Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Cymorth clinigol
Gradd
Gradd 6
Contract
2 flynedd (Cyfnod penodol / secondiad tan 07.07.2027 oherwydd cyllid)
Oriau
Rhan-amser - 15 awr yr wythnos (Dau ddiwrnod yr wythnos)
Cyfeirnod y swydd
100-AHP068-0725
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£39,263 - £47,280 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
12/08/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
20/08/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Deietegydd Acíwt profiadol – Gofal Cymunedol Integredig

Gradd 6

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae swydd hon yn Cyfnod Penodol/ Secondiad tan 07.07.2027 oherwydd cyllid. Os ydych yn gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am secondiad i'r swydd hon, bydd angen i'ch rheolwr presennol gytuno i'r secondiad cyn i chi gyflwyno eich cais.

Rydym yn chwilio am ddeietegydd brwdfrydig a dynamig i ymuno â'n tîm deieteg cymunedol uchel ei barch yn Sir Gaerfyrddin, a hynny yn rôl deietegydd profiadol ar gyfer gofal cymunedol ac integredig. 

Mae'r swydd hon yn gyfle am gyfnod penodol o ddwy flynedd, ac mae'n cynnig cyfle delfrydol i ddeietegydd sydd am ddatblygu ei sgiliau clinigol, neu ddeietegydd sydd eisoes yn brofiadol ac sy'n dymuno arbenigo mewn deieteg gymunedol. Bydd deiliad y swydd yn ei ymgorffori ei hun yn llawn yn rhan o dîm amlddisgyblaethol ehangach, gan gefnogi'r broses o wreiddio maetheg/hydradiad mewn modelau gofal ac ysgogi arloesedd. Bydd deiliad y swydd wedi'i leoli yn Sir Gaerfyrddin, ac rydym yn croesawu ymgeiswyr a hoffai drafod cyfleoedd i weithio'n hyblyg o ran y ffordd y gweithir yr oriau. 

Mae gweithio i ni yn golygu y byddwch yn ymuno â thîm arloesol a chefnogol sy'n tyfu'n gyflym. Cewch eich cefnogi yn eich rôl, a byddwch yn cael y cyfle i gyrchu hyfforddiant/addysg, yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer addysg uwch.  Efallai byddwch yn ymddiddori yn y swydd hon os ydych am rôl llawn amser.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bod yn ddeietegydd profiadol ar gyfer tîm gofal integredig y gymuned, yn cydweithio gyda'r gwasanaethau amlddisgyblaethol cymunedol agosaf i gryfhau'r cyfathrebu a'r ddarpariaeth glinigol ledled lleoliadau cymunedol. 

Byddwch yn rheoli llwyth achosion amrywiol o atgyfeiriadau deieteg ar gyfer oedolion ag anghenion cymorth maethol; gan weithio yn y tîm deietegwyr cymunedol, byddwch yn darparu cyngor deietegol arbenigol mewn perthynas â rheoli maeth, ac yn llunio cynllun gofal cydlynol. 

Gan gefnogi, ymgorffori a chryfhau'r broses sgrinio maethol wrth y ‘drws ffrynt’, byddwch yn rhan o lwybr ymateb a modelau gofal brys, a fydd yn cynnwys darparu hyfforddiant ac addysg; darparu hyfforddiant achrededig i ymarferwyr therapi cynorthwyol ac eraill; a gweithio'n rhan o'r model drws ffrynt i leddfu risgiau. 

Byddwch yn cefnogi'r tîm cymorth maethol cymunedol ehangach trwy ddarparu arweinyddiaeth a hyfforddiant ochr yn ochr â deietegwyr profiadol eraill, gan sicrhau bod atgyfeiriadau'n cael eu blaenoriaethu mewn modd effeithiol a bod llwybrau a phrosesau deietig yn cael eu sefydlu'n llawn.

Bydd y rôl yn sicrhau eich bod yn darparu gofal deietig mewn amryw o leoliadau i ddiwallu anghenion y cleifion, gan gynnwys cynnal ymweliadau â chartrefi, mynychu cartrefi gofal/lleoliadau preswyl ac ysbytai cymunedol, darparu addysg grŵp, a gweithio ar draws llwyfannau rhithwir.

 

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.

Os ydych yn barod am newid neu gyfle cyffrous o ran eich gyrfa, ac os hoffech weithio mewn lleoliad prydferth ochr yn ochr â thîm dynamig, croesawgar a chefnogol, a hynny mewn rôl sy'n eich galluogi i arwain yn glinigol ac ysgogi newid, yna dyma'r rôl i chi.

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar: 20/08/2025

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cofrestriad gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal ynghyd â gradd mewn Deieteg
  • Gwybodaeth glinigol arbenigol am ofal maethol a deieteg i oedolion, yn cynnwys cymorth maethol a maetheg a gynorthwyir yn glinigol; cymwysterau a gafwyd trwy hyfforddiant arbenigol hyd at lefel diploma ôl-raddedig neu brofiad clinigol cyfatebol
  • Wedi cwblhau hyfforddiant Sgiliau Goruchwylio Clinigol neu gwrs cyfatebol
  • Gwybodaeth am y sylfaen dystiolaeth, a'r gallu i'w defnyddio i lywio gofal deietig
  • Gwybodaeth ymarferol am ganllawiau a pholisïau proffesiynol a chlinigol perthnasol i'r maes arbenigol
  • Gwybodaeth am roi methodoleg gwella ansawdd ar waith
Meini prawf dymunol
  • Wedi cwblhau rhaglen PENG Cymdeithas Ddeieteg Prydain (BDA)

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad sylweddol ym maes deieteg gymunedol yn y GIG neu sefydliad gofal iechyd tebyg
  • Profiad eang a chyfunol o reoli llwyth achosion clinigol cymhleth ac amrywiol gan ddefnyddio rhesymu clinigol sefydledig
  • Cynllunio a chyflwyno addysg a hyfforddiant ar ddeieteg a maeth sy'n seiliedig ar wybodaeth glinigol
  • Cymryd rhan mewn prosiectau/gwaith gwella ansawdd/gwaith datblygu/gwaith archwilio clinigol, ac iddynt ganlyniadau amlwg
  • Hyfforddi myfyrwyr.
  • Dehongli tystiolaeth i ffurfio ymarfer clinigol
Meini prawf dymunol
  • Profiad o ddarparu goruchwyliaeth glinigol
  • Dirprwyo i staff anghofrestredig
  • Aelod o rwydwaith proffesiynol neu grŵp arbenigol

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Yn meddu ar agwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth.
  • Yn gallu teithio i ddarparu cymorth arbenigol/gwasanaeth cyflenwi ar draws safleoedd
Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Sarah Roberts
Teitl y swydd
Deputy Head of Service
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
07974044546
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Kayleigh Edwards 

Deietegydd Arweiniol Clinigol TGCh

[email protected]

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg