Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Fferylliaeth
Gradd
Band 3
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
  • Rhannu swydd
37.5 awr yr wythnos (Bydd oriau rhan amser a rhannu swydd yn cael eu hystyried.)
Cyfeirnod y swydd
100-ACS064-0525
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£24,433 - £26,060 y flwyddyn (pro rata os rhan amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
02/06/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
09/06/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Uwch-swyddog Technegol Cynorthwyol

Band 3

Trosolwg o'r swydd

Rydym yn chwilio am unigolyn llawn cymhelliant a brwdfrydedd sydd â diddordeb mewn gwyddor gofal iechyd i gefnogi'r Tîm Fferylliaeth yn y gwaith o redeg Adran Fferylliaeth y Tîm Iechyd Meddwl o ddydd i ddydd yn Ysbyty Glangwili. 

Mae'r Tîm Fferylliaeth yn dîm blaengar, ac mae'n ymdrechu'n barhaus i wella'r modd y darperir gofal fferyllol sy'n canolbwyntio ar y claf, ac o ran gwneud y defnydd gorau o feddyginiaethau yn y Bwrdd Iechyd. 

Mae hon yn swydd barhaol, 37.5 awr yr wythnos. Bydd oriau rhan amser a rhannu swydd yn cael eu hystyried. Rhaid bod gennych sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol, a bydd angen i chi allu gweithio mewn modd effeithiol gyda'r tîm cyfredol yn yr Adran Fferylliaeth.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio mewn tîm o Uwch-swyddogion Technegol, Technegwyr Fferyllol a Fferyllwyr i ddarparu ystod eang o Wasanaethau Fferyllol yn yr ysbyty. Byddwch yn cael hyfforddiant penodol i'ch helpu i ddatblygu eich sgiliau. 

Rhaid i ymgeiswyr feddu ar 5 TGAU (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch. Mae meddu ar Gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ) Lefel 2 mewn fferyllfa, yn y gymuned neu mewn ysbyty yn ddymunol; fodd bynnag, nid yw'n hanfodol gan y darperir cymorth a goruchwyliaeth lawn i gyflawni a chwblhau'r cymhwyster NVQ Lefel 2 mewn gwasanaethau fferyllol. 

Cyflawni amrywiaeth o dasgau i gefnogi'r timau fferylliaeth yn y Bwrdd Iechyd. Gall y rôl olygu gweithio yn y meysydd a ganlyn: Dosbarthu, Caffael, y Ddosbarthfa, Gwasanaethau ar y Wardiau.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ar rota penwythnosau a gwyliau banc.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).

5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.

Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion). 
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:

48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i'r ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i goleddu'r angen am ddwyieithrwydd yn llawn, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn unol â'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar  09.06.2025

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Safon dda mewn addysg uwchradd, sydd i gynnwys 5 TGAU ar lefel C, neu gyfwerth
  • Cymhwyster lefel 3 neu brofiad cyfatebol
Meini prawf dymunol
  • Buttercups / Cymhwyster NVQ 2 mewn Fferylliaeth
  • 5 TGAU ar lefel C neu uwch, sydd i gynnwys Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth
  • Gwybodaeth am enwau cyffuriau

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad TG sylfaenol
Meini prawf dymunol
  • Profiad mewn ysbyty neu fferyllfa manwerthu yn y gymuned
  • Profiad o ofal cwsmeriaid
  • Profiad o gynnal a chadw stoc
  • Y gallu i weithio mewn tim

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg lefel 1

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCarer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Gwenllian Hughes
Teitl y swydd
Lead Mental Health Pharmacist
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267 227367
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg