Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Neffroleg
- Gradd
- Gradd 4
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 15 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AC020-0126
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £27,898 - £30,615 y flwyddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 15/02/2026 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 23/02/2026
Teitl cyflogwr
Ysgrifennydd Meddygol ym maes Neffroleg
Gradd 4
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Dyma gyfle i ymuno â'r Tîm Neffroleg yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili.
Gwahoddir ceisiadau gan unigolion effeithlon sy'n meddu ar y cymwysterau addas ar gyfer swydd Ysgrifennydd Meddygol Band 4 rhan-amser yn y Tîm Llawfeddygaeth Gyffredinol yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Caerfyrddin, a hynny ar drefniant parhaol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Gan weithio 15 awr yr wythnos, bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus gefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaeth ysgrifenyddol cynhwysfawr ac o ansawdd i'r Meddygon Ymgynghorol a'u timau.
Byddwch yn ymgymryd ag amrywiaeth eang o ddyletswyddau, sy'n cynnwys cael a dosbarthu post, trawsgrifio sain, a theipio llythyrau ac adroddiadau sensitif iawn, gan gynnal cyfrinachedd bob amser, yn ogystal â gweithredu system cronfa ddata cleifion y Bwrdd Iechyd. Bydd disgwyl i chi amlygu sgiliau trefnu rhagorol, a bod yn hyblyg ac yn barod i addasu eich ffordd o weithio. Rhaid i chi allu gweithio ar eich menter eich hun, gan amlygu doethineb a diplomyddiaeth lle bo hynny’n briodol, ynghyd â meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol.
Mae profiad o Microsoft Word, Excel, PowerPoint ac e-bost, ynghyd â sgiliau ysgrifenyddol profedig (yn cynnwys sgiliau clywdeipio) a phrofiad blaenorol o derminoleg feddygol, yn hanfodol.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 23/02/2026
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- RSA III neu brofiad amlwg cyfatebol o deipio
- Profiad o amrediad llawn o ddyletswyddau sy'n ymwneud â gweithio mewn amgylchedd gweinyddol/swyddfa
- Gwybodaeth am Derminoleg Feddygol/Gofal Iechyd
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster ECDL
- Cymhwyster mewn terminoleg feddygol
- AMSPAR
Experience
Meini prawf hanfodol
- Profiad ysgrifenyddol meddygol blaenorol
- Gwybodaeth ymarferol am systemau cronfeydd data cleifion
Meini prawf dymunol
- Profiad y GIG
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Sue Roohi
- Teitl y swydd
- Medical Secretary Coordinator
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 283273
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector





