Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gweinyddiaeth
- Gradd
- Gradd 5
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AC188-0626
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Hafan Derwen, Parc Dewi Sant
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £32,557 - £39,631 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 26/07/2026 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 05/08/2026
Teitl cyflogwr
Rheolwr Cymorth Prosiectau
Gradd 5
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wrthi’n recriwtio Dau Reolwr Cymorth Prosiectau (Cymorth Busnes) parhaol yng Nghyfarwyddiaeth Iechyd y Cyhoedd. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn rheoli prosiectau amrywiol o fewn y Gyfarwyddiaeth. Dylai ymgeiswyr llwyddiannus feddu ar ddull rhagweithiol o ddatrys problemau; dylent hefyd fod â sgiliau
cyfathrebu effeithiol a’r gallu i adeiladu perthnasoedd gwaith da.
Dylai ymgeiswyr fod wedi cael addysg hyd at lefel gradd o leiaf neu brofiad cyfatebol, yn ogystal â phrofiad o gefnogi gwaith rheoli prosiectau.
Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal wyneb yn wyneb yn Hafan Derwen, Parc Dewi Sant, Caerfyrddin a bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio o'r swyddfa unwaith yr wythnos neu yn ôl y gofyn.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae hon yn rôl gyffrous a fydd yn darparu cymorth rheoli prosiectau i brosiectau gwahanol o fewn Cyfarwyddiaeth Iechyd y Cyhoedd.
Dylai ymgeiswyr llwyddiannus feddu ar ddull rhagweithiol o ddatrys problemau. Dylent hefyd fod â sgiliau cyfathrebu effeithiol a’r gallu i adeiladu perthnasoedd gwaith da. Mae gwybodaeth weithredol o becynnau Microsoft Office yn enwedig MS Planner / Project, MS Teams a Sharepoint yn hanfodol.
Mae profiad amlwg o gefnogi a rheoli prosiectau yn hanfodol yn ogystal â phrofiad o drefnu a chydlynu ystod o brosiectau cymhleth ar yr un pryd.
Dylai fod gan yr ymgeiswyr llwyddiannus y gallu i feithrin perthnasoedd a chyfathrebu'n effeithiol yn ysgrifenedig, wyneb yn wyneb a thros y ffôn â chynulleidfa eang, gan gynnwys clinigwyr, technegwyr, rheolwyr a gweinyddwyr.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd.
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro.
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall.
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref.
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 05/08/2026
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd neu brofiad cyfatebol/DPP
- Gwybodaeth weithredol o becynnau Microsoft Office yn benodol MS Planner/Project, MS Teams, Sharepoint
Meini prawf dymunol
- Dealltwriaeth o'r systemau a ddefnyddir yn sefydliadau'r GIG, gan gynnwys gofal sylfaenol, cymunedol ac eilaidd
- Cymhwyster rheoli prosiectau
- Dealltwriaeth o amrywiol becynnau cyfryngau cymdeithasol (e.e. Linkedin, Facebook, Twitter)
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad amlwg o gefnogi a rheoli prosiectau
- Profiad amlwg o drefnu a chydlynu ystod o brosiectau cymhleth ar yr un pryd
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio yn amgylchedd y GIG
- Dealltwriaeth o fethodoleg prosiectau
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel1)
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Conrad Hancock
- Teitl y swydd
- Senior Service Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Os hoffech drafod y swydd hon, cysylltwch â mi trwy e-bost i drefnu hynny.
Fy nghyfeiriad e-bost yw [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector





