Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Cymunedol
- Gradd
- Band 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 30 awr yr wythnos (Dyddiau a nosweithiau)
- Cyfeirnod y swydd
- 100-ACS149-0626
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Canolfan Gofal Integredig Aberteifi neu Aberaeron
- Tref
- Aberteifi/Aberaeron
- Cyflog
- £26,813 - £27,890 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 21/06/2026 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 29/06/2026
Teitl cyflogwr
Gweithiwr Cymorth Nyrsio Gofal Brys yr Un Diwrnod
Band 3
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn chwilio am Weithiwr Cymorth Gofal Iechyd ymuno â'n tîm dan arweiniad nyrsys sy'n gwasanaethu cymuned Ceredigion a'r ardaloedd cyfagos. Ar hyn o bryd, mae'r gwasanaeth yn gweithredu 24/7 gydag ystod o shifftiau dydd, 07:30 i 20:00, a nos, 19:30-08:30, gan gynnwys Gwyliau Banc. Gall yr oriau gwaith amrywio yn ôl gofynion y dyfodol.
Mae Gwasanaeth Gofal Brys yr Un Diwrnod ac Allgymorth Ceredigion yn darparu gofal a thriniaeth i gleifion sy'n ymgyflwyno ag ystod eang o fân anafiadau a salwch. Mae'n amser cyffrous i ymuno â'n tîm sydd bellach wedi'i leoli yn y ganolfan gofal integredig yn Aberaeron. Rydym bob amser yn archwilio ffyrdd newydd o weithio, ac yn chwilio am unigolyn blaengar a all chwarae rhan allweddol wrth symud y gwasanaeth mawr ei angen hwn yn ei flaen.
Byddwch yn gweithio mewn modd pwyllog a hyderus, a byddwch yn amlygu sgiliau cyfathrebu rhagorol, ynghyd â'r gallu i reoli a blaenoriaethu llwythi gwaith yn effeithiol. Mae gweithio mewn tîm a'r gallu i fod yn hyblyg yn bwysig er mwyn sicrhau y gellir darparu gwasanaethau mewn modd effeithlon ac effeithiol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn allweddol wrth sicrhau bod yr adran yn cael ei rhedeg mewn modd didrafferth, gan gefnogi'r staff â dyletswyddau'r gweithwyr cymorth iechyd a dyletswyddau gweinyddol. Mae cysylltiad blaenorol â'r amgylchedd gofal iechyd yn hanfodol gan fod y rôl yn ymgorffori amrywiaeth o ddyletswyddau gofal iechyd, gan
gynnwys cofnodi arsylwadau cleifion, cyflawni ECGs, tynnu gwaed, gosod canwlâu, ac ati, a chefnogi'r staff hyfforddedig ag asesiadau cychwynnol a darparu triniaethau gofal dan oruchwyliaeth.
Mae'r rôl hefyd yn cynnwys amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol, gan gynnwys gweithio wrth ddesg y dderbynfa, rhoi manylion cleifion ar y systemau TG amrywiol, a chefnogi dyletswyddau gweinyddol cyffredinol y tîm.
Rhan o'r rôl hefyd yw gweithio ochr yn ochr â'r tîm allgymorth cymunedol, gan ddarparu gofal a chymorth i gleifion yn eu cartrefi eu hunain yn ystod y dydd a'r nos.
Mae'r gwasanaeth yn datblygu'n gyson, yn unol â newidiadau yn y ddarpariaeth gofal iechyd leol a chenedlaethol, ac rydym yn chwilio am berson blaengar, cymwys a gofalgar sydd â'r gallu i weithio'n dda dan bwysau.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi ymrwymo i wella gwasanaethau, bydd yn gallu derbyn newid, a bydd ganddo'r awydd i weithio mewn amgylchedd cadarnhaol sy'n derbyn yr heriau y mae gofal brys yn eu hwynebu wrth i'r gwasanaeth symud yn ei flaen.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o
- fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Cyfweliadau i'w cynnal ar 29/06/2026
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster Lefel 3 mewn pwnc cysylltiedig â gofal iechyd Neu Brofiad cyfatebol a bydd yn gallu dangos tystiolaeth o gymhwysedd seiliedig ar waith ac arddangos gwybodaeth ddamcaniaethol. Bydd yn gallu cyflawni dyletswyddau gofal clinigol sy'n berthnasol i'r rôl a enillir drwy brofiad a hyfforddiant seiliedig ar waith/cyrsiau byr.
- Gwybodaeth am y Cod Ymddygiad ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd yng Nghymru a Chanllawiau Dirprwyo Cymru Gyfan (AaGIC)
- Gwybodaeth am bolisïau a gweithdrefnau perthnasol yn y lleoliad gofal iechyd er enghraifft egwyddorion Diogelu oedolion/plant i gadw cleifion yn eu gofal yn ddiogel. Hefyd cyfrinachedd er enghraifft y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio mewn amgylchedd iechyd neu ofal cymdeithasol perthnasol, a darparu gofal uniongyrchol i gleifion
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio gyda grwpiau cleifion sy'n berthnasol i faes yr ymarfer.
- Profiad o weithio yn y GIG.
Sgiliau iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Bianca Oakley
- Teitl y swydd
- Clinical Lead
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01239 803075
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Ffoniwch i drefnu ymweliad anffurfiol cyn y cyfweliad
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a Bydwreigiaeth neu bob sector





