Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Eiddilwch
Gradd
GIG AfC: Gradd 3
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
Oriau llawn a rhan amser amrywiol ar gael
Cyfeirnod y swydd
100-ACS142-0925-A
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwilli
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£25,313 - £26,999 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
26/10/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd – Gweithiwr Cymorth Eiddilwch

GIG AfC: Gradd 3

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael ar gyfer Gweithiwr Cymorth Eiddilwch Band 3 wedi'i leoli yn Ward Dewi, Ysbyty' Cyffredinol Glangwili, Llanelli. 

Mae'r swydd yn gyfle i feithrin eich sgiliau a'ch profiad o ran gofalu am gleifion eiddil. Mae Dementia ac eiddilwch yn her gynyddol ym maes gofal iechyd, ac rydym ni, weithwyr gofal iechyd proffesiynol, ar flaen y gad wrth ddarparu'r urddas, y cymorth a'r gofal y mae pobl yn eu haeddu. Nod y rôl hon yw gwella profiad y claf. Byddai disgwyl i chi hyrwyddo annibyniaeth y cleifion trwy ganolbwyntio ar eu symudedd, eu maeth a'u hydradiad er mwyn cynnal a gwneud y gorau o'u gallu gweithredol.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Dylai deiliad y swydd feddu ar NVQ lefel 3 mewn Iechyd neu gymhwyster cyfatebol. Bydd angen iddo ddangos bod ganddo sgiliau cyfathrebu da, a'i fod yn gallu gweithio'n rhagorol mewn tîm yn ogystal ag ar ei ben ei hun. Disgwylir iddo weithio ochr yn ochr â'r tîm nyrsio a'r tîm therapïau.

Bydd y swydd yn cynnwys gweithio saith niwrnod yr wythnos, heb unrhyw ddyletswydd nos. Mae yna amrywiaeth o oriau llawn-amser neu ran-amser ar gael.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.

 

 

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Manyleb y person

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Rhifedd a llythrennedd hyd at lefel TGAU o leiaf neu gyfwerth
  • NVQ / Diploma ar lefel 3 mewn Iechyd a/neu gymhwyster perthnasol.
  • Cofnod o ddatblygiad proffesiynol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad clinigol diweddar o weithio o fewn amgylchedd gofal iechyd neu ofal cymdeithasol perthnasol.
  • Profiad o weithio fel rhan o dîm.
  • Parodrwydd i fynychu hyfforddiant pellach
Meini prawf dymunol
  • Cydnabod pwysigrwydd hanfodion gofal.
  • Cydnabod egwyddorion adsefydlu a galluogi cleifion i wneud y mwyaf o annibyniaeth.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Rachel Jones
Teitl y swydd
Sister
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267 227329
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg