Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Cleifion Allanol
- Gradd
- Band 5
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Mae rhan amser amrywiol ar gael
- Cyfeirnod y swydd
- 100-NMR182-0626-A
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £32,557 - £39,631 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 08/07/2026 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 14/07/2026
Teitl cyflogwr
Nyrs Gofrestredig
Band 5
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Os ydych chi'n unigolyn deinamig sy'n mwynhau her ac yn hoffi ymuno â thîm sy'n angerddol dros ddarparu gofal o ansawdd uchel i'w cleifion, yna rydyn ni eisiau clywed gennych. Mae gennym swyddi rhan amser amrywiol ar gael ar gyfer nyrs gofrestredig brofiadol yn ein Hadran Cleifion Allanol brysur, yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Caerfyrddin.
Cleifion allanol yw'r drws ffrynt i daith y claf i ofal iechyd wedi'i gynllunio a'r allanfa i reoli iechyd llwyddiannus. Mae gwasanaethau cleifion allanol yn cynnig amrywiaeth o arbenigeddau nyrsio i ennill a chydgrynhoi sgiliau a phrofiad clinigol a gall fod yn fan cychwyn da ar gyfer llywio gyrfa neu gyfleoedd i archwilio rolau arbenigol yn y dyfodol mewn arbenigeddau clinigol gydag amlygiad clinigol uniongyrchol. Mae gwasanaethau cleifion allanol wedi ymrwymo i werthoedd y Byrddau Iechyd ac yn ymfalchïo mewn darparu profiad cadarnhaol i gleifion o ran sut rydym yn gwerthfawrogi ein cleifion yn y cymunedau rydyn ni'n gweithio ynddynt.
Byddai nyrsio cleifion allanol blaenorol yn fanteisiol. Bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu i ymgeiswyr llwyddiannus i alluogi arferion gwaith effeithiol i gefnogi profiad y claf, diogelwch cleifion a chefnogi ein cydweithwyr sy'n gweithio o fewn y lleoliad cleifion allanol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae cleifion allanol yn amgylchedd amrywiol, amlddisgyblaethol sy'n gofyn am sgiliau hyblyg ac addasadwy, gallu i ddysgu a chymhelliant i ddatblygu eich sgiliau eich hun. Rydym yn cwmpasu ystod eang o arbenigeddau gan gynnwys Clinigau Fasgwlaidd, Orthopedeg a Chlust, Trwyn a Gwddf.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn frwdfrydig, yn drefnus ac yn ymrwymedig i roi gofal nyrsio o ansawdd uchel ac yn gallu gweithio'n annibynnol yn ogystal â bod yn rhan o dîm. Byddwch yn sicrhau yn gyson bod preifatrwydd, urddas a lles seicolegol claf yn cael eu cynnal bob amser a bod y gofal a roddir yn canolbwyntio ar y claf. Mae angen i chi fod â sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol. Mae angen unigolion sy'n meddwl blaengar, wedi'u trefnu'n dda gydag agwedd gadarnhaol tuag at hyblygrwydd a newid.
Rydym yn adran ragweithiol ac yn cefnogi myfyrwyr meddygol, myfyrwyr nyrsio, prentisiaid, lleoliad gwaith a datblygiad Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd. Fel nyrs gymwys o fewn yr adran, byddwch yn gweithredu fel Aseswr Ymarfer a/neu Oruchwyliwr Ymarfer. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd addysg wrth gynnal gweithlu cynaliadwy ac yn disgwyl i'n staff arwain trwy esiampl i ysbrydoli cenhedlaeth y dyfodol o weithlu.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Cyfweliadau i'w cynnal ar 14/07/2026
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cofrestriad Cyfredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
Meini prawf dymunol
- Gradd mewn Nyrsio
- Tystiolaeth o astudiaeth a hyfforddiant ôlgofrestru, e.e. Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed (POVA)
- Tystiolaeth o astudiaeth a hyfforddiant ôlgofrestru, e.e. Amddiffyn Plant
- Triniaeth Cynnal Bywyd Ganolradd os yw'n ofynnol mewn lleoliad clinigol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth cyn-gofrestru o ofal nyrsio uniongyrchol
- Profiad o ddarparu gofal nyrsio holistaidd
- Diddordeb mewn meithrin sgiliau nyrsio
Meini prawf dymunol
- Dealltwriaeth glir o'r fframwaith llywodraethu clinigol
- Rhoi arfer seiliedig ar dystiolaeth ar waith
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Sara Gowman
- Teitl y swydd
- Senior Sister
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 227835
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a Bydwreigiaeth neu bob sector





