Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Fferylliaeth
- Gradd
- Band 6
- Contract
- 20 mis (Cyfnod penodol / Secondiad tan 31/3/27)
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Gweithio ar benwythnosau, gweithio ar wyliau banc yn ôl yr angen)
- Cyfeirnod y swydd
- 100-PST022-0725
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £37,898 - £45,637 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 15/07/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 25/07/2025
Teitl cyflogwr

Prif Dechnegydd Fferyllfa ar gyfer ePMA
Band 6
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Mae swydd hon yn Cyfnod Penodol/ Secondiad tan 31.3.27. Os ydych yn gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am secondiad i'r swydd hon, bydd angen i'ch rheolwr presennol gytuno i'r secondiad cyn i chi gyflwyno eich cais.
Mae gennym gyfle cyffrous i dechnegydd fferyllfa profiadol sydd â brwdfrydedd dros drawsnewid digidol ymuno â'n tîm ePMA. Mae hwn yn gyfle cyffrous i ddysgu rhagor am systemau digidol a chyfrannu at y newid trawsnewidiol hwn i bresgripsiynu a gweinyddu meddyginiaethau yn y Bwrdd Iechyd.
Bydd ePMA yn trawsnewid prosesau meddyginiaethau yn y Bwrdd Iechyd, gan wella effeithlonrwydd a diogelwch. Gan y bydd ganddo wybodaeth dda am brosesau meddyginiaethau, bydd gan ddeiliad y swydd rôl hanfodol yn y broses o ffurfweddu a phrofi'r system ePMA, yn ogystal â darparu hyfforddiant a chymorth ledled meysydd clinigol i bob grŵp o staff.
Bydd hyrwyddo ymgysylltiad digidol a manteision gweithio'n ddigidol yn allweddol i'r rôl hon. Yn ogystal â gweithio gyda thimau clinigol, bydd deiliad y swydd yn cysylltu â thimau prosiect digidol a chyd-weithwyr allanol i'r Bwrdd Iechyd.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Cyfrannu at ddatblygu, gweithredu a chynnal a chadw'r system ePMA. Darparu cymorth ochr gefn i brosesau technegol, megis ffurfweddu ac adeiladu'r gronfa ddata cyffuriau a phrofi.
Disgwylir i ddeiliad y swydd ddarparu hyfforddiant ar y system i staff clinigol yn ystod y broses o'i rhoi ar waith, a darparu cymorth o ran y system yn ôl yr angen, megis mynediad at systemau a datrys problemau.
Bydd y rôl yn cynnwys bod yn aelod gweithredol o grwpiau defnyddwyr y system, yn fewnol ac yn allanol i'r Bwrdd Iechyd, a datblygu rhwydwaith gyda thechnegwyr ePMA fferyllfa o sefydliadau gofal iechyd eraill.
Disgwylir i ddeiliad y swydd gymryd rhan mewn gwaith gwella gwasanaethau sy'n ymwneud â phrosesau meddyginiaethau a thynnu ac adrodd ar ddata a gynhyrchir trwy'r system ePMA.
Bydd angen i ddeiliad y swydd fod yn hunangymhellol a rheoli ei lwyth gwaith ei hun, gan gefnogi technegwyr fferyllfa eraill yn y tîm.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro ·
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Diben y rôl hon yw cefnogi'r broses o roi ePMA ar waith yn y Bwrdd Iechyd. Bydd y tîm ePMA cyfeillgar a brwdfrydig yn darparu cefnogaeth lawn i ddatblygu yn y rôl hon. Mae hon yn rôl ledled y Bwrdd Iechyd, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus a'r fferyllydd arweiniol yn cytuno ar y prif leoliad.
Bydd angen gweithio'n agos ar gyfrifiadur yn ystod y camau dylunio a ffurfweddu. Rhaid i ddeiliad y swydd allu amlygu hyblygrwydd i ddiwallu anghenion y gwasanaeth a gallu teithio'n rheolaidd ledled holl safleoedd y Bwrdd Iechyd. Efallai y bydd gofyniad i weithio patrymau shifftiau dros
gyfnod o 7 niwrnod/24 awr yn ystod cyfnodau gweithredu allweddol.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon. I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â Helena Dunne i gael sgwrs anffurfiol neu i drefnu ymweliad.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 25/07/2025
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Tystysgrif Addysg Uwch Lefel 4 mewn Ymarfer Technegydd Fferyllfa neu NVQ 3 a BTEC neu gymhwyster cyfatebol mewn gwyddoniaeth fferyllol
- Technegydd Fferyllfa Cofrestredig gyda'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol
- Achrediad Technegydd Gwirio (ACPT)
- Achrediad Rheoli Meddyginiaethau (MMPT)
- Gwybodaeth broffesiynol am systemau a phrosesau rheoli meddyginiaethau mewn GIG integredig
- Profiad ôl-gofrestru sylweddol o weithio fel technegydd fferyllfa ar ward neu mewn ardal glinigol
Meini prawf dymunol
- Aelodaeth o gorff proffesiynol, e.e. APTUK
- Goruchwylydd Addysgol Hyfforddedig ar gyfer y rhaglen PRPT
- Cymhwyster Arweinyddiaeth a/neu Reoli, neu wybodaeth a phrofiad cyfatebol
- Diploma Clinigol Uwch Lefel 4/Rhaglen Hyfforddiant Optimeiddio Meddyginiaethau Fferyllol PWDS – Uned 3 Blaenoriaethu Clinigol, neu gymhwyster cyfatebol
- Cymhwyster mewn Gwella Gwasanaethau h.y. IQT Efydd, neu sylfaen mewn modiwl gwella neu brofiad cyfatebol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o hyfforddi ac addysgu staff fferyllfa a Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol eraill
- Profiad o oruchwylio staff iau
- Profiad o weithio gyda system gyfrifiadurol fferyllfa h.y. WellSky
- Profiad o gynnal archwiliadau neu wella gwasanaethau
- Profiad o weithredu systemau a phrosesau newydd
Other
Meini prawf hanfodol
- Yn meddu ar agwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth
- Hyblygrwydd i weithio ar draws safleoedd y Bwrdd Iechyd yn ôl gofynion y gwasanaeth, ynghyd â'r gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Helena Dunne
- Teitl y swydd
- Lead Pharmacist Digital Medicines Management
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01554781061
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Rydym yn annog pob ymgeisydd i gysylltu â Helena Dunne i gael sgwrs anffurfiol neu i drefnu ymweliad.
01554 781061
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau Gwyddor Iechyd neu bob sector