Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Pharmacy
Gradd
Gradd 8a
Contract
12 mis (Cyfnod penodol / secondiad tan 28/02/2027 i gwmpasu absenoldeb mamolaeth)
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Gweithio ar benwythnosau, yn hwyr ac ar wyliau banc, ac ymrwymiad ar alwad yn ôl trefn rota)
Cyfeirnod y swydd
100-PST049-1225
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£56,514 - £63,623 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
04/01/2026 23:59
Dyddiad y cyfweliad
12/01/2026

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Uwch Fferyllydd - Menywod a Phlant a Meddygaeth

Gradd 8a

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae swydd hon yn Cyfnod Penodol/ Secondiad tan  28/02/2027.  Os ydych yn gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am secondiad i'r swydd hon, bydd angen i'ch rheolwr presennol gytuno i'r secondiad cyn i chi gyflwyno eich cais.

Rydym yn chwilio am unigolyn medrus a phrofiadol i ymgymryd â rôl Band 8a a fydd yn cwmpasu Menywod a Phlant a Meddygaeth, a hynny am 12 mis dros gyfnod absenoldeb mamolaeth. Mae'r rôl ddeuol hon yn gofyn am arweinyddiaeth gref, sgiliau trefnu rhagorol a gallu brwd i reoli prosesau llif cleifion cymhleth ar draws y ddau faes arbenigedd. 

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn goruchwylio gwasanaethau fferylloll clinigol i'r gyfarwyddiaeth Menywod a Phlant a Meddygaeth, gan sicrhau'r safonau gofal uchaf, profiad y claf ac effeithiolrwydd gweithredol ar draws gwasanaethau meddygol, mamolaeth, gynaecoleg, iechyd rhywiol, newyddenedigol a phediatrig.

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

  • Gweithredu yn rôl arbenigwr clinigol sy'n darparu gofal a chyngor fferyllol arbenigol
  • Darparu gwasanaeth fferyllol clinigol i'r wardiau Menywod a Phlant a Meddygol yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili
  • Cymryd rhan yn rowndiau wardiau meddygon ymgynghorol ac mewn cyfarfodydd tîm amlddisgyblaethol
  • Bod yn bresgripsiynydd annibynnol o fewn cwmpas eich arbenigedd, gan gefnogi gofal sy'n canolbwyntio ar y claf a mynediad amserol at feddyginiaeth
  • Cynnal adolygiadau o feddyginiaethau a chyfrannu at addysg cleifion a chynllunio rhyddhau
  • Datblygu a gweithredu polisïau, gweithdrefnau a chanllawiau rhagnodi sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac yn cyd-fynd â fframweithiau cenedlaethol a lleol
  •  Monitro a dadansoddi gwariant ar gyffuriau ar draws y cyfarwyddiaethau. Nodi cyfleoedd i arbed costau a hyrwyddo arferion rhagnodi costeffeithiol
  • Cyfrannu at addysg a hyfforddiant staff fferyllol, staff meddygol, timau nyrsio a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill yn y gyfarwyddiaeth
  • Darparu cymorth ar gyfer addysg israddedig ac ôl-raddedig, gan gynnwys goruchwylio myfyrwyr fferylliaeth, fferyllwyr dan hyfforddiant a fferyllwyr sylfaen yn ystod patrymau cylch clinigol
  • Goruchwylio staff iau yn ystod gweithgarwch gwella ansawdd ac archwilio
  • Rheoli presgripsiynau cleifion allanol ar gyfer cyflyrau cymhleth, gan gynnwys presgripsiynau oncoleg, hematoleg, clefyd llid y coluddyn a gofal lliniarol

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Mae gallu siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; croesewir ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg yn gyfartal.

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar 12/01/2026

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gradd Meistr mewn fferylliaeth
  • Yn gofrestredig gyda'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol
  • MSc neu Ddiploma ôl-raddedig yn y maes ymarfer, neu brofiad neu gymwysterau cyfatebol
Meini prawf dymunol
  • Goruchwylydd achrededig ar gyfer fferyllwyr sylfaen neu ôl-sylfaen
  • sylfaen Presgripsiynydd Annibynnol
  • Yn aelod o'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol
  • Yn gofrestredig i Reoli Ansawdd os yw'r rôl yn cynnwys gwaith aseptig
  • Paratoi a Dosbarthu Meddyginiaethau mewn modd Aseptig (Prifysgol Leeds) neu gymhwyster cyfatebol os yw'r rôl yn cynnwys technegau aseptig

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth a phrofiad mewn perthynas â gofal iechyd
  • gofal iechyd Gwybodaeth arbenigol am systemau a phrosesau rheoli meddyginiaethau mewn GIG integredig
  • Gwybodaeth arbenigol am eich maes ymarfer eich hun, sydd wedi'i meithrin trwy hyfforddiant ar lefel diploma a phrofiad
Meini prawf dymunol
  • Yn amlygu gwybodaeth arbenigol mewn mwy nag un maes
  • Profiad o ymchwil mewn ymarfer
  • Hyfforddi ac addysgu staff fferyllfa a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill
  • Profiad o reoli newid
  • Profiad o wella gwasanaethau

Ieithoedd Gofynion

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Ymagwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth i ymgymryd âgwaith ar alwad, ac i agor gyda'r nos ac ar benwythnosau
  • Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Anwen Richards
Teitl y swydd
Lead Pharmacist for Women and Children's
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267 227466
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Emma Davies 

Prif FFeryllydd ar gyfer Meddygaeth

[email protected]

01267 227466

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg