Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Ffisiotherapi
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- 6 mis (Cyfnod Penodol/secondiad tan 31.03.2027 oherwydd secondiad)
- Oriau
- Rhan-amser - 31 awr yr wythnos (Dydd Llun - Dydd Iau)
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AHP079-0826
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £50,129 - £57,365 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 01/09/2026 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 08/09/2026
Teitl cyflogwr
Ffisiotherapydd Arweiniol Clinigol
Gradd 7
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Mae swydd hon yn Cyfnod Penodol/ Secondiad tan 31.03.2027. Os ydych yn gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am secondiad i'r swydd hon, bydd angen i'ch rheolwr presennol gytuno i'r secondiad cyn i chi gyflwyno eich cais.
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn cyflwyno cyfle cyffrous i unigolyn brwdfrydig, angerddol a phrofiadol. Bydd yn ymuno â thîm blaen y tŷ amlddisgyblaethol y Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt ar gyfer Trosglwyddo Gofal (TOCALS), fel Ffisiotherapydd Arweiniol Clinigol. Mae TOCALS yn cefnogi ystod eang o gleifion, ymgyflwyniadau a phatholegau, gan gynnwys y rhai sy'n cwympo ac yn eiddil, cyflyrau niwrolegol, cyflyrau cardioresbiradol, trawma a phroblemau orthopedig (gan gynnwys cleifion trawma mawr).
Mae TOCALS yn cefnogi'r gwaith o atal derbyniadau diangen i ysbyty acíwt, er mwyn osgoi'r risgiau sy'n gysylltiedig â hyn. Y nod yw cyflawni gofal o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n ystyried y claf mewn modd cyfannol, gan hyrwyddo ei annibyniaeth a'i les. Mae gan TOCALS ran hanfodol yn y broses o hybu cysylltiadau
rhagorol rhwng y gwasanaethau acíwt, canolraddol, cymunedol a thrydydd sector; mae hyn yn hanfodol i sicrhau parhad gofal, a hybu ffordd o weithio sy'n canolbwyntio ar y gofal iawn, yn y lle iawn, y tro cyntaf.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar brofiad ôl-raddedig helaeth ar draws ystod eang o feysydd clinigol, y gall ei gymhwyso i'r poblogaethau amrywiol sy'n cyflwyno i'r gwasanaethau blaen y tŷ. Bydd angen iddo allu darparu asesiadau arbenigol iawn sy'n canolbwyntio ar gynllunio i ryddhau cleifion, a thrwy hynny gall ddatblygu a
gweithredu cynlluniau personol o safon, sydd wedi'u cyd-gynhyrchu, ar gyfer cleifion. Bydd deiliad y swydd yn chwarae rhan allweddol wrth ddilyn teithiau'r cleifion trwy'r ysbyty, ac allan i'r gymuned.
Bydd deiliad y swydd yn gallu amlygu tystiolaeth o angerdd dros ofal o ansawdd uchel a phrofiad o wella gwasanaethau, yn enwedig lle mae hyn yn cysylltu ag ysgogwyr cenedlaethol. Mae sgiliau arwain, trefnu a rheoli tîm cryf yn hanfodol oherwydd yr angen i arwain tîm mewn amgylcheddau dan bwysau ac sy'n symud yn gyflym. Mae datblygiad personol a phroffesiynol parhaus yn hanfodol i sicrhau bod TOCALS yn ymatebol i arfer cyfredol sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac anghenion y boblogaeth. Bydd y Ffisiotherapydd Arweiniol Clinigol yn cefnogi'r gwaith o ran arwain rhaglen hyfforddiant mewn swydd ar gyfer y tîm, gan hyrwyddo'r tîm i fod yn ddysgwyr gydol oes myfyriol. Bydd hefyd yn cefnogi goruchwyliaeth i staff ac adolygiadau blynyddol. Mae cefnogi myfyrwyr yn allweddol i gefnogi datblygiad gweithlu Ffisiotherapi y dyfodol, a bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymgymryd â dyletswyddau Goruchwyliwr Clinigol.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol aral
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae'r rôl hon yn cynnig y cyfle i weithio'n uniongyrchol yn Uned Asesu Eiddilwch ac yn wardiau eiddilwch yr ysbyty ar ddydd Iau.
Bydd y swydd hon yn cael ei hategu gan bresenoldeb Ffisiotherapydd Arweiniol Clinigol arall sy'n gweithio o ddydd Iau i ddydd Gwener.
Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd gymryd rhan yn y gwaith o ddarparu gwasanaeth saith niwrnod hyblyg, yn seiliedig ar anghenion y gwasanaeth ac yn ôl trefn rota. Bydd ganddo'r sgiliau gofynnol i
gymryd rhan yn y Gwasanaeth Anadlol Ar Alwad.
Mae'r gallu i deithio i leoliadau yn y gymuned yn ofynnol i gefnogi'r gwasanaethau allgymorth a ddarperir gan TOCALS. Efallai y bydd yn ofynnol cyflenwi ar draws safleoedd (Ysbyty'r Tywysog Philip).
Mae Bwrdd Iechyd y Brifysgol yn mynd ati mewn modd rhagweithiol i gefnogi hyfforddiant a datblygiad, a hynny'n rhan o DPP mewnol ac allanol.
Mae hwn yn gyfle i ymuno â thîm sy'n croesawu dulliau arloesol o atal derbyniadau i'r ysbyty y gellir eu hosgoi, gan eich grymuso i roi arfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar waith i ysgogi canlyniadau cadarnhaol i'ch cleifion.
Rydym yn darparu diwylliant o gydweithio a chymorth lle mae amrywiaeth o syniadau'n ysgogi arloesedd. Nid yn unig y clywir eich syniadau, ond cânt eu hannog yn frwd.
Gallwch ddod o hyd i'r swydd-ddisgrifiad llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i goleddu'r angen am ddwyieithrwydd yn llawn, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn unol â'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 08/09/2026.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cofrestriad proffesiynol fel y'i cydnabyddir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
- Achrededig sylweddol arbenigwr ol-raddedig Cyrsiau ffisiotherapi o fewn clinigol perthnasol arwynebedd
- Hyfforddiant uwch hyd at lefel Meistr
Meini prawf dymunol
- MSc mewn arbenigedd perthnasol
- Tystiolaeth o gyrsiau/gymwysterau arweinyddiaeth
- Aelod o'r Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi
- Cymhwyster ol-raddedig hyd at lefel diploma mewn maes perthnasol
- Cwrs Hyfforddi Addysg Glinigol
- Cymhwyster rhagnodi anfeddygol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ol-raddedig sylweddol; gan gynnwys profiad perthnasol mewn maes arbenigol
- Rheoli llwyth achosion cymhleth gan ddefnyddio proses rhesymu clinigol ddatblygedig
- Profiad sylweddol o weithio yn rol ymarferydd annibynnol
- Profiad sylweddol o weithio mewn tim amlasiantaethol mewn maes arbenigol
- Trin therapiwtig ac asesiadau risg
- Ymwneud yn uniongyrchol a gofalwyr a theuluoedd
- Tystiolaeth o gefnogi cydymffurfedd gwasanaeth a gofynion llywodraethu clinigol
- Arwain rhwydweithiau clinigol/grwpiau ymarfer clinigol
- Profiad o gynorthwyo i arwain datblygiadau i wasanaethau
- Profiad o ddatblygu staff
- Profiad o gyflwyno mewn maes clinigol
- Rheoli Perfformiad
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o reoli tim
- Profiad o ddatblygu gwasanaethau ar draws ffiniau proffesiynol
- Profiad o gynnal asesiadau risg
- Profiad o hybu iechyd a datblygiadau ataliol mewn gwasanaeth
- Profiad o atgyfeirio ar gyfer profion ac o ddadansoddi canlyniadau'r profion hynny
- Profiad o addysgu ac asesu addysgol
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Hannah Thomas
- Teitl y swydd
- Carmarthenshire Acute Service Lead Physiotherapist
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267227808
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Neu cysylltwch â deiliad presennol y swydd:
Sarah Davies
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau Perthynol i Iechyd neu bob sector





