Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Diabetes
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Cyfeirnod y swydd
- 100-NMR304-1025
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Hafan Derwen
- Tref
- Caefyrddin
- Cyflog
- £39,263 - £47,280 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 08/10/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 16/10/2025
Teitl cyflogwr

Addysgwr Technoleg Diabetes
Gradd 6
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael i Addysgwr Technoleg Diabetes Band 6 ymuno â'r Tîm Pympiau Inswlin newydd sy'n gweithredu ledled Bwrdd Iechyd Hywel Dda.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am reoli a chyflenwi addysg diabetes i gleifion a staff ar draws Bwrdd Iechyd Hywel Dda a chanddynt gysylltiadau â Gofal Sylfaenol, gwasanaethau allanol a sefydliadau
gwirfoddol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus allu gwneud y canlynol:
Gweithredu, trefnu a chyflwyno rhaglenni addysg diabetes seiliedig ar dystiolaeth i staff a chleifion sydd â phwmp inswlin a heb bwmp inswlin, a gwerthuso rhaglenni addysg i bobl â diabetes. Bydd hyn yn cynnwys beichiogrwydd, a chleifion sy'n trosglwyddo i'r gwasanaeth pympiau diabetes i oedolion ar bwmp inswlin.
Gweithio gyda'r tîm amlddisgyblaethol i ddarparu addysg a chymorth i'r cleifion hynny a'u gofalwyr sy'n defnyddio therapi inswlin dwys a/neu dechnolegau diabetes – pympiau inswlin; monitro glwcos yn barhaus (CGM); Dolenni Caeedig Hybrid (HCL) yn unol â'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE)/Cymdeithasau Diabetes Prydain ar y Cyd (JBDS); Dos wedi'i Addasu ar gyfer Bwyta Arferol (DAFNE) a chanllawiau'r Rhwydwaith Technoleg Diabetes (DTN).
Bydd deiliad y swydd yn cael ei arwain gan Nyrsys/Dietegwyr Diabetes Arbenigol i addysgu therapi pympiau inswlin, sy'n cynnwys cychwyn cleifion ar bympiau inswlin a monitro glwcos yn barhaus. Darparu cyngor a chymorth i gleifion sydd eisoes yn defnyddio pwmp inswlin.
Datblygu a chyflwyno rhaglen addysg mewn technoleg diabetes i gleifion a staff, a honno'n gyson â chanllawiau cyfredol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Cynhelir y cyfweliadau ar 16/10/2025
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Nyrs Oedolion Gofrestredig y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC)/Ymarferydd Cofrestredig y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) sy'n meddu ar ddiploma ôl-raddedig neu brofiad, neu sydd wedi dilyn hyfforddiant arbenigol mewn maes perthnasol neu gyrsiau byr
- Yn gallu amlygu gwybodaeth am reoli diabetes math 1, cyfrif carbohydradau; addasu dosau inswlin, pympiau inswlin, monitro glwcos yn barhaus a dolenni caeedig hybrid
- Yn gymwys ym maes TG, ac yn meddu ar brofiad o ddefnyddio pecynnau Microsoft/llwyfannau digidol
- Profiad o hwyluso a chyflwyno sesiynau addysgu, a hynny wyneb yn wyneb ac yn ddigidol
- Y gallu i weithio'n hyblyg i ddiwallu anghenion y gwasanaeth, a ledled pob safle yn ôl y gofyn
Meini prawf dymunol
- Cwrs Mentora/ Cymhwyster Addysgu ac Asesu
- Cymhwyster neu sgiliau Hyrwyddo Iechyd
- Cymhwyster cwnsela/Cyfweld Ysgogia
- Profiad o Wella Ansawdd
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o gyflwyno Addysg Strwythuredig i gleifion â diabetes
- Profiad diweddar o ofal diabetes ar lefel Band 5
- Y gallu i weithio'n annibynnol ac yn rhan o'r tîm diabetes
Meini prawf dymunol
- Profiad amlwg o archwilio a/neu ymchwil
- Gwybodaeth am ymarfer seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer rheoli diabetes Math 1 a phympiau inswlin
- Profiad o Ddos wedi'i Addasu ar gyfer Addysgwr Bwyta Arferol (DAFNE)
- Addysgwr addysg strwythuredig i gleifion (Inswlin X-PERT ac XERT)
Sgiliau iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Arall
Meini prawf hanfodol
- Yn hyblyg ac yn gallu addasu i newid er mwyn diwallu anghenion y gwasanaeth
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Ravinder Dosanjh
- Teitl y swydd
- Senior Lead Clinical Diabetes Nurse Specialist
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07966 554125
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Debra Rees / Dawn Evans
Nyrsys Arbenigol Diabetes
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau Perthynol i Iechyd neu bob sector