Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
TGCh
Gradd
Gradd 5
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-AC184-0725
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£30,420 - £37,030 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
28/07/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
07/08/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Uwch-dechnegydd Cymorth Digidol

Gradd 5

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.

Trosolwg o'r swydd

Bydd deiliad y swydd yn gweithio'n rhan allweddol o'r tîm Gweithrediadau Digidol, a bydd yn gyfrifol am ddarparu cyngor a chymorth arbenigol i'r Bwrdd Iechyd mewn perthynas ag amrywiaeth eang o dechnolegau digidol sy'n cynnal ein gwasanaethau.

Ymgymryd â'r broses o gofnodi digwyddiadau, newidiadau a phroblemau ar Offeryn ein Desg Gymorth, gan sicrhau bod hynny'n cael ei wneud mewn modd effeithiol.

Ymchwilio i amrywiaeth o faterion digidol, gan gynnwys y canlynol, a chysylltu ag uwch-aelodau o'r tîm digidol a chyflenwyr allanol yn ôl y gofyn:

•    Datrys problemau llinell gyntaf;
•    Datrys problemau ail drywydd yn achos amrywiaeth o gyfarpar cyfrifiadurol, gan gynnwys cyfrifiaduron personol, gliniaduron, ffonau clyfar, llechi, argraffwyr a pherifferolion eraill;
•    Cefnogi, rheoli a datblygu gwasanaethau cymorth (Gwasanaethau Ffeilio,  Active Directory, Systemau Cyflenwi Cymwysiadau, Systemau Asedau a Rheolaeth ar gyfer dyfeisiau defnyddwyr);
•    Sicrhau bod cyfarpar pob defnyddiwr yn cael ei gadw'n ddiogel rhag bygythiadau i seiberddiogelwch;

Gosod a ffurfweddu caledwedd, meddalwedd a systemau digidol i gefnogi prosiectau amrywiol, a gosod systemau newydd ledled y Bwrdd Iechyd.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae Rheoli'r Gwasanaeth yn golygu darparu cymorth technegol ail linell gynhwysfawr ar gyfer dyfeisiau defnyddwyr, meddalwedd a seilwaith, gan oruchwylio'r gwaith o weinyddu Active Directory ac Office 365, diagnosio a datrys digwyddiadau cymhleth, rheoli'r defnydd o feddalwedd, a sicrhau, mewn cydweithrediad â'r timau seilwaith a seiberddiogelwch, fod yr holl gyfarpar digidol yn ddiogel ac yn gwbl weithredol.

Mae hefyd yn cynnwys gwella gwasanaethau, sy'n golygu gwerthuso technolegau digidol sy'n dod i'r amlwg, glynu wrth safonau’r ITIL, profi newidiadau i wasanaethau yn drylwyr, cynnal dogfennaeth gywir, a chefnogi gwaith prosiect, gan gynnwys gosod systemau a datblygu seilwaith.

Gweithio i gyflawni amcanion cytunedig y tîm, gyda'r rhyddid i wneud hyn o weithio o fewn canllawiau Gwasanaethau Digidol.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

•    Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
•    Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
•    Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
•    47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
•    Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu



Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar 07/08/2025.

Manyleb y person

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gradd mewn pwnc digidol-gysylltiedig neu brofiad cyfatebol
  • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
  • Tystysgrif Sylfaen yr ITIL
Meini prawf dymunol
  • Unrhyw gofrestriad proffesiynol
  • Unrhyw dystysgrifau perthnasol mewn llwyfannau technoleg

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad helaeth o ddarparu cymorth ail linell i systemau gweithredu a chymwysiadau cynhyrchiant
  • Profiad helaeth o ddarparu cymorth mewn perthynas â chyfarpar a meddalwedd TGCh
  • Profiad o gefnogi technolegau rhwydweithio ardaloedd lleol
  • Profiad o offer a meddalwedd sy'n amddiffyn seiberddiogelwch
  • Profiad helaeth o gymwysiadau ac offer rheoli gwasanaethau TGCh
Meini prawf dymunol
  • Gweithio mewn amgylchedd GIG/gofal iechyd
  • Cefnogi cymwysiadau digidol a defnyddwyr

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Nick Morgan
Teitl y swydd
Client Services Team Leader
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg