Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Cyllid
- Gradd
- NHS AfC: Band 8d
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AC001-0826
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Bloc 3, Adeilad Llywodraeth
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £95,773 - £110,448 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 23/08/2026 23:59
Teitl cyflogwr
Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyllid, Cyfrifyddu a Chyfalaf
NHS AfC: Band 8d
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn chwilio am arweinydd cyllid eithriadol i ymuno â’i Gyfarwyddiaeth Cyllid yn rôl Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyllid, Cyfrifyddu a Chyfalaf.
Bydd y cyfle uwch-arweinyddiaeth proffil uchel hwn yn apelio at weithwyr proffesiynol uchelgeisiol a phrofiadol o’r GIG, y sector cyhoeddus ehangach, meysydd archwilio, seilwaith, a diwydiannau reoledig neu amgylcheddau corfforaethol cymhleth sy’n dymuno cael effaith ystyrlon mewn sefydliad gwasanaeth cyhoeddus mawr ac amrywiol.
Mewn partneriaeth â’r Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid, Sicrwydd Ariannol, byddwch yn arwain swyddogaethau cyfrifyddu ariannol, cyfrifon statudol, cyllid cyfalaf, llywodraethu a rheoli y Bwrdd Iechyd. A chithau’n gynghorydd dibynadwy i Gyfarwyddwyr Gweithredol Pwyllgorau’r Bwrdd a rhanddeiliaid allweddol, byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod gwybodaeth ariannol, sicrwydd ac argymhellion yn graff, yn gadarn ac yn amserol, gan gefnogi’r broses o wneud penderfyniadau ar y lefel uchaf.
Mae hwn yn gyfle gwerth chweil i lunio dyfodol stiwardiaeth ariannol yn un o sefydliadau GIG mwyaf Cymru, gan lywio gwelliannau i drefniadau llywodraethu ariannol, cryfhau prosesau craidd, a chefnogi rhaglenni buddsoddi cyfalaf uchelgeisiol a fydd yn fanteisiol i’n cymunedau am genedlaethau i ddod. Byddwch yn arwain ac yn ysbrydoli timau perfformiad uchel, yn hyrwyddo gwelliant parhaus, ac yn cyfrannu at ddarparu gwasanaeth gofal iechyd o ansawdd uchel ledled Gorllewin Cymru.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth ddarparu trefniadau cyfrifyddu ac adrodd ariannol statudol o ansawdd uchel, ynghyd â fframweithiau rheoli ariannol mewnol, gan fod yn arweinydd cyllid uwch ar gyfer archwiliadau. Gan weithio’n agos gyda chyd-weithwyr ledled y sefydliad, byddwch yn helpu i drosi canfyddiadau sicrwydd yn welliannau ystyrlon a chynaliadwy sy’n cryfhau ein trefniadau llywodraethu ariannol ac yn cefnogi gwell canlyniadau.
Gan bartneru â thimau ar draws y gwasanaethau Ystadau, Digidol, gweithredol a chlinigol, byddwch yn arwain y cyfraniad cyllid i raglenni cyfalaf a phenderfyniadau buddsoddi mawr. O lunio achosion busnes a chynlluniau cyfalaf hirdymor, i oruchwylio trefniadau adrodd ariannol, rhagfynegi a rheoli asedau, byddwch yn helpu i sicrhau bod buddsoddiad yn cyflawni’r budd mwyaf i’n cleifion, ein cymunedau, ein gweithlu a threthdalwyr.
Agwedd bwysig ar y rôl hon fydd llywio arloesedd a gwelliant parhaus ar draws y prosesau cyllid, gan ddefnyddio datrysiadau digidol, awtomeiddio, a data o ansawdd uchel i wella effeithlonrwydd, mewnwelediad a’r broses gwneud penderfyniadau. A chithau’n uwch-arweinydd yn y Gyfarwyddiaeth Gyllid, byddwch yn ysbrydoli ac yn datblygu timau arbenigol, yn meithrin perthnasoedd cadarn â chyd-weithwyr a phartneriaid, ac yn darparu cyngor dibynadwy ar faterion cyllid cymhleth, o werth uchel, gan helpu i lunio dyfodol gofal iechyd ar hyd a lled Hywel Dda.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Y tu hwnt i’r rôl ei hun, mae Hywel Dda yn cynnig y cyfle i adeiladu eich gyrfa yn un o rannau mwyaf prydferth a nodweddiadol y DU. Mae’r rhanbarth yn cwmpasu Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, ac yn ymfalchïo mewn arfordiroedd trawiadol, parciau cenedlaethol, trefi marchnad bywiog, ac ansawdd bywyd eithriadol. P’un a ydych chi’n chwilio am antur yn yr awyr agored, ymdeimlad cryf o gymuned, neu well cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, mae Gorllewin Cymru yn darparu lleoliad ysbrydoledig i fyw, gweithio a ffynnu ynddo.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Os yn lwyddianus ar ôl cwblhau'r rhestr fer, gofynnir i chi gwblhau asesiadau seicometrig. Anfonir gwybodaeth am y rhain a'r paneli rhanddeiliaid/cyfweliad atoch ar ôl cwblhau'r rhestr fer.
Cynhelir paneli rhanddeiliaid ar 16/09/2026.
Cynhelir cyfweliadau ar 17/09/2026.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gallu
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster CCAB cyfrifydd, neu gymhwyster cyfatebol cydnabyddedig, ynghyd ag aelodaeth gyfredol
- Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus ac ymrwymiad i safonau proffesiynol
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster ôl-raddedig neu gymhwyster arwain/rheoli perthnasol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad uwch, sylweddol ym meysydd cyfrifyddu ariannol, llywodraethu ac adrodd statudol mewn sefydliad cymhleth
- Profiad o arwain timau a chyflawni gwasanaethau trwy arweinyddiaeth effeithiol, hyfforddi, a rheoli perfformiad
- Profiad amlwg o weithio gydag archwiliad mewnol/allanol gan ymateb i argymhellion a chryfhau protocolau
- Profiad o gynllunio cyfalaf a/neu gyllid cyfalaf, gan gynnwys datblygu achosion busnes a sicrhau ansawdd
- Gallu profedig i weithredu ar lefel uwch-arweinyddiaeth mewn amgylchedd cymhleth, sy’n sensitif yn wleidyddol, gan ddarparu cyngor a her i Gyfarwyddwyr Gweithredol, Pwyllgorau, Byrddau neu fforymau uwch cyfatebol
- Profiad o weithio ar draws ffiniau sefydliadol, gan gynnwys gyda phartneriaid gwasanaethau a rennir, timau caffael, cyrff archwilio, Llywodraeth Cymru neu randdeiliaid allanol cymaradwy
- Profiad o arwain gwelliannau neu drawsnewidiad sylweddol i brosesau ariannol, ynghyd â thystiolaeth o gyflawni buddion cynaliadwy
- Profiad o ddarparu goruchwyliaeth strategol ar gyfer systemau gwybodaeth ariannol ac adnoddau gwybodaeth, gan gynnwys datblygu a gweithredu systemau, ansawdd data, adrodd digidol, gwella rheolaeth ac optimeiddio parhaus
Meini prawf dymunol
- Profiad yn amgylchedd GIG Cymru, y GIG yn ehangach neu’r sector preifat, ynghyd â gwybodaeth am fframweithiau llywodraethu perthnasol
- Profiad o gynlluniau/raglenni cyfalaf mawr a llywodraethu prosiectau (e.e. byrddau rhaglenni cyfalaf)
Arall
Meini prawf hanfodol
- Yn amlygu didwylledd, proffesiynoldeb ac atebolrwydd, ynghyd ag ymrwymiad cadarn i stiwardiaeth a gwerth cyhoeddus
- Arddull arwain cydweithredol a chynhwysol; yn gallu meithrin ymddiriedaeth a pherthnasoedd effeithiol ar draws timau amrywiol
- Yn gydnerth ac yn hyblyg, ac yn gallu arwain trwy amwysedd a newid
- Ymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, ac i wella canlyniadau ar gyfer cleifion a chymunedau
- Y gallu i deithio ar draws safleoedd BIP Hywel Dda a mynd i gyfarfodydd ledled y sir yn ôl y gofyn
Meini prawf dymunol
- Hanes o gymhwyso arloesedd i gryfhau trefniadau llywodraethu cyllid, sicrwydd neu ddarparu gwasanaethau
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Andrew Spratt
- Teitl y swydd
- Deputy Director of Finance
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector





