf dymunol
  • Hyfforddiant ysgrifenyddol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd gweinyddol/swyddfa
  • Yn gyfarwydd â phecynnau TG Microsoft, yn enwedig Word, Excel a PowerPoint, ac yn gymwys i'w defnyddio
  • Profiad o sefydlu taenlenni a chronfeydd data
  • Yn gyfarwydd â defnyddio system e-bost a chwilio'r Rhyngrwyd, ac yn hyderus wrth wneud hynny
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio mewn tîm amlddisgyblaethol

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg ( Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Coleen Taylor
Teitl y swydd
Administration Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01437 773369
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Marie Walters - [email protected] 

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg