Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Ffisiotherapi
Gradd
Band 6
Contract
12 mis (Cyfnod penodol / secondiad tan 31.08.2027)
Oriau
Rhan-amser - 28 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-AHP085-0927
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£40,559 - £48,841 y flwyddyn (pro rata os rhan amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
27/09/2026 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Ffisiotherapydd Arbenigol – Adsefydlu cardiaidd

Band 6

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.

Trosolwg o'r swydd

A ydych ch’n Ffisiotherapydd dynamig ac ymroddedig sy’n chwilio am gyfle gwerth chweil i gael effaith sylweddol ar fywydau unigolion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda?  
 
Ar hyn o bryd mae gennym gyfle unigryw i Ffisiotherapydd penderfynol, brwd a llawn cymhelliant ymuno â’n tîm Adsefydlu Cardiaidd dynamig yn Sir Gaerfyrddin. Bydd deiliad y swydd yn ymarferydd ymreolaethol, gan ddarparu asesiadau a thriniaeth ffisiotherapi arbenigol, a chan reoli ei lwyth achosion cleifion ei hun gyda chefnogaeth a mentora uwch
ffisiotherapyddion a nyrsys. Bydd deiliad y swydd yn gweithio’n agos mewn tîm amlddisgyblaethol i gyflwyno ymarfer corff grŵp ac unigol, rhaglenni addysg, asesiadau ac adolygiadau dros y ffôn. 

Cefnogir ymarfer arloesol, ac mae datblygu gwasanaethau yn cael ei annog yn weithredol. Bydd hyfforddiant a chymorth yn cael eu darparu ac ar gael yn rhwydd.  

Mae swydd hon yn Cyfnod Penodol/ Secondiad tan 31.08.2027  oherwydd cwrdd gofynion y gwasanaeth.

Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu asesiad cynhwysfawr o gleifion gan gynnwys y rhai sydd â chyflwyniadau cymhleth/patholegau niferus ac yn defnyddio sgiliau rhesymu clinigol uwch i ddyfeisio cynllun triniaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth. 

Bydd deiliad y swydd yn cyfathrebu ac yn gweithio ochr yn ochr â ffisiotherapyddion, nyrsys, therapyddion galwedigaethol, ysgrifenyddion, aelodau ehangach o’r tîm amlddisgyblaethol a gwasanaethau cymunedol eraill. 

Bydd deiliad y swydd yn arwain sesiynau ymarfer corff grŵp ac unigol, yn darparu rhaglenni ymarfer corff cartref wedi’u personoli, ac yn cefnogi cleifion i gyflawni eu nodau adsefydlu. Bydd yn defnyddio mesurau canlyniadau wedi’u dilysu ac asesiadau risg cynhwysfawr i fonitro cynnydd, optimeiddio canlyniadau cleifion, a sicrhau bod ymyriadau 
adsefydlu cardiaidd yn cael eu darparu’n ddiogel ac effeithiol.  

Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd gwblhau’r holl wybodaeth electronig briodol a chrynodebau rhyddhau yn ogystal â chofnodion cronfa ddata lle bo’n berthnasol ar gyfer archwilio a gwerthuso gwasanaeth. Mae sgiliau TG Sylfaenol yn hanfodol. 

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael cyfle i ymgymryd â chwrs rhan 1 a 2 Gweithgarwch Corfforol ac Ymarfer Corff wrth reoli clefydau cardiofasgwlaidd y Gymdeithas Brydeinig Atal ac Adsefydlu Cardiofasgwlaidd (BACPR), i gefnogi’r gwaith o ddatblygu gwybodaeth a sgiliau arbenigol. 

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Rydym yn annog darpar ymgeiswyr i gysylltu â ni am ragor o wybodaeth am y cyfle cyffrous hwn. Rydym hefyd yn croesawu unrhyw un sydd â diddordeb yn y rôl i ymweld â’r gwasanaeth, cwrdd â’n tîm profiadol a chefnogol, a chael cipolwg ar y gwaith rhagorol sy’n cael ei gyflawni ar draws y llwybr adsefydlu cardiaidd. 
 
Mae hwn yn gyfle i ymuno â thîm sy’n croesawu dulliau arloesol o ymdrin ag adsefydlu, gan eich grymuso i roi arfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar waith i ysgogi canlyniadau cadarnhaol i’ch cleifion. 
 
Er y bydd prif ffocws y rôl yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, bydd disgwyl gweithio’n hyblyg ochr yn ochr â’r gwasanaethau cymunedol yn Llanelli a Rhydaman yn ôl y gofyn. Rydym yn darparu diwylliant o gydweithio a chymorth lle mae amrywiaeth o syniadau’n ysgogi arloesedd. Nid yn unig y clywir eich syniadau, ond cânt eu hannog yn frwd. 
 
Yn ein gwasanaeth, rydym yn cydnabod mai ein staff yw ein hased cryfaf ac yn buddsoddi yn eu twf proffesiynol. Rydym yn darparu cyfleoedd cynhwysfawr ar gyfer datblygiad proffesiynol, yn fewnol ac yn allanol. 

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar 08/10/2026

 

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gradd mewn Ffisiotherapi
  • Cofrestriad cyfredol gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
  • Cymhwyster ôl-raddedig perthnasol neu dystiolaeth o astudio ar lefel ôl-raddedig
  • Gwybodaeth arbenigol amlwg sy’n berthnasol i’r maes clinigol
  • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus ôl-gofrestru perthnasol
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster addysgwr ymarfer neu addysg glinigol
  • Aelod o’r Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi (CSP)
  • Chwarae rhan weithredol mewn grwpiau proffesiynol arbenigol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad ôl-gofrestru mewn arbenigedd clinigol perthnasol
  • Profiad o reoli llwyth achosion amrywiol/cymhleth gan ddefnyddio sgiliau rhesymu clinigol uwch
  • Profiad o weithio mewn tîm amlddisgyblaethol
  • Profiad o asesu risg a gwneud penderfyniadau clinigol
  • Profiad o oruchwylio, cefnogi neu ddatblygu staff, myfyrwyr a gweithwyr cymorth
  • Profiad o gyfrannu at weithgareddau gwella gwasanaethau, llywodraethu clinigol neu archwilio
Meini prawf dymunol
  • Profiad o ddatblygu neu ailgynllunio gwasanaethau
  • Profiad o addysgu myfyrwyr a’u goruchwylio ar leoliad
  • Profiad o weithio yn y GIG

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Ymagwedd hyblyg er mwyn diwallu anghenion y gwasanaeth, gan gynnwys cymryd rhan yn y gwasanaethau oriau estynedig, saith niwrnod ac ar alwad lle bo gofyn
  • Y gallu i deithio rhwng safleoedd a ledled y gymuned mewn modd amserol
  • Ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus
Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Leanne Owen
Teitl y swydd
Team Lead Cardiac Rehabilitation
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01554783619
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Linzi Price -  Ffisiotherapydd 

01554 783619 / 01267 266317

Cewch groeso cynnes yma os dymunwch drefnu ymweliad!

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg