Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Fferyllfa
Gradd
Gradd 5
Contract
20 mis (Cyfnod penodol / secondiad o 20 mis tan 31/03/2027)
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhannu swydd
37.5 awr yr wythnos (Gweithio ar benwythnosau, gweithio ar wyliau banc yn ôl yr angen)
Cyfeirnod y swydd
100-PST020-0725
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Tref
Caerfyrddin,
Cyflog
£30,420 - £37,030 y flwyddyn (pro rata os yn rhan-amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
15/07/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
24/07/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Technegydd Fferyllol ar gyfer ePMA

Gradd 5

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.

Trosolwg o'r swydd

Mae swydd hon yn Cyfnod Penodol/ Secondiad tan 31.03.27. Os ydych yn gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am secondiad i'r swydd hon, bydd angen i'ch rheolwr presennol gytuno i'r secondiad cyn i chi gyflwyno eich cais.

Mae gennym gyfle cyffrous i dechnegydd fferyllol sydd â diddordeb mewn systemau digidol ymuno â'n tîm Presgripsiynu a Rhoi Meddyginiaethau yn electronig (ePMA).

Dyma gyfle i ddysgu rhagor am systemau digidol a chyfrannu at y newid hwn mewn prosesau meddyginiaethau, ochr yn ochr â meithrin eich sgiliau a'ch gallu. Mae angen i ddeiliad y swydd fod â chefndir clinigol, bod yn hunanysgogol, meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol, a mwynhau cefnogi staff trwy newid.

Bydd ePMA yn trawsnewid prosesau meddyginiaethau, gan wella effeithlonrwydd a diogelwch cleifion, a bydd y rôl hon yn chwarae rhan fawr wrth gyfleu manteision gweithio digidol i staff clinigol yn y Bwrdd Iechyd, a rhoi cefnogaeth iddynt.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Ydd deiliad y swydd yn rhan o'r tîm ePMA, gan gynllunio a gweithredu'r system ePMA newydd.

Yn ystod y cyfnod cynllunio, bydd hyn yn cynnwys cefnogi'r technegydd arweiniol a'r fferyllwyr gyda phrosesau mwy technegol megis ffurfweddu a phrofi. 

Yn ystod y broses weithredu, bydd deiliad y swydd yn cynorthwyo i ddarparu hyfforddiant ac yn cysylltu'n uniongyrchol â staff i ddatrys ymholiadau a gwneud y defnydd gorau o'r system. 

Bydd y rôl hon yn cefnogi'r gwaith o ddangos effaith a manteision cyflwyno'r system ePMA, a hynny trwy gasglu data am feddyginiaethau cyn ac yn ystod y broses weithredu. 

Rhaid i ddeiliad y swydd allu amlygu hyblygrwydd i ddiwallu anghenion y gwasanaeth a gallu teithio'n rheolaidd ledled holl safleoedd y Bwrdd Iechyd. Efallai y bydd yn ofynnol gweithio patrymau shifftiau dros gyfnod o 7 niwrnod/24 awr yn ystod cyfnodau gweithredu allweddol.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio. 

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

•    Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd 
•    Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro · Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall 
•    47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref 
•    Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Diben y rôl hon yw cefnogi'r broses o roi’r system ePMA ar waith yn y Bwrdd Iechyd. Bydd y tîm ePMA cyfeillgar a brwdfrydig yn darparu cefnogaeth lawn i ddatblygu eich gwybodaeth ddigidol. Mae hon yn rôl ledled y Bwrdd Iechyd, a bydd yr ymgeisydd llwyddiannus a'r fferyllydd arweiniol yn cytuno ar y prif leoliad

Mae hwn yn swydd llawn amser a byddai rhannu'r swydd yn cael ei ystyried.

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.   I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â Helena Dunne i gael sgwrs anffurfiol neu i drefnu ymweliad.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar 24/07/2025

Manyleb y person

Qualifications and Knowledge

Meini prawf hanfodol
  • Tystysgrif Addysg Uwch Lefel 4 mewn Ymarfer Technegydd Fferyllfa neu NVQ 3 a BTEC neu gymhwyster cyfatebol mewn gwyddoniaeth fferyllol
  • Technegydd Fferyllol Cofrestredig gyda'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol
  • Achrediad Technegydd Gwirio (ACPT)
  • Achrediad Rheoli Meddyginiaethau (MMPT) neu brofiad cyfatebol
  • Gwybodaeth ymarferol am Arferion Rheoli Meddyginiaethau cyfredol a materion proffesiynol
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster mewn Gwella Gwasanaethau, h.y. IQT Efydd, neu sylfaen mewn modiwl gwella neu brofiad cyfatebo
  • Goruchwylydd Addysgol Hyfforddedig ar gyfer y rhaglen PRPT.

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad sylweddol o weithio mewn sefydliad gofal iechyd
  • Profiad o hyfforddi a goruchwylio staff fferyllol
  • Profiad o weithio gyda system gyfrifiadurol fferyllfa h.y. WellSky
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithredu systemau a phrosesau newydd
  • Profiad o gynnal archwiliadau neu wella gwasanaethau

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Parodrwydd i weithio'n hyblyg i fodloni anghenion y gwasanaeth
  • Hyblygrwydd i weithio ar draws safleoedd y Bwrdd Iechyd yn ôl gofynion y gwasanaeth, ynghyd â'r gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amsero
Meini prawf dymunol
  • Mae siaradwr Cymraeg (Lefel 1) yn ddymunol ar gyfer y swydd hon, ond nid yw'n hanfodol

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Helena Dunne
Teitl y swydd
Lead Pharmacist Digital Medicines Management
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01554781061
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg