Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gweinyddol
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun - Dydd Gwener 9y.b.-5y.p.)
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AC230-0825
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Hafan Derwen
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £25,313 - £26,999 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 25/08/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 02/09/2025
Teitl cyflogwr

Swyddog Gweinyddol
Gradd 3
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn chwilio am ddau berson brwdfrydig i ymuno â thîm diabetes y Bwrdd Iechyd. Bydd deiliaid y swyddi yn gweithio gyda'r tîm amlddisgyblaethol i ddarparu gwasanaethau diabetes teg o ansawdd rhagorol i bobl sy'n byw â diabetes a'u teuluoedd.
Bydd deiliaid y swyddi'n gweithio'n annibynnol, a byddant yn gyfrifol am gynorthwyo’r adran gyda dyletswyddau gweinyddol ac ysgrifenyddol cyffredinol, gan sicrhau gwasanaeth proffesiynol a chyfrinachol bob amser.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn darparu ystod o ddyletswyddau gweinyddol ac ysgrifenyddol sy'n cefnogi anghenion y tîm:
Bydd deiliad y swydd yn cynnal a chadw a diweddaru cronfeydd data, ac, yn ôl y gofyn, yn darparu gwybodaeth at ddibenion adrodd.
Blaenoriaethu gwaith dyddiol i gydymffurfio ag anghenion y tîm.
Mynediad i'r Rhyngrwyd ar gyfer adnoddau, gwybodaeth a chael ac anfon gwybodaeth trwy e-bost.
Cynllunio'r llwyth gwaith o fewn cyfyngiadau amser gan sicrhau bod unrhyw derfynau amser yn cael eu bodloni, h.y. anfon apwyntiadau, cofnodion.
Dosbarthu agendâu, papurau at aelodau'r tîm.
Ateb y ffôn a bod yn gyfrifol am gofnodi negeseuon yn gywir ac yn gryno a sicrhau bod yr aelod perthnasol o'r tîm yn cael y negeseuon.
Darparu cymorth clercol, gan drefnu apwyntiadau yn ôl y gofyn.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr
gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu
cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn
croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 02/09/2025
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster Lefel 3 (e.e. Safon Uwch, Safon UG, NVQ3) neu brofiad cyfatebol amlwg o sgiliau a gwybodaeth gweinyddol/swyddfa
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio mewn amgylchedd gweinyddol / swyddfa
- Yn gyfarwydd â phecynnau TG Microsoft, yn enwedig Word, Excel a PowerPoint, ac yn gymwys i'w defnyddio
- Yn gyfarwydd â defnyddio system e-bost a chwilio'r Rhyngrwyd, ac yn hyderus wrth wneud hynny
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio mewn tim amlddisgyblaethol
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Dawn a Gallu
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau llafar ac ysgrifenedig rhagorol
- Y gallu i weithio i derfynau amser
- Yn hunanysgogol ac yn gallu gweithio heb oruchwyliaeth
- Y gallu i weithio mewn tîm
- Sgiliau trefnu da
- Gallu blaenoriaethu
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am Derminoleg Feddygol/Gofal Iechyd
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Claire Hurlin
- Teitl y swydd
- strategic head community and ccm
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07805853577
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector