Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Cyllid
- Gradd
- NHS AfC: Band 8c
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AC001-0726
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Bloc C, Adeilad Llywodraeth
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £80,698 - £92,984 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 16/08/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Uwch-bartner Busnes Comisiynu, Gwybodaeth Busnes a Gwerth
NHS AfC: Band 8c
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn chwilio am weithiwr cyllid proffesiynol profiadol â gwerthoedd yn ei lywio i ymuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn rôl Uwch-bartner Busnes: Comisiynu, Gwybodaeth Fusnes a Gwerth. Mae hwn yn gyfle pwysig i arwain mewn Bwrdd Iechyd sy'n canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau diogel, cynaliadwy a hygyrch i gymunedau Gorllewin Cymru.
Byddwch yn gweithio ledled poblogaeth wledig a gwasgaredig yn ddaearyddol, sy'n golygu heriau nodedig, ond mae hefyd yn creu cyfle gwirioneddol i arloesi. Mae'r Bwrdd Iechyd yn parhau i ddatblygu ei ddull mewn perthynas â gofal iechyd seiliedig ar werth, gwella ansawdd, datblygu sefydliadol, gwybodaeth fusnes a gwasanaethau digidol, gan sicrhau bod dirnadaeth ariannol yn chwarae rhan ganolog yn y broses o gefnogi gwell canlyniadau a gwasanaethau cynaliadwy.
Mae'r rôl yn cynnig y cyfle i weithio wrth wraidd prosesau gwneud penderfyniadau strategol, gan gefnogi uwch-arweinwyr clinigol, gweithredol a chorfforaethol i nodi cyfleoedd, deall effaith ariannol a datblygu datrysiadau ymarferol. Bydd hon yn swydd addas i weithiwr cyllid proffesiynol cymwys sy'n gyfforddus yn gweithio ar draws ffiniau sefydliadol, gan ddylanwadu ar lefel uwch a throsi gwybodaeth gymhleth yn ddirnadaeth eglur, ymarferol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
- Arwain y gwaith o nodi, datblygu a chyfathrebu cyfleoedd ariannol a chyfleoedd ar gyfer effeithlonrwydd a gwerth, gan sicrhau cysondeb â rhaglenni gofal iechyd seiliedig ar werth ac ymgysylltiad effeithiol â Grwpiau Gofal Clinigol.
- Darparu arweinyddiaeth a chyfeiriad i'r timau cyllid Gwybodaeth Fusnes a Gwerth, Costio a Chomisiynu, gan weithio'n agos gyda Phartneriaid Busnes Cyllid i gefnogi'r gwaith o gyflawni amcanion y Bwrdd Iechyd.
- Bod â rôl arweiniol o fewn yr agenda gomisiynu, sy'n canolbwyntio ar Gytundebau Hirdymor a Chytundebau Lefel Gwasanaeth â Byrddau Iechyd a darparwyr gofal iechyd eraill, gan asesu perfformiad yn ystod y flwyddyn a chefnogi trafodaethau ariannol effeithiol i sicrhau gwerth a chynaliadwyedd ariannol.
- Gweithio'n agos gyda'r Pennaeth Comisiynu Strategol a chyd-weithwyr uwch eraill i gefnogi datblygiad trefniadau gweithio'n rhanbarthol a gwasanaethau cydweithredol.
- Parhau i ddatblygu a mireinio methodoleg gostio'r Bwrdd Iechyd.
- Darparu goruchwyliaeth a mewnbwn arbenigol i adolygiadau o effaith ariannol.
- Datblygu dealltwriaeth y Bwrdd Iechyd o effaith ariannol y galw am ofal iechyd.
- Gweithio gyda'r Cyfarwyddwr Cyllid Cynorthwyol: Comisiynu, Gwybodaeth Fusnes a Gwerth ar draws yr agenda.
- Arwain y tîm Comisiynu, Gwybodaeth Fusnes a Gwerth mewn perthynas â chefnogi datblygiad cynlluniau busnes blynyddol a strategaethau tair blynedd.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arwain ac yn llunio meysydd allweddol o'r agenda Comisiynu, Gwybodaeth Fusnes a Gwerth, sy'n cynnwys cymorth ar gyfer trawsnewid gwasanaethau, cynaliadwyedd ariannol, cynllunio tymor canolig a hirdymor, costio, trefniadau comisiynu, a gweithio'n rhanbarthol. Byddwch yn cydweithio â chyd-weithwyr yn y Bwrdd Iechyd a phartneriaid allanol i sicrhau cyngor ariannol cadarn, cytundebau effeithiol a ffocws clir ar wella gwerth i gleifion a chymunedau, gan ar yr un pryd gynyddu dealltwriaeth o gostau darparu gwasanaethau ac o gyfleoedd ar gyfer effeithlonrwydd yn y Bwrdd Iechyd.
Rydym yn ymrwymedig i gefnogi cyd-weithwyr i ddatblygu a llwyddo. Byddwch yn ymuno â swyddogaeth gyllid sy'n rhoi gwerth ar broffesiynoldeb, cydweithio, gwelliant a her adeiladol, ac sy'n cynnwys cyfleoedd i gyfrannu at gyfeiriad y tîm a'r sefydliad ehangach, fel ei gilydd, yn y dyfodol.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Os yn lwyddianus ar ôl cwblhau'r rhestr fer, gofynnir i chi gwblhau asesiadau seicometrig. Anfonir gwybodaeth am y rhain a'r paneli rhanddeiliaid/cyfweliad atoch ar ôl cwblhau'r rhestr fer.
Cynhelir paneli rhanddeiliaid ar 10/09/2026.
Cynhelir cyfweliadau ar 11/09/2026.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gallu
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster CCAB neu’n Gyfrifydd Cymwys Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli (CIMA) – cymhwyster cyfrifyddu proffesiynol, ynghyd â gwybodaeth, hyfforddiant a phrofiad arbenigol pellach.
- Aelodaeth o sefydliad Cyfrifwyr Siartredig proffesiynol, ynghyd â chymhwyster lefel Meistr Ôl-raddedig mewn rheoli neu gyllid.
- Gwybodaeth arbenigol broffesiynol fanwl am sawl disgyblaeth, wedi’i meithrin dros gyfnod sylweddol, gan gynnwys cynllunio’r gweithlu a gwasanaethau.
- Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus
- Gwybodaeth am fethodolegau gwella a ddefnyddir ledled sefydliadau, a dealltwriaeth ohonynt.
- Yn archwilio ac yn cyrchu rhwydweithiau am wybodaeth i wella dirnadaeth a dealltwriaeth. Yn meithrin hunanwybodaeth trwy rwydweithiau lleol a chenedlaethol.
Meini prawf dymunol
- Dealltwriaeth o ddatblygu arfer gorau yn y GIG yng nghenhedloedd y Deyrnas Unedig; ac o ddatblygiadau mewn arfer gorau ym meysydd rheoli ac arwain.
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i deithio mewn modd amserol ledled Cymru ac ardaloedd eraill o’r DU yn ôl yr angen
- Agwedd hyblyg at waith, yn seiliedig ar anghenion y gwasanaeth
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad helaeth mewn sefydliad cymhleth, gan gynnwys amgylcheddau amlddisgyblaethol a gweithio mewn partneriaeth.
- Profiad o weithio gydag uwch-reolwyr, staff gweithredol ac uwch-arweinwyr clinigol.
- Profiad o gyd-drafod dadleuon contractiol cymhleth.
- Profiad o adolygu achosion busnes cymhleth.
- Profiad o adolygu amrywiaeth eang o gyhoeddiadau a darparu argymhellion i uwch-arweinwyr.
- Profiad, dealltwriaeth a defnydd amlwg o ddulliau meincnodi a gwybodaeth arall y gwasanaeth
- Profiad o gynllunio a rheoli ariannol ar lefel strategol, gan gynnwys y broses o ddatblygu strategaethau blynyddol, tymor canolig a hirdymor.
- Profiad o gyflawni mewn sefyllfaoedd ariannol heriol, gan gynnwys datrys problemau ariannol i derfyn amser.
- Yn fasnachol graff, ac yn gallu rheoli’r heriau busnes o ddydd i ddydd heb golli golwg ar nodau strategol hirdymor ac amcanion y Bwrdd Iechyd
- Profiad sylweddol o ddadansoddi ariannol, rheoli risgiau a’r defnydd o wybodaeth meincnodi i lywio prosesau gwneud penderfyniadau.
- Profiad o ymgysylltu’n effeithiol mewn deialogau, dadleuon a thrafodaethau ag unigolion ar bob lefel mewn amgylcheddau gwleidyddol sensitif.
- Profiad o gyfleu canfyddiadau a chasgliadau allweddol i aelodau clinigol ac anghlinigol o uwch-dimau.
Meini prawf dymunol
- Profiad o gyfathrebu allbynnau o system brisio gymhleth.
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Richard Jenkins
- Teitl y swydd
- Assistant Director of Finance
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector





