Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gweinyddu
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun - Dydd Gwener)
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AC191-0725
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Hafan Derwen, Parc Dewi Sant
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £24,433 - £26,060 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 27/07/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 08/08/2025
Teitl cyflogwr

Cydlynydd Llwybrau Cleifion
Gradd 3
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Sicrhau trefniadau llywodraethu cadarn dros lwybrau cleifion yn y Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol, a hynny trwy gynnal goruchwyliaeth a rheolaeth ar gapasiti a galw clinigol, ac ar y rhestr aros weithredol.
Gan gydweithio'n agos â'r Tîm Rheoli, clinigwyr a thimau gwybodaeth, gwneud y defnydd mwyaf posibl o'r adnoddau clinigol sydd ar gael, ac anelu at ddarparu gwasanaeth proffesiynol, cyson ac ymatebol sy'n canolbwyntio ar y claf.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Yn y rôl hon, byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod ein rhestrau aros yn cael eu cynnal a'u cadw'n gywir a'u bod yn gyfredol. Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gydlynu'r camau nesaf yn nhaith y claf, gan sicrhau ei fod yn cael yr wybodaeth glinigol a gweinyddol iawn ar yr amser iawn – boed yn ymwneud â'i apwyntiadau neu ei driniaethau sydd ar ddod.
Byddwch hefyd yn gweithio'n agos gyda'n tîm rheoli gweithredol i helpu i wella profiad cleifion a chyflawni targedau perfformiad allweddol, megis lleihau nifer yr apwyntiadau a gollir (DNA).
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 08/08/2025.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- TGAU Mathemateg a Saesneg a chymhwyster galwedigaethol Lefel 3 neu brofiad cyfatebol
- Gwybodaeth am Derminoleg Feddygol/Gofal Iechyd
- Gwybodaeth am Lwybrau Cleifion
Meini prawf dymunol
- Gradd israddedig neu brofiad cyfatebol
- Gwybodaeth am bolisïau a strategaethau cenedlaethol y GIG
- Gwybodaeth am lwybrau cleifion yn y Gwasanaethau Deintyddol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o amrediad llawn o ddyletswyddau sy'n ymwneud â gweithio mewn amgylchedd gweinyddol/swyddfa
- Profiad o weithio mewn tîm amlddisgyblaethol
- Profiad o ddefnyddio Microsoft Office (Outlook, Excel, Word, Teams)
- Profiad o ddelio â'r cyhoedd
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio yn y GIG
- Profiad o weithio mewn rôl gweinyddu llwybr
Arall
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Carol Seabourne
- Teitl y swydd
- Service Improvement and Operational Lead
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector