Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Swyddog Cymorth Rhaglenni Cyfalaf – Cynllunio
Gradd 5
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Bydd deiliad y swydd, a fydd yn adrodd i'r Pennaeth Cynllunio Cyfalaf, yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu, gweithredu a llywodraethu'r portffolio cyfalaf sy'n hyrwyddo diwylliant o ragoriaeth. Mae hyn yn cynnwys hwyluso ystod eang o weithgareddau cynllunio cyfalaf i gyflawni cynlluniau cyfalaf ledled Bwrdd Iechyd y Brifysgol, gan ganolbwyntio ar lywodraethu prosiectau a mecanweithiau sicrwydd sy’n rhoi sylw i amcanion sefydliadol, risgiau allweddol, gwaith craffu allanol, a gofynion rheoliadol, ac ati.
Bydd deiliad y swydd yn chwarae rhan allweddol trwy ddarparu cymorth ac arbenigedd mewn perthynas â sicrwydd ar ran y tîm Cynllunio Cyfalaf.
Mae'r rôl yn gofyn am wybodaeth am brosesau sicrwydd gyda damcaniaeth a phrofiad yn sail i'r wybodaeth honno, gan y bydd disgwyl i ddeiliad y swydd gyfrannu at y gwaith o ddatblygu a gweithredu systemau sicrwydd cadarn ar ran y Bwrdd.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deiliad y swydd hefyd yn darparu cymorth busnes o fewn y Tîm Cynllunio Cyfalaf trwy wneud y canlynol:
Bod yn sianel gyfathrebu allweddol ar gyfer cyd-weithwyr uwch yn y Bwrdd Iechyd, Llywodraeth Cymru a phartneriaid allanol eraill, megis Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Datblygu fframwaith rheoli cyfalaf cadarn ynghyd â pholisïau a phrotocolau llywodraethu cysylltiedig.
Darparu cymorth gweinyddol, dadansoddol a chymorth busnes rhagorol o ran prosiectau, a hynny i'r Pennaeth Cynllunio Cyfalaf a'r tîm Cynllunio Cyfalaf ehangach. Bydd deiliad y swydd yn gyswllt llinell gyntaf ar gyfer ymholiadau allanol a mewnol, gan ddarparu cymorth gweinyddol, a gofynnir iddo hefyd gyfrannu mewn modd rhagweithiol at y gwaith o gynllunio a chyflawni prosiectau.
Cefnogi'r gwaith o reoli, rhedeg a gweithredu allbynnau o'r Is-bwyllgor Cyfalaf.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth â’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy: • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
• Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
• 48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
• Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
• Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am benodi Swyddog Cymorth Rhaglenni Cyfalaf i ymuno â'i Dîm Cynllunio. Dyma gyfle gwych i fod yn rhan o dîm i gefnogi'r gwaith o ddarparu rhaglen uchelgeisiol o brosiectau cyfalaf dros y blynyddoedd i ddod. Bydd deiliad y swydd yn cefnogi'r Tîm Cynllunio Cyfalaf i weithredu portffolio mawr o brosiectau cyfalaf i gyflawni nodau ac amcanion Strategaeth y Bwrdd Iechyd, sef 'Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach,' ac yn benodol, adeiladu ar ddatblygiadau cadarnhaol i gyflawni prosiectau cyfalaf o fewn strwythur rheoli a llywodraethu cadarn.
Mae sgiliau trefnu ardderchog, sgiliau llafar ac ysgrifenedig, ynghyd â gwybodaeth am raglenni cyfrifiadurol yn hanfodol
Trwy'r swydd hon bydd yna gyfleoedd i ennill profiad mewn nifer o feysydd gwaith gwahanol o fewn cylch gwaith y Tîm Cynllunio.
Os hoffech drafod y swydd hon ymhellach, cysylltwch â
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 10/06/2024 a 14/06/2024
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd neu brofiad cyfatebol/DPP
- Dealltwriaeth o brosesau rheoli prosiectau
- Sgiliau profedig wrth ddefnyddio Outlook, Access, Word, PowerPoint, ac Excel yn MS Office
- Gwybodaeth am systemau a phrosesau sicrwydd, a phrofiad ohonynt
Meini prawf dymunol
- Ymrwymiad i/Tystiolaeth o hyfforddiant a datblygiad personol parhaus mewn maes cysylltiedig
- Cymhwyster rheoli prosiectau
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth o sefydliadau
- Profiad o weithio'n unol â thargedau a chanlyniadau
- Profiad o waith pwyllgor ac o ysgrifennu cofnodion
- Profiad o weithio ar brosiectau (naill ai gwasanaeth neu gyfalaf)
Meini prawf dymunol
- Profiad yn y sector cyhoeddus, y sector gwirfoddol neu'r sector gofal cymdeithasol
- Ymwybyddiaeth o reolaethau ariannol a chyllidebol
- Profiad o roi cyflwyniadau a darparu briffiau
language Skills
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Clare Emanuel
- Teitl y swydd
- Capital Programme Manager Planning
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Os hoffech drafod y swydd hon ymhellach, cysylltwch â
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector