Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Addysg Feddygol
Gradd
Gradd 3
Contract
Parhaol: Llawn-amser, ond bydd oriau rhan-amser yn cael eu hystyried
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-AC268-0925
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£25,313 - £26,999 y flwyddyn (pro rata os yn rhan-amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
21/09/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
03/10/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Gweinyddwr Addysg Feddygol

Gradd 3

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi i weinyddwr profiadol ymuno â'r Tîm Addysg Feddygol prysur yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Caerfyrddin.  

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, gweithgar a chyfeillgar  i ddarparu cymorth gweinyddol cynhwysfawr. Bydd angen i'r unigolyn a benodir allu dangos sgiliau trefnu, cyfathrebu a rheoli amser effeithiol.

 

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Prif ddyletswyddau'r rôl :

Bod yn un o'r prif bwyntiau cyswllt ar gyfer meddygon ac ymwelwyr eraill â'r ganolfan addysg feddygol

Cefnogi'r gwaith o redeg y ganolfan o ddydd i ddydd, gan gynnwys archebu a pharatoi ystafelloedd ar gyfer addysgu a gweithgareddau eraill, ynghyd â chadw tŷ yn gyffredinol

Hwyluso a goruchwylio'r gwaith o ddatblygu rhaglenni addysgu a dysgu amrywiol

Cefnogi'r gwaith o drefnu digwyddiadau addysgol sy'n cael eu cynnal yn y ganolfan

Cynnal rhestrau cyswllt cyfredol ar gyfer yr holl hyfforddeion a hyfforddwyr sydd wedi'u lleoli yng Nglangwili

Sicrhau bod y systemau sydd ar waith i gofnodi'r rhai sy'n bresennol ar gyfer sesiynau addysgu yn cael eu diweddaru

Tasgau gweinyddol eraill, megis ateb y ffôn; llungopïo; sganio, ac ati

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar 03/10/2025

Manyleb y person

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd swyddfa prysur
  • Profiad o drefnu digwyddiadau a/neu brosiectau
  • Profiad o weithio gyda Systemau TG, h.y. cronfeydd data, ac yn gyfarwydd ag Excel, PowerPoint a systemau eraill
  • Profiad o osod blaenoriaethau
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd addysgol
  • Profiad blaenorol o weithio yn y GIG
  • Profiad o weithio gydag MS Teams

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth am amrywiaeth o weithdrefnau gweinyddol a chlerco
  • Wedi eich addysgu i safon Lefel 3, e.e. Safon Uwch/NVQ 3, ac ati
Meini prawf dymunol
  • Wedi eich addysgu i Lefel Diploma
  • Gwybodaeth am y broses Addysg Feddygol yn amgylchedd y gwasanaeth iechyd

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Yn hyblyg o ran oriau gwaith
  • Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol
  • Y gallu i hwyluso a mynychu cyfarfodydd y tu allan i oriau gwaith arferol

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Grace Aldrich
Teitl y swydd
Medical Education Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267 229613
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg