Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Nyrsio/Optometreg/Orthopteg
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 34 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-NMR169-0625
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £46,840 - £53,602 y flwyddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 18/06/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 27/06/2025
Teitl cyflogwr

Ymarferydd Datblygiad ac Ymarfer Proffesiynol (Offthalmoleg)
Gradd 7
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Mae gwasanaeth Offthalmoleg Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn chwilio am ymgeisydd delfrydol i lenwi'r swydd sydd newydd ei chreu ar gyfer Ymarferydd Datblygiad ac Ymarfer Proffesiynol yn y gwasanaeth, a chefnogi cyd-weithwyr sy'n datblygu yn eu rolau a'u gyrfaoedd.
Mae'r rôl hon yn agored i Nyrsys, Optometryddion ac Orthoptyddion, ac mae am 34 awr yr wythnos, er y gellid ystyried trefniadau rhan-amser eraill ar gyfer yr ymgeisydd cywir.
Os oes gennych angerdd dros addysg a hoffech ddatblygu eich gyrfa i'r cyfeiriad hwn, ystyriwch wneud cais am y swydd hon. Rhoddir cefnogaeth gydag addysg lle bo angen.
Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus deithio rhwng safleoedd yn aml, gan roi cefnogaeth agos i gyd-weithwyr sy'n cael hyfforddiant Sefydlu, Agored neu OPT, a chydweithio â rheolwyr yr uned i gefnogi'r gwaith o drefnu a darparu hyfforddiant. Gellid cefnogi ffyrdd hybrid o weithio fel rhan o'r rôl.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd yr Ymarferydd Datblygiad ac Ymarfer Proffesiynol (Offthalmoleg) yn cyfrannu at nodau strategol y tîm Offthalmoleg i ddarparu gofal diogel, effeithiol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac yn ddoeth.
Bydd deiliad y swydd yn cymryd rôl arweiniol ar ffrydiau gwaith penodol a bydd yn gweithio gyda staff allweddol i fwrw ymlaen â rhaglenni gwaith sy'n cyd-fynd ag amcanion cenedlaethol ac amcanion Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Bydd deiliad y swydd yn cymhwyso egwyddorion allweddol datblygiad ac ymarfer proffesiynol trwy ganolbwyntio ar wella gofal a diogelwch cleifion trwy fabwysiadu amrywiaeth o ddulliau, gan weithio'n bennaf yn rhannau gwahanol y gwasanaeth. Yn allweddol i hyn yw ymgysylltiad gweithredol ymarferwyr a chlinigwyr sy'n gweithio mewn ffordd ryngbroffesiynol gydweithredol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Cynhelir y cyfweliadau ar 27/06/2025
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cofrestriad cyfredol gyda chorff rheoleiddio perthnasol (y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, y Cyngor Optegol Cyffredinol, Cymdeithas Orthoptig Prydain ac Iwerddon, Cyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal)
- Tystiolaeth o brofiad addysgu/darparu addysg
- Tystiolaeth o astudiaeth ar lefel MSc
- Gwybodaeth helaeth am God Ymarfer/Ganllawiau cyrff rheoleiddio perthnasol
- Gwybodaeth helaeth am fethodolegau Gwella Ansawdd a phrofiad o'u rhoi ar waith
- Gwybodaeth helaeth am ymarfer cydweithredol, a phrofiad/dealltwriaeth ohono
- Dealltwriaeth o fentoriaeth/oruchwyliaeth glinigol/ymarfer myfyriol/hyfforddi
- Gwybodaeth am y broses ymchwil
Meini prawf dymunol
- Cwrs hwyluso ôl-gofrestru
- TAR
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ôl-gofrestru helaeth, yn cynnwys profiad mewn rôl reoli/arwain
- Tystiolaeth o gyfraniadau blaenorol at ddatblygu ymarfer clinigol
- Profiad o hwyluso ymarfer myfyriol
- Profiad o ddatblygu rhaglenni addysgol/gynllunio cwricwlwm
- Profiad o addysgu a chyflwyno rhaglenni addysgol
- Profiad o gynnal archwiliad clinigol a defnyddio canlyniadau mesuradwy i lywio'r broses o ddatblygu ymarfer
- Y gallu i ddadansoddi gwaith ymchwil/archwilio mewn modd beirniadol a'i gymhwyso i ymarfer y sefydliad
- Dealltwriaeth fanwl o'r broses ymchwil
- Profiad o ddefnyddio rhaglenni Microsoft Office
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio mewn rôl hwylusydd
- Profiad o ddatblygu ac ymgymryd â phrosiectau ymchwil
- Cyhoeddi papurau academaidd/lledaenu datblygiadau mewn ymarfer
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Marta Barreiro Martins
- Teitl y swydd
- Senior Nurse Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07815022127
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Croesewir sgyrsiau ac ymweliadau anffurfiol
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau gwyddor iechyd neu bob sector