Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Mamolaeth
Gradd
Gradd 2
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
37.5 awr yr wythnos (Un dydd Sadwrn ym mhob cyfnod o bedair wythnos)
Cyfeirnod y swydd
100-AC352-1225
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£24,833 y flwyddyn (pro rata os yn rhan-amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
29/12/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
06/01/2026

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Clerc y Ward Mamolaeth

Gradd 2

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Rydym yn chwilio am Glerc Ward brwdfrydig i ymuno â'n tîm amlddisgyblaethol yn yr Uned Famolaeth yn Ysbyty Glangwili. Byddwch yn cael eich lleoli mewn un o dair ward: Cynenedigol, Esgor neu Dinefwr.

Rhaid i chi feddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol, bod yn ddibynadwy, yn brydlon a gweithio'n dda mewn tîm, a hefyd fod yn barod i addasu i sefyllfaoedd newidiol. Bydd i chi allu gweithio'n bwyllog ac mewn modd effeithlon mewn amgylchedd prysur a dwys, gan ddelio â sefyllfaoedd sydd weithiau'n anrhagweladwy, a sicrhau eich bod bob amser yn ffocysu ar ddarparu gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Rydym yn cydnabod mai aelodau ein tîm yw ein hased gorau, ac rydym yn awyddus i chi deimlo eich bod yn cael eich cefnogi a'ch annog i gyflawni eich potensial.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Yn swydd Clerc y Ward, byddwch yn rheoli ac yn darparu cymorth ysgrifenyddol a gweinyddol. Mae ymdeimlad cadarn o waith tîm ac ymrwymiad i gynnal safonau uchel yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Bydd y rôl yn addas ar gyfer rhywun sy'n mwynhau gweithio mewn swyddfa brysur lle y byddai'n gallu gweithio'n rhan o dîm yn ogystal ag ar ei fenter ei hun.

Bydd angen i chi allu cyfathrebu'n glir ac mewn modd effeithiol ar bob lefel, darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol, a delio â thasgau gweinyddol mewn modd amserol ac effeithiol.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Cynhelir y cyfweliadu ar 06/01/2026 

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Addysg o safon dda
  • Sgiliau rhifedd a llythrennedd

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau TG: Microsoft a system e-bost
Meini prawf dymunol
  • Profiad o waith swyddfa/gweinyddol

Dawn a Gallu

Meini prawf hanfodol
  • Parodrwydd i ddysgu gweithdrefnau gweinyddol/clercol/ward trwy hyfforddiant yn y swydd
  • Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig rhagorol
  • Y gallu i weithio i derfynau amser
  • Y gallu i weithio mewn tîm

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Michelle Langston
Teitl y swydd
Dinefwr Ward Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267 227591
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Alison Jones, Bydwraig Arweiniol Glinigol a Gweithredol, Ysbyty Glangwili 01267 283333

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg