Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Addysg a Chyfathrebu
- Gradd
- Gradd 5
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AC245-0825W-A
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ledled y Bwrdd Iechyd
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £31,516 - £38,364 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 28/09/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 09/10/2025
Teitl cyflogwr

Swyddog Gweithlu'r Dyfodol
Gradd 5
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
A ydych yn teimlo'n angerddol ynghylch ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol y GIG? Ymunwch â Thîm Gweithlu'r Dyfodol a dewch yn rhan o grŵp dynamig, blaengar sy'n llywio dyfodol gofal iechyd ar draws y tair sir a wasanaethir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae hyn yn fwy na dim ond swydd – mae'n gyfle i wneud gwahaniaeth go iawn. Byddwch yn cydweithio ag ysgolion, colegau, prifysgolion a phartneriaid cymunedol i chwalu rhwystrau ac agor drysau i yrfaoedd yn y GIG. O ddylunio rhaglenni apelgar, i arddangos rolau bywyd go iawn trwy gyfleoedd gwirfoddoli, profiad gwaith a phrentisiaethau, byddwch yn helpu i osod Hywel Dda fel cyflogwr o ddewis. Os ydych yn greadigol, yn llawn cymhelliant, ac yn ffynnu ar wneud cysylltiadau, dyma eich cyfle i fod wrth wraidd y broses o drawsnewid y gweithlu.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Fel aelod o dîm Gweithlu'r Dyfodol, byddwch yn rhan o dîm dynamig sy'n chwarae rhan hanfodol a chyffrous wrth lunio gweithlu'r dyfodol ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Bydd eich angerdd dros helpu eraill yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni swyddogaethau Gweithlu'r Dyfodol ar draws y tair sir a wasanaethir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Mae'r rôl hon yn cynnig cyfleoedd i gydweithio ag ysgolion, colegau, prifysgolion ac amrywiol randdeiliaid i ysbrydoli ac amlygu llwybrau i unigolion sy'n symud ymlaen i yrfaoedd yn y GIG. Mae'r cydweithrediad hwn yn canolbwyntio ar oresgyn rhwystrau posibl i ganfyddiadau o yrfaoedd a chyfleoedd yn y GIG. Byddwch yn creu rhaglenni apelgar sy'n tynnu sylw at y Bwrdd Iechyd fel cyflogwr o ddewis, gan agor drysau i gyfleoedd cyffrous ar gyfer gyrfa. Gweithio gyda gweithwyr proffesiynol o bob rhan o'r Bwrdd Iechyd i arddangos y gyrfaoedd a'r cyfleoedd gwahanol sydd ar gael, gan gynnwys trwy wirfoddoli, profiad gwaith a phrentisiaethau.
Bydd agwedd hyblyg a’r gallu i weithio’n annibynnol yn hanfodol i gefnogi’r gwaith o gyflawni swyddogaeth Gweithlu’r Dyfodol yn llwyddiannus.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i ddatblygu eich sgiliau ymhellach, yn ôl yr angen, yn ystod eich cyflogaeth gyda
Cynhelir y cyfweliadu ar 09.10.25
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Addysg hyd at lefel gradd neu brofiad cyfatebol, a allai gynnwys ysgrifennu adroddiadau i uwch-aelodau o'r staff neu reoli prosiectau sylweddol.
- Saesneg a Mathemateg o safon dda.
- Y gallu i gyflwyno/siarad â grwpiau o gynulleidfaoedd amrywiol o Profiad perthnasol o ymgysylltu â phobl o oedrannau a grwpiau cymdeithasol gwahanol. Cymhwyster addysgu/TAR neu gymhwyster cyfatebol oedrannau a gallu gwahanol ac mewn amrywiol leoliadau
- Y gallu i gyflwyno yn yr iaith Gymraeg
- Profiad o addysgu/hwyluso
Meini prawf dymunol
- Profiad perthnasol o ymgysylltu â phobl o oedrannau a grwpiau cymdeithasol gwahanol.
- Cymhwyster addysgu/TAR neu gymhwyster cyfatebol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad amlwg o weithio mewn tîm.
- Rhwydweithio a gweithio ar draws ffiniau sefydliadol.
- Profiad o gynnig gofal bugeiliol i eraill.
- Profiad blaenorol o ymgysylltu o fewn sefydliadau'r sector/addysgol.
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio gyda/reoli gwirfoddolwyr a Phrofiad Gwaith
- Profiad amlwg o'r GIG/y Sectorau Cyhoeddus a Gwirfoddol.
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol
- Yn meddu ar agwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth
- Welsh Speaker (Level 5)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Elena Waters-Jenkins
- Teitl y swydd
- Future Workforce Operational Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector