Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Communication
Gradd
Gradd 4
Contract
6 mis (Cyfnod penodol / secondiad tan 28/01/2026)
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-AC231-0825
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Hafan Derwen
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£27,898 - £30,615 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
01/09/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Cynorthwyydd Cyfathrebu

Gradd 4

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae swydd hon yn Cyfnod Penodol/ Secondiad tan 28/01/2026. Os ydych yn gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am secondiad i'r swydd hon, bydd angen i'ch rheolwr presennol gytuno i'r secondiad cyn i chi gyflwyno eich cais.

Prif ddiben y rôl yw cefnogi'r broses o ymestyn cyrhaeddiad a gwelededd Elusennau Iechyd Hywel Dda gyda'r nod o gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r elusen a'i heffaith a chodi a dosbarthu arian i wella ein gwasanaethau GIG lleol.

Gan weithio'n agos gyda'r Uwch-swyddog Cyfathrebu, y Rheolwr Codi Arian a thîm codi arian yr elusen, bydd deiliad y swydd yn cefnogi'r broses o ddarparu gwasanaeth cyfathrebu a gweinyddu cynhwysfawr ac o ansawdd uchel.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Y nod yw hyrwyddo gwaith ein helusen, adrodd hanes ein codwyr arian a’n cefnogwyr, yn ogystal ag effaith ein gwariant elusennol ar fywydau cleifion, defnyddwyr gwasanaethau a staff y GIG.

Bydd swydd y Cynorthwyydd Cyfathrebu yn delio ag ymholiadau gan staff, y cyfryngau, y cyfryngau cymdeithasol a rhanddeiliaid; darparu cynnwys ysgrifenedig, sain, dylunio a fideo ar gyfer llwyfannau gwahanol; a chefnogi digwyddiadau.

Mae'r rôl yn hanfodol o ran rhedeg gweithrediadau codi arian a chyfathrebu yr elusen mewn modd effeithiol, gan gydlynu a chefnogi prosiectau a rhaglenni gwaith perthnasol a sicrhau cydymffurfedd â chynllun gwaith yr elusen.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar 10/09/25

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Diploma neu gymhwyster cyfwerth NEU wybodaeth a phrofiad cyfwerth ym maes cyfathrebu (cyfathrebu, cysylltiadau cyhoeddus, newyddiaduraeth, cyfathrebu digidol).
  • Gwybodaeth am offer a thechnegau'r cyfryngau traddodiadol a'r cyfryngau newydd.
  • Cymhwyster neu wybodaeth y gellir ei harddangos am y ddeddfwriaeth sy'n llywodraethu'r cyfryngau a chyhoeddwyr (athrod/enllib, hawlfraint, hygyrchedd).
Meini prawf dymunol
  • Gradd ym maes cyfathrebu.
  • Dealltwriaeth o God Ymddygiad y Golygydd a chod ymddygiad proffesiynol y Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus.
  • Dealltwriaeth o elusennau'r GIG a/neu weithrediadau codi arian sefydliadau'r trydydd sector.
  • Gwybodaeth dda am y GIG yng Nghymru.

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio'n rhan o dîm cyfathrebu sy'n rhoi ymgyrchoedd ar waith.
  • Profiad o lunio cynnwys cyfathrebu rhagorol ar gyfer cynulleidfaoedd gwahanol, ac o ddefnyddio mecanweithiau a llwyfannau gwahanol.
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio gyda newyddiadurwyr.
  • Profiad o weithio yn y sector cyhoeddus neu gyda'r sector cyhoeddus
  • Creu cynnwys hygyrch yn unol â'r Safonau Hygyrchedd Digidol.
  • Profiad o ddefnyddio a chynnal cronfeydd data.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Tara Nickerson
Teitl y swydd
Fundraising Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
07584207135
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg