Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gweinyddiaeth
Gradd
Band 4
Contract
Cyfnod Penodol: 6 mis (Cyfnod Penoldol / Secondiad tan 31/03/2026)
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-AC186-0725-A
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Hafan Derwen
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£27,898 - £30,615 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
13/08/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
22/08/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Cynorthwyydd Personol – Grŵp Gofal Clinigol

Band 4

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL / SECONDIAD AM 6 MIS TAN 31/03/2026 OHERWYDD SECONDIAD.  Os ydych yn yn gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am secondiad i'r swydd hon, bydd angen i'ch rheolwr presennol gytuno i'r secondiad cyn i chi gyflwyno eich cais.

Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael ar gyfer Cynorthwyydd Personol llawn-amser i Uwchdîm Arwain Grŵp Gofal Clinigol y Proffesiynau Perthynol i Iechyd a Gwyddor Iechyd. Mae'r swydd wedi'i lleoli yn Hafan Derwen ym Mharc Dewi Sant, Caerfyrddin, ac mae'n un cyfnod sefydlog tan 31 Mawrth 2026 o ganlyniad i secondiad deiliad parhaol y swydd. 

Mae'r swydd hon yn ganolog i redeg y Grŵp Gofal Clinigol yn esmwyth, grŵp sy'n rhan o bortffolio'r Prif Swyddog Gweithredu. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu cymorth i Dîm Arwain y Proffesiynau Perthynol i Iechyd a Gwyddor Iechyd o fewn cwmpas ei gyfrifoldebau, gan weithredu fel y brif sianel gyfathrebu yn y tîm, ar gyfer cyd-weithwyr ledled y Bwrdd Iechyd, ac ar gyfer rhanddeiliaid allanol. 

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, hunanysgogol, sydd â sgiliau trefnu, cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol. Mae'r rôl yn gofyn am baratoi agendâu, llunio cofnodion a chofnodion gweithredu amserol, cywir, a datblygu a rheoli systemau electronig i gefnogi swyddogaeth y grŵp gofal. 

Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad yn y meysydd hyn, ynghyd â gwybodaeth ymarferol ragorol am Microsoft Office, a bydd yn gwneud defnydd effeithlon o becynnau Microsoft Office, gan weithio'n annibynnol gyda'r gallu i fod yn flaengar a gweithio i derfynau amser a blaenoriaethu yn wyneb gofynion newidiol. 

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar 22/08/2025.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Cymhwyster Lefel 3 (e.e. Safon Uwch, Lefelau UG, NVQ3) neu gymhwyster cyfatebol
  • Profiad amlwg o amrywiaeth lawn o ddyletswyddau yn ymwneud a gweithio mewn amgylchedd gweinyddol/swyddfa
  • Gwybodaeth am derminoleg arbenigol y GIG/sefydliadol
Meini prawf dymunol
  • Hyfforddiant ysgrifenyddol
  • Wedi eich addysgu i lefel diploma

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o fod yn Gynorthwyydd Personol i Uwch-reolwr
  • Blaenoriaethu ffrydiau gwaith a chyflawni yn unol a therfynau amser heriol,
  • Rheoli dyddiadur electronig/mewnflwch (Outlook) yn effeithiol ac effeithlon
  • Cymryd a chynhyrchu cofnodion manwl gywir
  • Dehongli data a’u coladu mewn ffurf safonol
  • Rheoli/cynnal system ffeilio ar gyfer ffeiliau electronig a ffeiliau papur
  • Profiad o drefnu cyfarfodydd mewn gwahanol leoliadau,
  • Ymdrin a gwybodaeth gyfrinachol iawn a all fod yn ddadleuol/sensitif weithiau
  • Dealltwriaeth o’r GIG
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd cymhleth, prysur
  • Profiad o ddefnyddio pecynnau Microsoft Office (gan gynnwys MS Teams)
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio mewn sefydliad mawr a chymhleth

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Sara Quarrie
Teitl y swydd
Service Director - AHP and Health Sciences
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Mark Jennings

[email protected]

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg