Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Newydd-enedigol
Gradd
Gradd 5
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
37.5 awr yr wythnos (Oriau llawn a rhan amser amrywiol ar gael)
Cyfeirnod y swydd
100-NMR331-1025
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£31,516 - £38,364 y flwyddyn (pro rata os rhan-amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
02/11/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
12/11/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Nyrs Staff Babanod Newydd-anedig

Gradd 5

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Cael Effaith Barhaol – Ymunwch â'n Tîm Nyrsio Newyddenedigol

Ydych chi'n barod i wneud gwahaniaeth ym mywydau babanod newydd-anedig a'u teuluoedd? Yn rôl Nyrs Gofrestredig y Newydd-anedig yn ein Huned Gofal Arbennig Babanod byddwch yn darparu gofal tosturiol, seiliedig ar dystiolaeth i rai o'n cleifion mwyaf agored i niwed. Gan weithio mewn tîm amlddisgyblaethol cefnogol, byddwch yn helpu i greu amgylchedd diogel a meithringar, gan ddatblygu eich sgiliau trwy hyfforddiant arbenigol a mentoriaeth.

Mae'r rôl hon yn cynnig y cyfle i arwain gydag empathi, i eiriol dros deuluoedd, ac i gyfrannu at welliant parhaus yn y gwasanaeth. Os ydych yn nyrs frwd sy'n rhoi gwerth ar urddas, parch a rhagoriaeth, byddem wrth ein bodd yn eich croesawu i'n tîm.

Byddwch yn gryfder y mae ar fabi ei angen. Byddwch yn gysur y mae teulu'n ei haeddu. Byddwch yn nyrs sy'n gwneud gwahaniaeth.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Yn rôl Nyrs y Newydd-anedig Band 5, byddwch yn darparu gofal tosturiol o safon uchel lle bo cymorth meddygol neu nyrsio yn ofynnol ar ôl yr enedigaeth i fabanod a anwyd cyn amser a babanod a gafodd eu cario i'w cyfnod llawn. Gan weithio mewn tîm amlddisgyblaethol, mae eich cyfrifoldebau'n cynnwys asesu, cynllunio a gweithredu gofal unigol ar gyfer babanod newydd-anedig mewn lleoliadau gofal arbennig, dibyniaeth uchel, neu ofal dwys. Byddwch yn monitro arwyddion bywyd, yn rhoi meddyginiaethau, ac yn ymateb i newidiadau clinigol, gan sicrhau ymyriadau amserol.

Mae cyfathrebu effeithiol yn hanfodol gan y byddwch yn cysylltu â theuluoedd, timau diogelu, a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill i gefnogi gofal holistaidd. Byddwch yn hyrwyddo gofal integredig i'r teulu, gan annog cyfranogiad y rhieni a chynnal urddas a pharch trwy gydol arhosiad y baban yn yr ysbyty. Mae dogfennaeth gywir a glynu wrth safonau proffesiynol yn hanfodol.

Byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn datblygiad proffesiynol parhaus, sy'n cynnwys rhaglenni hyfforddi newyddenedigol-benodol, ac yn cyfrannu at fentrau i wella'r gwasanaeth. Mae'n ofynnol gweithio shifftiau ar rota 24/7, ac efallai y bydd disgwyl i chi weithio ar batrwm cylch rhwng unedau neu gefnogi gwasanaethau gofal dros dro.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.

Cynhelir y cyfweliadau ar 12/11/2025.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio. 

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu. 

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr. 

Darperir ein gwasanaethau yn: 

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd  

  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro 

  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall 

  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref 

  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu 

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cofrestriad cyfredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth; Nyrs Gofrestredig rhan 1, 8 neu 15 o'r gofrestr
  • Dealltwriaeth o faterion proffesiynol a chyfredol ym maes nyrsio newyddenedigol
  • Willingness to undertake both the Neonatal High Dependency Course and the Neonatal Intensive Care Course (Qualification in Speciality, QIS) to ensure high standards of neonatal care and skills
  • Evidence of statutory and mandatory training
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster Newyddenedigol neu brofiad perthnasol o Gefnogi Bywyd y Newydd-anedig (NLS)
  • Cymhwyster Mentoriaeth
  • NLS

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio gyda naill ai babanod newydd-anedig neu blant a salwch difrifol/cronig
Meini prawf dymunol
  • Profiad ol-gofrestru newyddenedigol/pediatreg
  • Profiad o oruchwylio ac asesu myfyrwyr a staff iau

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Leah Andrew
Teitl y swydd
Senior Nurse for Neonates
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267 283300
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

01267 283300 Extension: 408005

Cysylltwch â'r ward a siaradwch â mi neu un o'r tîm os hoffech gael taith o amgylch yr uned a chwrdd â rhai o aelodau'r tîm.

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg