Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Diabetes
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 30 awr yr wythnos (Dydd Llun - Dydd Gwener)
- Cyfeirnod y swydd
- 100-NMR345-1125
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £39,263 - £47,280 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 13/11/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 19/11/2025
Teitl cyflogwr
Nyrs Diabetes Arbenigol
Gradd 6
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Nyrs Arbenigol Clefyd y Siwgwr Band 6 i ymuno â Gwasanaeth Clefyd y Siwgwr yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili.
Bydd cwblhau cymwysterau TREND-UK yn llwyddiannus yn ofynnol, ynghyd â phrofiad mewn nyrsio clefyd y siwgwr.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus allu dangos gwybodaeth am nyrsio diabetes, asesiad clinigol diabetes a chyflwyno rhaglenni addysg diabetes penodol i gleifion a staff.
Rydym yn dîm diabetes bach cyfeillgar ac yn gefnogol i ddatblygiad yn y rôl ac yn croesawu aelodau newydd o'r tîm sy'n dymuno datblygu eu gyrfa mewn nyrsio arbenigol diabetes.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Cynhelir y cyfweliadau ar 19/11/2025.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
• Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Nyrs Gofrestredig (Rhan 1) o gofrestr y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
- Gradd Baglor neu cymhwyster cyfatebol neu brofiad cyfatebol
- Gwybodaeth ym maes gofal diabetes, ac ymarfer amlwg
- Ymrwymiad i hyfforddiant a datblygiad pellach sy'n hanfodol ar gyfer y rôl arbenigol
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster addysgu
- Gwybodaeth am ymchwil ac archwilio
- Ymwybyddiaeth o Lywodraethu Clinigol
- Wedi cael hyfforddiant DAFNE
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ôl-gofrestru o weithio ym maes gofal diabetes i lefel diploma ôl-raddedig
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio ym maes gofal sylfaenol neu gymunedol, diabetes a beichiogrwydd ar gyfer diabetes yn ystod beichiogrwydd a diabetes sy'n bod yn barod, pympiau inswlin a thechnoleg diabetes
Sgiliau iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Ravinder Dosanjh
- Teitl y swydd
- Senior Lead Clinical Diabetes Nurse Specialist
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07966 554125
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Amanda Hunter or Esther Turner - Nyrsys Diabetes Arbenigol Arweiniol
[email protected] 07811 711920
[email protected] 01267227746
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a Bydwreigiaeth neu bob sector





