Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Anestheteg
Gradd
Gwasanaethau Meddygol a Deintyddol y GIG: Meddyg Arbenigol
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 10 sesiwn yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-MED-GGH-397-C
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£62,117 - £99,216 per annum
Yn cau
17/03/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Meddyg Arbenigol mewn Anestheteg

Gwasanaethau Meddygol a Deintyddol y GIG: Meddyg Arbenigol

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Ar hyn o bryd, rydym yn recriwtio Meddygon Arbenigol brwdfrydig ac ymroddedig mewn Anestheteg i gefnogi gwasanaethau anesthetig a gofal critigol yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili ac Ysbyty'r Tywysog Philip yn Sir Gaerfyrddin. Mae'r swyddi parhaol hyn yn cynnwys gwaith ar draws theatrau ac ardaloedd gofal critigol, gan gymryd rhan yn y rota ar alwad.

Ffocws ein Bwrdd Iechyd yw darparu gofal o ansawdd, sy'n canolbwyntio ar y claf, ac mae Meddygon Arbenigol yn chwarae rhan annatod wrth ddatblygu a darparu gwasanaethau Anesthetig a Gofal Critigol ledled y sefydliad.

Mae ysbytai Glangwili a'r Tywysog Philip, fel ei gilydd, yn ysbytai cyffredinol dosbarth prysur, sefydledig sydd â thimau amlddisgyblaethol, cefnogol a gweithlu amrywiol. Mae'r ysbytai wedi’u lleoli mewn ardal sy'n adnabyddus am ei hamgylchedd naturiol eithriadol, ei hagosrwydd at yr arfordir, a’i pharciau cenedlaethol. Nid oes angen sgiliau Cymraeg ar gyfer y swydd hon.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae'r Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i hyrwyddo cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, dilyniant gyrfa, a datblygiad proffesiynol parhaus. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn elwa o amodau gwaith rhagorol a'r cyfle i ddatblygu eu sgiliau clinigol mewn amgylchedd cyfeillgar a chydweithredol.

Yng Ngorllewin Cymru cynigir ansawdd bywyd uchel, gyda gweithgareddau awyr agored ar gael yn hawdd, ysgolion da, a chostau byw cymharol isel. Mae canolfannau trefol megis Abertawe a Chaerdydd o fewn cyrraedd, ac mae yna gysylltiadau ffyrdd a rheilffyrdd cryf rhwng y rhanbarth a dinasoedd a meysydd awyr mawr y DU. Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr rhyngwladol ac ymgeiswyr yn y DU. Anogir ymweliadau cyn y cyfweliad, a gellir trefnu trafodaethau rhithwir trwy Microsoft Teams i ymgeiswyr tramor.

Adolygwch fanyleb y person yn ofalus a gwnewch yn siŵr eich bod yn bodloni'r meini prawf hanfodol cyn gwneud cais.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio. 

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynraddcymunedyn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu. 

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleolyn ogystal â chydweithwyr cyhoedduspreifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr. 

Darperir ein gwasanaethau yn: 

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlfford 

  • Pum ysbyty cymunedolYsbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro 

  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall 

  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartre 

  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu 

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon. 

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwyddgan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynolrydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraegmae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.  

Dyma'r graddfeydd cyflog presennol sy'n berthnasolfodd bynnag, gall y rhain newid ar ôl gweithredu'r cytundeb fframwaith ar gyfer diwygio telerau ac amodau gwasanaeth meddygon a deintyddion preswyl yng Nghymru. Mae rhagor o fanylion ar gael yma: Cytundeb+-+Fframwaith+BMA+Cymru. 

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • • Cofrestriad GMC llawn a thrwydded i ymarfer
  • • Sgiliau Cynnal Bywyd Uwch Ardystiedig a Dilys
Meini prawf dymunol
  • • Cymhwyster(au) clinigol ychwanegol.
  • • Tystiolaeth o weithio tuag at aelodaeth o'r Coleg Brenhinol

Llywodraethu Clinigol

Meini prawf hanfodol
  • • Cymryd rhan mewn archwiliad clinigol (neu brosiect gwella ansawdd) a deall rôl archwilio wrth wella ymarfer meddygol
Meini prawf dymunol
  • • Gwybodaeth am reoli risg
  • • Gwybodaeth am y broses flynyddol o adolygu cynllunio/arfarnu swyddi

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • • Rhaid bod wedi cwblhau o leiaf bedair blynedd o hyfforddiant ôl-raddedig llawn-amser (neu'r hyn sy'n cyfateb i'w ennill ar sail rhan-amser neu hyblyg), a bydd o leiaf dwy ohonynt mewn rhaglen hyfforddi arbenigedd mewn arbenigedd perthnasol neu fel hyfforddai arbenigedd cyfnod penodol mewn arbenigedd perthnasol; neu brofiad a chymwyseddau cyfatebol.
  • • Yn gallu dangos cymwyseddau craidd a sgiliau clinigol sy'n berthnasol i'r swydd.
  • • Profiad yn y GIG.
Meini prawf dymunol
  • • Gallu dangos tystiolaeth o arwain tîm.

Addysgu

Meini prawf hanfodol
  • • Parodrwydd i addysgu pob gradd o staff amlddisgyblaethol proffesiynol.
Meini prawf dymunol
  • Tystiolaeth o drefnu rhaglenni ac addysgu myfyrwyr meddygol a meddygon preswyl.

Arall

Meini prawf hanfodol
  • • Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol
  • • Ymagwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth
Meini prawf dymunol
  • Siarad Cymraeg (Lefel 1)

Sgiliau a Phriodoleddau

Meini prawf hanfodol
  • • Gallu gweithio'n hyblyg
  • • Gallu bod yn bwyllog wrth weithio o dan bwysau
  • • Ymgymryd â chyfrifoldeb am arwain a goruchwylio tîm
  • • Sgiliau gweithio mewn tîm a sgiliau rhyngbersonol rhagorol

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Nid yw sgiliau iaith Gymraeg yn angenrheidiol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Dr Boglarka Falusi
Teitl y swydd
Consultant Anaesthetist
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Dr Gopinath Selvaraj, Consultant Anaesthetist

[email protected]

 

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg