Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gweinyddiaeth
- Gradd
- Gradd 5
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AC064-0326
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Awyddfa Gorfforaethol, Ail Lawr, Bloc C, Adeiladau'r Llywodraeth
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £31,516 - £38,364 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 22/03/2026 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 30/03/2026
Teitl cyflogwr
Swyddog Gwasanaethau Pwyllgor
Gradd 5
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Rydym am benodi unigolyn trylwyr sy'n eithriadol o drefnus ac effeithlon i gefnogi gwaith y Tîm Llywodraethu Corfforaethol.
Ac yntau'n weinyddwr profiadol gyda hanes o wasanaethu pwyllgorau lefel Bwrdd, bydd deiliad y swydd yn rhan o dîm profiadol a phroffesiynol, ond disgwylir iddo weithio'n annibynnol.
Mae'r swydd hon yn canolbwyntio'n bennaf ar ddarparu cymorth gweinyddol cadarn yn rôl Ysgrifenyddiaeth Pwyllgorau i Bwyllgorau'r Bwrdd, a hynny er mwyn sicrhau bod ei weithgarwch yn mynd rhagddo mewn modd llyfn, yn unol â'r Fframwaith Llywodraethu Corfforaethol. Bydd y rôl yn adrodd i'r Pennaeth Llywodraethu Corfforaethol, ac yn gweithio'n agos gyda Chyfarwyddwyr Gweithredol Arweiniol a Chadeiryddion Aelodau Annibynnol, a bydd yn cynnwys darparu cymorth gweinyddol ar gyfer gwasanaethu Pwyllgorau'r Bwrdd, sy'n cynnwys datblygu rhaglenni ar gyfer gwaith y pwyllgorau ac ysgrifennu adroddiadau ffurfiol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae hon yn rôl heriol a fydd yn cynnwys paratoi, coladu a dosbarthu papurau pwyllgorau, yn ogystal â chymryd a thrawsgrifio cofnodion ffurfiol.
Mae'r gallu i gynnal cyfrinachedd ac amlygu tact a diplomyddiaeth bob amser yn hanfodol, ynghyd â'r gallu i ddangos ymrwymiad i'r tîm trwy weithio'n hyblyg i gynnig gwasanaeth cyflenwi yn ystod gwyliau blynyddol, salwch a hyfforddiant.
Dylai fod gan yr ymgeisydd llwyddiannus wybodaeth fanwl am lywodraethu corfforaethol a gwasanaethau pwyllgorau. Mae sgiliau bysellfwrdd a chyfrifiadurol uwch, ynghyd â sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da, yn hanfodol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i goleddu'r angen am ddwyieithrwydd yn llawn, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn unol â'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadau ar 30/03/2026.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Addysg hyd at lefel gradd neu lefel berthnasol o brofiad cyfatebol
- Gwybodaeth eang am weithdrefnau llywodraethu corfforaethol, h.y. gweithdrefnau llywodraethu gwybodaeth, rheoli polisi, rheoli cofnodion, materion cyfrinachedd
- Gwybodaeth ardderchog a thrylwyr o becynnau Microsoft Office gan gynnwys Word ac Excel
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster/gallu llaw-fer
- Cymhwyster ysgrifenyddol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o gynhyrchu agendau a phapurau ar gyfer cyfarfodydd
- Profiad o gymryd cofnodion a darparu cefnogaeth gwasanaethu pwyllgor
- Profiad o ysgrifennu adroddiadau cryno a chywir
- Profiad rhagorol o weithdrefnau gweinyddol a llywodraethu yn y sector cyhoeddus
- Profiad o ddatblygu a chynnal systemau a gweithdrefnau gweinyddol
- Profiad o ymdrin a Chyfarwyddwyr Gweithredol, Uwch Reolwyr a staff ar bob lefel o'r sefydliad
- Profiad o gysylltu a rhanddeiliaid allanol
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio mewn swyddogaeth weinyddol ar lefel uwch yn y GIG
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol
- Agwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Karen Richardson
- Teitl y swydd
- Corporate & Partnership Governance Officer
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Cysylltwch trwy e-bost yn y lle cyntaf.
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector





