Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Cyllid
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AC198-0725
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ty Gorwel, Adeilad 14, Parc Dewi Sant
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £46,840 - £53,602 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 10/08/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 19/08/2025
Teitl cyflogwr

Pennaeth Cynorthwyol Cyfrifyddu Ariannol
Gradd 7
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae hwn yn gyfle cyffrous i unigolyn sy'n meddu ar gymhwyster CCAB/CIMA llawn ymuno â thîm craidd yn yr adran Gyllid, sy'n allweddol wrth sicrhau cywirdeb ac uniondeb y cyfriflyfr cyfrifyddu a'r cyfrifon diwedd mis a diwedd blwyddyn.
A chithau'n Bennaeth Cynorthwyol Cyfrifyddu Ariannol, chi fydd y pwynt cyswllt arweiniol ar gyfer y Tîm Cyfrifyddu Ariannol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
I grynhoi, bydd y prif ddyletswyddau yn cynnwys y canlynol:
Paratoi'r wybodaeth gyfrifyddu ariannol sy'n ofynnol i gyflwyno adroddiadau i Lywodraeth Cymru ac Archwilio Cymru
Bod yn gyfrifol am reoli arian parod y Bwrdd Iechyd o ddydd i ddydd
Rhoi cyngor ariannol ynghylch gweithrediadau Elusen y Bwrdd Iechyd
Rheoli gweithgareddau'r Tîm Cyfrifyddu Ariannol o ddydd i ddydd
Meithrin a chynnal perthnasoedd proffesiynol rhagorol a llinellau cyfathrebu cadarn ag adrannau mewnol a phartneriaid allanol, megis darparwyr gwasanaethau a’r archwilwyr allanol.
Cyfrannu at ddiwylliant, llywodraethu ac amgylchedd rheoli cadarnhaol y tîm trwy gynnal arferion gwaith o safon uchel ac arwain y tîm trwy esiampl wrth ddatblygu a gweithredu gwelliannau newid parhaus newydd
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
DIM OND AELODAU O CCAB/CIMA Y MAE ANGEN IDDYNT WNEUD CAIS.
Noder, bydd angen prawf o'ch aelodaeth o CCAB/CIMA ar ddiwrnod y
cyfweliad.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 19/08/2025.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster CCAB neu CIMA
- Profiad ar lefel rheolwr ynghyd â phrofiad ac arbenigedd proffesiynol a rheolaethol amlwg
- Gwybodaeth am systemau ariannol integredig
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o DPP
- Gwybodaeth am system gyfrifyddu Oracle
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o reoli tîm
- Profiad o gyflawni o fewn terfynau amser heriol
- Hanes amlwg o yrfa sydd wedi datblygu a chyflawniadau yn ystod eich gyrfa
- Profiad o reoli newid ac ymddygiadau cysylltiedig
- Profiad o weithio gyda setiau data sylweddol
- Yn amlygu gwybodaeth arbenigol am weithdrefnau ariannol a chyfrifyddu a pholisïau'r GIG
Meini prawf dymunol
- Profiad o reoli prosiectau gwella prosesau
- Profiad ariannol blaenorol yn y GIG
- Profiad o weithio gyda chyfrifon elusennol
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i weithio'n hyblyg mewn perthynas â cherrig milltir adrodd allweddol
- Y gallu i deithio rhwng safleoedd ac i gyfarfodydd Cymru gyfan mewn modd amserol
- Yn ymrwymedig a llawn cymhelliant
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Tracy Davies
- Teitl y swydd
- Deputy Head of Financial Accounting
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector