Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Deieteg
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AHP158-0825
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £39,263 - £47,280 y flwyddyn (pro rata os yn rhan-amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 17/08/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 26/08/2025
Teitl cyflogwr

Deietegydd Cymunedol Profiadol – Oedolion
Gradd 6
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
A ydych am ymuno â thîm deieteg gwych, dynamig, cyflawni cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith, a byw mewn rhan brydferth o Gymru? Yna dyma'r rôl i chi! Mae tîm deieteg Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn chwilio am Ddeietegydd Acíwt Profiadol i ymuno â'r tîm deieteg ac amlddisgyblaethol a leolir yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili.
Rydym yn hapus i archwilio cyfleoedd newydd i chi ddatblygu yn eich meysydd o ddiddordeb clinigol; rydym yn cynnig cymorth proffesiynol da ac amgylchedd gweithio cyfeillgar, a byddwn yn eich galluogi i feithrin sgiliau o ran cymhwyso dulliau gwella ansawdd, a pharhau â'ch datblygiad proffesiynol.
Fideo Dietegydd - https://youtu.be/jiLm93J9Y1Q
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd gan ddeiliad y swydd lwyth achosion cymhleth o gleifion cymunedol a bydd yn darparu ymyriadau a gofal deietig arbenigol ac yn gweithio ochr yn ochr â’n deietegwyr acíwt a chymunedol a'r Arweinydd Strategol ar gyfer Camfaethiad, a hynny er mwyn ymgorffori maeth/hydradiad fel rhan o lwybr y claf.
Bydd deiliad y swydd hefyd yn ymwneud â darparu clinigau cymunedol ac ymweliadau â chartrefi nyrsio a chartrefi cleifion.
Bydd yn amlygu dealltwriaeth dda o rôl maetheg mewn gofal iechyd, yn gyfathrebwr rhagorol, yn gweithio'n dda mewn tîm ac yn barod i ymgymryd â dysgu a datblygiad pellach i gyflawni cwmpas a gofynion y rôl hon.
Bydd hyfforddiant ac addysg yn rhan ganolog o'r rôl hon, yn ogystal â darparu cymorth i hyfforddi myfyrwyr, a datblygu a rhoi ein rolau Ymarferwyr Cynorthwyol Deieteg ar waith.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dod yn aelod annatod o'r tîm deieteg gan weithio i sicrhau'r gofal maethol gorau ar gyfer cleifion, a hynny'n ffactor allweddol sy'n dylanwadu ar adferiad a chanlyniadau.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
• Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
• Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
• Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
• 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
• Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Rydym yn agored i ystyried trefniadau gweithio'n hyblyg, gan eich cefnogi i gyflawni cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith a bodlonrwydd swydd uchel.
Fideo tair sir - https://youtu.be/RUMDpjtu1sY
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 26.08.2025
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Yn gofrestredig gyda'r Cyngor Proffesiynol Iechyd a Gofal (HCPC) ac yn meddu ar radd mewn Dieteteg
- Gwybodaeth glinigol arbenigol am ofal maethol a deieteg i oedolion, yn cynnwys cymorth maethol a maetheg a gynorthwyir yn glinigol; cymwysterau a gafwyd trwy hyfforddiant arbenigol hyd at lefel diploma ôl-raddedig neu brofiad clinigol cyfatebol
- Wedi cwblhau hyfforddiant Sgiliau Goruchwylio Clinigol neu hyfforddiant cyfatebol
- Gwybodaeth am y sylfaen dystiolaeth, a'r gallu i'w defnyddio i lywio gofal deietig
- Gwybodaeth ymarferol am ganllawiau a pholisïau proffesiynol a chlinigol perthnasol i'r maes arbenigol
- Gwybodaeth am roi methodoleg gwella ansawdd ar waith
Meini prawf dymunol
- Wedi cwblhau hyfforddiant ar gyfweld ysgogiadol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad sylweddol ym maes deieteg gymunedol yn y GIG neu sefydliad gofal iechyd tebyg
- Profiad eang a chyfunol o reoli llwyth achosion clinigol cymhleth ac amrywiol gan ddefnyddio rhesymu clinigol sefydledig
- Cynllunio a chyflwyno addysg a hyfforddiant ar ddeieteg a maeth sy'n seiliedig ar wybodaeth glinigol.
- Cymryd rhan mewn prosiectau/gwaith gwella ansawdd/gwaith datblygu/gwaith archwilio clinigol, ac iddynt ganlyniadau amlwg
- Hyfforddi myfyrwyr
- Dehongli tystiolaeth i ffurfio ymarfer clinigol
Meini prawf dymunol
- Profiad o ddarparu goruchwyliaeth glinigol
- Dirprwyo i staff anghofrestredig
- Aelod o rwydwaith proffesiynol neu grŵp arbenigol
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Arall
Meini prawf hanfodol
- Yn meddu ar agwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth
- Y gallu i deithio i ddarparu ymweliadau â chartrefi a hyfforddiant ac i gyflenwi ar draws safleoedd
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Paul Makin
- Teitl y swydd
- Clinical Lead Community Dietitian
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 227067
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Rydym yn croesawu cyswllt anffurfiol gan ddarpar ymgeiswyr.
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau Perthynol i Iechyd neu bob sector