Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Ffisiotherapi
Gradd
Gradd 6
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-AHP020-0325-A
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£37,898 - £45,637 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
05/05/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
15/05/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Ffisiotherapydd Arbenigol ar Batrwm Cylch

Gradd 6

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.

Trosolwg o'r swydd

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cyflwyno cyfle cyffrous i ffisiotherapyddion profiadol a llawn cymhelliant weithio yn Ysbyty Glangwili. Swydd ar batrwm cylch fydd hon yn gweithio yn ein 
gwasanaeth Trawma Acíwt ac Orthopedig ac ar draws y wardiau Gofal Critigol a Llawfeddygol. Yn dibynnu ar ddatblygu gwasanaethau, efallai y bydd yna botensial i ehangu i gylchdroadau eraill. 

Trawma ac Orthopedeg: Gan mai'r ysbyty yw'r Uned Trawma Mawr ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, bydd y swydd yn cynnwys rheoli trawma cleifion ar draws ystod lawn o gyflyrau, gan gynnwys toriad esgyrn brau, trawma i'r breichiau a'r coesau, ac anfon cleifion i 
ganolfan sy’n lleol iddynt ar ôl cwblhau triniaeth am drawma mawr. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i fod yn rhan o wasanaeth allgymorth Trawma ac Orthopedeg yn y gymuned

Gofal Critigol a Llawfeddygaeth: Mae’r tîm Ffisiotherapi Gofal Critigol a Llawfeddygol yn darparu gofal adsefydlu i ystod eang o gleifion sydd wedi bod yn ddifrifol wael, sydd wedi bod yn feddygol sâl, ar ôl cael triniaeth lawfeddygol, neu gleifion sy'n rhan o lwybr y Rhwydwaith Trawma Mawr. 
Rydym yn chwarae rhan allweddol yn siwrnai'r claf o ofal critigol i'r cartref. 

 

 

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio'n hyblyg yn y lleoliad acíwt ledled wardiau llawfeddygol, wardiau trawma ac orthopedeg, a gofal critigol. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd fod yn ymarferydd ymreolaethol sy'n darparu sgiliau rhesymu clinigol ac asesu arbenigol ac yn rheoli llwyth achosion cymhleth yn ddyddiol. Bydd deiliad y swydd yn asesu, datblygu a gweithredu cynlluniau triniaeth personol, sydd wedi'u cyd-gynhyrchu, 
ar gyfer cleifion ag ystod amrywiol o gyflyrau. Rydym yn rhoi pwyslais cryf ar ofal sy'n canolbwyntio ar y claf er mwyn meithrin annibyniaeth a llesiant.

Bydd angen i'r ymgeisydd feddu ar allu rhagorol i reoli a blaenoriaethu llwyth achosion, a chefnogi a goruchwylio staff a myfyrwyr Ffisiotherapi. Er y bydd prif ffocws y rôl yn Ysbyty Glangwili, bydd disgwyl i chi weithio’n hyblyg ochr yn ochr â’r gwasanaethau yn Ysbyty'r Tywysog Philip, Llanelli a meddu ar y gallu i deithio yno yn ôl y gofyn.

Bydd gofyn i ddeiliad y swydd feddu ar y sgiliau i gymryd rhan yn y gwasanaeth anadlol ar alwad. Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais

Ar gyfer y rôl dylech feddu ar brofiad ac arbenigedd helaeth o ran egwyddorion, safonau a'r broses o ddarparu gofal adsefydlu i gleifion mewnol, ynghyd â gwybodaeth amlwg am reoli llwythi achosion cymhleth. Mae'r tîm yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth cynhwysfawr a chynaliadwy o ansawdd i'n cleifion.

 

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).

5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.

Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).

Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:

48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Bydd deiliad y swydd yn gweithio'n agos gyda chyd-weithwyr yn y gwasanaethau cleifion mewnol a chymunedol a'r tîm amlddisgyblaethol lleol er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau i gleifion. Anogir a chefnogir arloesedd o ran ymarfer a datblygu gwasanaethau. 

Bydd gofyn i ddeiliad y swydd gyfrannu at y gwaith o ddarparu gwasanaeth anadlol ar alwad, yn ogystal â datblygiadau yn y dyfodol o ran gweithio wythnos saith niwrnod.

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae hwn yn gyfle i ymuno â thimau sy'n croesawu dulliau arloesol o adfer, gan eich galluogi i weithredu ymarfer seiliedig ar dystiolaeth i yrru canlyniadau i'ch cleifion.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar 15/05/2025.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cofrestriad proffesiynol fel y'i cydnabyddir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
  • Tystiolaeth ol-raddedig o addysg arbenigol
  • Tystiolaeth o DPP
  • Sgiliau TG
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster ol-raddedig hyd at lefel diploma mewn arbenigedd perthnasol
  • Cwrs Hyfforddi Addysg Glinigol
  • Yn aelod o'r Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi
  • Wrthi'n cymryd rhan mewn grwpiau diddordeb arbennig

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad ol-raddedig mewn arbenigedd clinigol perthnasol
  • Wedi cwblhau'r cymhwysedd fframwaith iau
  • Profiad ymarferol hyd at lefel a fyddai'n eich galluogi i gymryd rhan yn y rota anadlol ar alwad
  • Trin therapiwtig ac asesiadau risg
  • Rheoli llwyth achosion amrywiol gan ddefnyddio proses rhesymu clinigol
  • Gweithio'n rhyng-broffesiynol ac mewn tîm
  • Ymwneud yn uniongyrchol a gofalwyr a theuluoedd
  • Tystiolaeth o gefnogi cydymffurfedd gwasanaeth a gofynion llywodraethu clinigol
  • Profiad o oruchwylio staff
Meini prawf dymunol
  • Profiad o oruchwylio myfyrwyr
  • Trafod arferion gweithio tim amlddisgyblaethol
  • Profiad o ddatblygu gwasanaethau
  • Profiad o weithio yn y GIG

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Tystiolaeth o addysgu/hyfforddiant mewn swydd
  • Agwedd hyblyg er mwyn diwallu anghenion y gwasanaeth
  • Yn barod i gymryd rhan yn y gwasanaeth ar alwad a'r gwasanaeth estynedig
  • Y gallu i deithio rhwng safleoedd ac yn y gymuned mewn modd amserol

Gofynion Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCarer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Rachel Cornish / Lynwen Williams
Teitl y swydd
Clincial Lead Physiotherapist
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267 227808
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Ffisiotherapydd Arweiniol Clinigol:

Lynwen Williams: [email protected] / 01267 227808

Arweinwyr y Gwasanaeth Ffisiotherapi: 

Hannah Thomas: [email protected]

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg