Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Ffisiotherapi
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- Parhaol: Llawn-amser, ond bydd oriau rhan-amser yn cael eu hystyried
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AHP109-1125
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £39,263 - £47,280 y flwyddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 21/11/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 08/12/2025
Teitl cyflogwr
Ffisiotherapydd Arbenigol – Adsefydlu Cleifion yr Ysgyfaint a Chanser
Gradd 6
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn cynnig cyfle cyffrous i ymuno â’n gwasanaethau Adsefydlu Cleifion yr Ysgyfaint a Therapi Canser esblygol yn BIP Hywel Dda. Mae’r swydd ffisiotherapi lawn-amser hon yn rhychwantu Sir Benfro, Ceredigion, a Sir Gâr, gan weithio yn Ysbyty Glangwili gyda’r posibilrwydd o gynnig darpariaeth rithwir ac ar draws safleoedd.
Mae ein gwasanaeth Adsefydlu Cleifion yr Ysgyfaint yn cynnwys:
Dosbarthiadau ymarfer corff yn y gymuned
Sesiynau addysg
Asesu cleifion
Ymweld â chartrefi
Rydym yn gweithio gyda’r Cynllun Cenedlaethol Atgyfeirio at Ymarfer Corff ac yn meithrin partneriaeth â darparwyr gweithgareddau yn y trydydd sector, a hynny er mwyn cefnogi cleifion y tu hwnt i’w rhaglen adsefydlu.
Mae’r swydd hon hefyd yn cefnogi ein tîm Therapi Canser sefydledig, a arweinir yn ddigidol. Byddwch yn helpu i ehangu ein rhaglen “Rhagsefydlu hyd at Adsefydlu”, yn cefnogi cleifion:
Cyn eu triniaeth canser (rhagsefydlu)
Yn ystod y driniaeth
Ar ôl y driniaeth (adsefydlu)
Mae’r rhaglen yn gwella canlyniadau clinigol, gweithredol, a llesiant, gan wella profiad y claf.
Rydym yn chwilio am ffisiotherapydd dynamig, profiadol ac ysbrydoledig i ymuno â’n tîm amlddisgyblaethol a helpu i ddarparu gwasanaethau therapi canser rhithwir, arloesol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Byddwch yn rhan o dîm therapi rhagweithiol, cyfeillgar sy’n cydweithio ar draws y timau amlddisgyblaethol yn y gymuned. Mae’r gwasanaeth blaengar hwn yn cefnogi arloesi a thwf proffesiynol. Byddwch yn darparu gofal o safon, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn seiliedig ar dystiolaeth, ar draws y ddau wasanaeth, gan gyfrannu at ddatblygu’r gwasanaeth adsefydlu ledled BIP Hywel Dda.
Bydd deiliad y swydd yn rhan o dîm presennol o ffisiotherapyddion sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau adsefydlu cleifion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda o fewn eu maes clinigol arbenigol diffiniedig. Bydd hyn yn golygu gweithio ar y cyd â thimau rhyngddisgyblaethol ac
amlddisgyblaethol i ddarparu gofal holistaidd.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am reoli ei lwyth achosion ei hun a fydd yn cynnwys hunanatgyfeiriadau yn ogystal â rhai gan feddygon teulu, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, ymarferwyr gwasanaethau cymdeithasol a meddygon ymgynghorol. Bydd yn weithiwr proffesiynol annibynnol sy'n meddu ar lefel uchel o sgiliau ac arbenigedd clinigol a thechnegol, ac sy'n defnyddio sylfaen dystiolaeth i gynllunio, gweithredu a gwerthuso'r broses o reoli cleientiaid.
Bydd deiliad y swydd yn cymryd rhan yn y broses datblygiad proffesiynol parhaus, gan gynnwys addysgu/goruchwylio staff iau a myfyrwyr.
Bydd deiliad y swydd yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi'r broses o foderneiddio a datblygu'r gwasanaeth. Bydd hyn yn cynnwys cymryd rhan ym mhrosesau archwilio a gwerthuso y gwasanaeth.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
• Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
• Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
• Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
• 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
• Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd gymryd rhan yn y gwaith o ddarparu gwasanaeth hyblyg saith niwrnod, yn seiliedig ar angen. Bydd hyn yn ôl trefn rota. Bydd gofyn i ddeiliad y swydd gyfrannu at ddarparu gwasanaeth anadlol ar alwad
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso i siaradwyr Saesneg a/neu Gymraeg yr un mor ymgeisio.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadau ar 8.12.25
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cofrestriad proffesiynol fel y'i cydnabyddir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
- Tystiolaeth ôl-raddedig o addysg arbenigol
- Tystiolaeth o DPP
- Sgiliau TG
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster ôl-raddedig hyd at lefel diploma mewn arbenigedd perthnasol
- Wrthi'n cymryd rhan mewn grwpiau diddordeb arbennig
- Yn aelod o'r Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi
- Cwrs Hyfforddi Addysg Glinigol
Gofynion Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel1)
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ôl-raddedig mewn arbenigedd clinigol perthnasol
- Wedi cwblhau'r fframwaith cymhwysedd iau
- Profiad ymarferol hyd at lefel a fyddai'n eich galluogi i gymryd rhan yn y rota anadlol ar alwad
- Trin therapiwtig ac asesiadau risg
- Rheoli llwyth achosion amrywiol gan ddefnyddio proses rhesymu clinigol
- Gweithio'n rhyngbroffesiynol ac mewn tîm
- Ymwneud yn uniongyrchol â gofalwyr a theuluoedd
- Tystiolaeth o gefnogi cydymffurfedd y gwasanaeth â gofynion llywodraethu clinigol
- Profiad o oruchwylio staff
Meini prawf dymunol
- Profiad o oruchwylio myfyrwyr
- Trafod arferion gweithio tîm amlddisgyblaethol
- Profiad o weithio i'r GIG
- Profiad o ddatblygu gwasanaeth
Arall
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o addysgu/hyfforddiant mewn swydd
- Agwedd hyblyg er mwyn diwallu anghenion y gwasanaeth
- Yn barod i gymryd rhan yn y gwasanaeth ar alwad a'r gwasanaeth estynedig
- Y gallu i deithio rhwng safleoedd ac yn y gymuned mewn modd amserol
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Lisa Butler
- Teitl y swydd
- Clinical Lead Physiotherapist
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 227808
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Suzanne Crompton [email protected] (Arweinydd gweithredol dros dro ar gyfer Therapïau Canser)
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau Perthynol i Iechyd neu bob sector





