Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Fferylliaeth
Gradd
Gradd 4 / Atodiad 21
Contract
24 mis (Cyfnod Penodol / secondiad tan 30/09/2027)
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-ACS182-0725
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£26,928 - £29,551 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
18/07/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
28/07/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Technegydd Fferylliaeth Cyn-gofrestru (Hyfforddiant ôl)

Gradd 4 / Atodiad 21

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.

Trosolwg o'r swydd

Mae hon yn swydd cyfnod penodol/secondiad tan 30/09/2027.

Os ydych chi'n gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am y swydd hon fel secondiad, mae angen cytundeb ar gyfer yr secondiad gan eich rheolwr presennol cyn gwneud cais.

Mae'r swydd hon yn gontract hyfforddi cyfnod penodol am 24 mis. Mae'r swydd hyfforddi hon yn darparu cyfle i ennill y profiad a'r cymhwyster/cymwysterau gofynnol i gofrestru'n dechnegydd 
fferyllol gyda'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPhC).

Cyflog: Atodiad 21 Band 4 – 70% o frig band 4 ym mlwyddyn un a 75% ym mlwyddyn dau. 

Mae technegwyr fferyllol yn meithrin lefelau uchel o arbenigedd mewn perthynas â meddyginiaethau ac iechyd, ac maent yn gweithio'n rhan o dimau gofal iechyd mewn ysbytai, unedau gweithgynhyrchu, fferyllfeydd cymunedol a phractisau meddygon teulu. Maent yn canolbwyntio ar y defnydd o feddyginiaethau i sicrhau bod pob math o bobl yn cael y canlyniadau gorau o'u meddyginiaethau. 

Yn ystod yr hyfforddiant dwy flynedd, disgwylir i chi ennill profiad sy'n adlewyrchu rolau newidiol a chynyddol y Technegydd Fferyllol.

Bydd cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus yn eich galluogi i wneud cais i'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol i gofrestru'n dechnegydd fferyllol, ac i ymgeisio am swyddi technegydd fferyllol.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Os ydych yn fanwl gywir, yn drefnus ac yn ofalgar, ac os oes gennych ddiddordeb mewn iechyd a llesiant, yna efallai mai dyma'r cyfle i chi.  

Rydym yn chwilio am unigolion blaengar, brwdfrydig, trefnus a llawn cymhelliant i ymuno â'n tîm Fferylliaeth dynamig a llawn cymhelliant yn Ysbyty'r Cyffredinol Glangwili.

Mae rôl y technegydd fferyllol yn amrywiol ac yn ddiddorol ac yn datblygu rolau newydd yn barhaus, a dyna pam yr ydym yn cynnig y cyfle hwn i archwilio'r rôl arloesol hon mewn rhaglen hyfforddi gylchdro. Byddwch yn ennill profiad mewn lleoliad Ysbyty yn dosbarthu ar gyfer cleifion mewnol a chleifion allanol, ynghyd â phrofiad o Brynu a Dosbarthu a gwaith ar y ward. 

 

 

 

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

•    Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd

•    Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
•    Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
•    47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
•    Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

 

 

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Mae'r swydd-ddisgrifiad sydd ynghlwm yn cyfeirio at y swydd y byddech yn gweithio tuag ati. Ni fydd y rheiny sydd ar hyn o bryd yn meddu ar Ddiploma Lefel 3 mewn Fferylliaeth, NVQ lefel 3 mewn Fferylliaeth neu gymhwyster cyfatebol yn cael eu hystyried. 

I sicrhau lle ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad, rhaid i ymgeiswyr feddu ar o leiaf bedwar TGAU, graddau A*-C (graddau newydd 9-4) neu gymwysterau cyfatebol, gan gynnwys: 

TGAU Saesneg Gradd C/Lefel 4 neu uwch, cymhwyster Cenedlaethol yr Alban 5 neu uwch, neu dystiolaeth gyfatebol o iaith Saesneg, a all gynnwys Sgiliau Hanfodol Cymru – Cyfathrebu Lefel 2.  

TGAU Mathemateg Gradd C/Lefel 4 neu uwch, cymhwyster Cenedlaethol yr Alban 5 neu uwch, neu dystiolaeth gyfatebol o rifedd, a all gynnwys Sgiliau Hanfodol Cymru – Cymhwyso Rhif Lefel 2.  

Un TGAU Gwyddoniaeth Gradd C/Lefel 4 neu uwch, cymhwyster Cenedlaethol yr Alban 5 neu gymhwyster cyfatebol.  

Efallai y bydd angen i'r ymgeiswyr sy'n gwneud cais yn unol â'r egwyddorion ‘cyfatebol’, e.e. mynediad i gyrsiau addysg uwch, gwblhau cymwysterau ‘cyfathrebu’ a ‘cymhwyso rhif’ Sgiliau Hanfodol Cymru. 

Bydd prawf o'ch cymwysterau yn ofynnol ar ddiwrnod y cyfweliad. Os na ddarperir tystysgrifau ar y diwrnod, ni fyddwn yn gallu parhau â'r cyfweliad.

Byddwch yn ymgymryd â rhaglen hyfforddi sydd wedi'i chymeradwyo gan y GPhC ar gyfer addysg a hyfforddiant cychwynnol technegwyr fferyllol. Bydd yn rhaid i bob ymgeisydd nad yw eisoes yn meddu ar gymhwyster ‘llythrennedd digidol’ Sgiliau Hanfodol Cymru gwblhau hwn yn rhan o'r rhaglen. 

I gwblhau'r rhaglen bydd angen i'r ymgeiswyr feddu ar y gallu a'r brwdfrydedd i ymgymryd â rhaglen brentisiaeth fodern, a fydd yn cymryd dwy flynedd i'w chwblhau. Mae hyn yn golygu gweithio'n llawn-amser (37.5 awr yr wythnos) mewn fferyllfa, adeiladu portffolio o dystiolaeth, 
cael eich asesu yn y gwaith, dysgu ar-lein, ymgymryd â diwrnodau astudio a gwaith grŵp, a dilyn Safonau GPhC ar gyfer Gweithwyr Fferyllol Proffesiynol.

Mae ymrwymiad i astudio y tu allan i oriau gwaith yn hanfodol, yn ogystal â'r gallu i fodloni'r terfynau amser a osodir yn ystod eich rhaglen hyfforddi. 

Mae profiad o weithio mewn modd effeithiol yn rhan o dîm ac yn annibynnol, ynghyd â phrofiad mewn fferyllfa, yn ddymunol ond nid yw'n hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ennill cymhwyster Tystysgrif Addysg Uwch Lefel 4 mewn Ymarfer Technegydd Fferylliaeth cyn pen dwy flynedd a bydd yn cael ei benodi o dan reolau Atodiad 21. Mae hyn yn golygu y bydd yn cael ei gefnogi gan gynllun datblygu. (Yn ystod y flwyddyn gyntaf, bydd y taliad yn 70% o'r gyfradd cyflog uchaf ym Mand 4, ac yn 75% yn yr ail flwyddyn.)  Darperir cymorth a goruchwyliaeth er mwyn datblygu'r ymgeisydd llwyddiannus.

Fel rhan o broses Atodiad 21, nid oes cosb ariannol i’r rhai sy’n gwneud cais am y rôl hon lle bydd y ganran yn achosi gostyngiad mewn cyflog, ac o ganlyniad byddai amddiffyniad lleol yn cael ei roi ar waith nes bod y cyflog wedi dal i fyny.

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar 28/07/2025.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Lleiafswm o 4 TGAU - Gradd C neu uwch gan gynnwys mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth

Profiad

Meini prawf dymunol
  • Profiad o amgylchedd fferylliaeth
  • Profiad o weithio'n effeithiol o fewn tîm ac yn annibynnol
  • Profiad Gwasanaethau Cwsmeriaid

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Sally Davey
Teitl y swydd
Chief Pharmacy Technician
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267 227466
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Os hoffech drefnu ymweliad anffurfiol â’r adran fferylliaeth, cysylltwch ag Sally Davey neu Anja Roberts ar 01267 227466.

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg