Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Seicoleg
- Gradd
- Gradd 8a/Atodiad 21
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-PST115-0926
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Hafan Derwen, Adeilad 4
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £58,379 - £65,723 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 05/10/2026 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 16/10/2026
Teitl cyflogwr
Ymarferydd Seicoleg
Gradd 8a/Atodiad 21
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn chwilio am Ymarferydd Seicoleg Cofrestredig brwdfrydig a thosturiol i ymuno â’n Gwasanaeth Iechyd Meddwl Oedolion Hŷn arloesol, gyda ffocws penodol ar gefnogi pobl sy’n byw â dementia a’r rhai sy’n eu cefnogi.
Nid oes angen i chi fod yn arbenigwr profiadol ym maes oedolion hŷn neu ddementia i ffynnu yn y rôl hon. Rydym yn chwilio am seicolegydd sy’n chwilfrydig, yn feddylgar, yn gwerthfawrogi hawliau pobl ac sy’n frwd dros ddatblygu ei wybodaeth a’i ymarfer. Yn gyfnewid, cewch eich cefnogi gennym i fagu arbenigedd a chyfle i wneud cyfraniad ystyrlon o’r cychwyn cyntaf.
Gwasanaeth sy’n cael ei arwain gan seicoleg yw hwn, lle mae meddwl seicolegol, fformiwleiddio ac ymarfer seiliedig ar dystiolaeth yn dylanwadu ar ofal clinigol a datblygiad gwasanaethau. Byddwch yn gweithio’n rhan o dîm amlddisgyblaethol medrus iawn o weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, ac yn cael cyfleoedd i gyfrannu at
ymchwil, gwella ansawdd, datblygu’r gweithlu a datblygu llwybrau dementia wedi’u llywio gan seicoleg ar draws meysydd gofal sylfaenol ac eilaidd.
Os hoffech rôl lle gallwch barhau i ddysgu, datblygu eich ymarfer a herio rhagdybiaethau am heneiddio a dementia, hyrwyddo’r hawliau dros gydraddoldeb a helpu i lunio gwell gwasanaethau i bobl sy’n byw â dementia, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Swydd Atodiad 21 yw hon. Gweler isod am ragor o fanylion.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Byddwch yn darparu asesiadau, fformiwleiddiadau ac ymyriadau seicolegol arbenigol ar gyfer pobl hŷn sy’n byw â dementia a’r rheiny sydd ag anghenion emosiynol, ymddygiadol a seicolegol cymhleth. Byddwch yn cydweithio ag unigolion, teuluoedd a staff, gan sicrhau bod meddwl seicolegol yn parhau i fod yn ganolog i ddeall yr unigolyn yn hytrach na’r diagnosis yn unig.
Byddwch yn gweithio ochr yn ochr ag Uwch-ymarferwyr a chyd-weithwyr o feysydd Therapi Galwedigaethol, Deieteg, Therapi Iaith a Lleferydd, Ymarfer Dementia, Nyrsio ac Ymchwil i ddatblygu dulliau wedi’u llywio gan seicoleg ar draws gofal sylfaenol ac eilaidd.
Un rhan allweddol o’r rôl fydd cyfrannu at ddatblygu a gwerthuso llwybrau dementia ar draws lleoliadau, gwella gwasanaethau, ymchwil a datblygu’r gweithlu. Byddwch yn cael eich annog i ddod â chwilfrydedd, creadigrwydd a her adeiladol i’r ffordd y mae gwasanaethau’n cael eu dylunio a’u darparu.
Mae’r rôl yn darparu cyfleoedd i ddatblygu sgiliau clinigol, systemig, arwain ac ymchwil arbenigol trwy oruchwyliaeth, mentoriaeth a datblygiad proffesiynol parhaus.
Rhown groeso arbennig i seicolegwyr sy’n frwd iawn dros hawliau, cynhwysiant a herio rhagdybiaethau ynghylch sut olwg a all fod ar fywyd â dementia a heneiddio.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Annex 21:
Hysbysebir y swydd hon ar Fand 8a, ond anogir ymgeiswyr nad oes ganddynt eto’r holl gymwyseddau angenrheidiol ar gyfer lefel Band 8a i wneud cais ac, os byddant yn llwyddiannus, byddant yn cael eu penodi o dan reolau Atodiad 21 lle bydd 65% o frig Band 8a yn daladwy yn y flwyddyn gyntaf, 70% yn yr ail flwyddyn a 75% yn y drydedd flwyddyn. Byddai’r ymgeiswyr yn cael eu cefnogi i ddatblygu’r cymwyseddau gofynnol i gyflawni’r rôl o fewn cyfnod o 36 mis. Ar ôl llwyddo i gwblhau’r cynllun a meithrin y sgiliau a’r cymwyseddau ar gyfer y rôl, bydd deiliad y swydd yn cael ei dalu ar Fand 8a (pwynt isaf y raddfa). Os na chyflawnir y cymwyseddau yn yr amserlen ddynodedig, eir ati i ddilyn polisi’r Gweithlu.
Yn rhan o broses Atodiad 21, nid oes cosb ariannol i’r rhai sy’n gwneud cais am y rôl hon lle bydd y ganran yn achosi gostyngiad mewn cyflog, ac o ganlyniad byddai amddiffyniad lleol yn cael ei roi ar waith nes bod y cyflog wedi dal i fyny.
I gael gwybod rhagor am y rôl a’r gofynion hanfodol, cyfeiriwch at y disgrifiad swydd a manyleb y person.
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Bydd deiliad y swydd yn darparu asesiadau, fformiwleiddiadau ac ymyriadau seicolegol arbenigol i bobl hŷn, yn enwedig y rhai sy’n byw â dementia a’r rheiny sy’n eu cefnogi. Bydd yn defnyddio theori seicolegol i ddeall pobl y tu hwnt i ddiagnosis, gan gydnabod eu hunaniaeth, eu perthnasoedd, eu cryfderau, eu hawliau a’u dyheadau.
Un o brif feysydd ffocws y rôl fydd datblygu llwybrau gofal wedi’u llywio gan seicoleg ar draws gwahanol leoliadau, gan weithio gyda chyd-weithwyr amlddisgyblaethol ar draws gofal sylfaenol ac eilaidd i sicrhau bod meddwl seicolegol wedi’i ymgorffori trwy gydol siwrnai’r unigolyn. Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at ddatblygu llwybrau, ymgynghori, gwella gwasanaethau a datblygu’r gweithlu, gan helpu i droi tystiolaeth seicolegol yn ymarfer bob dydd.
Mae’r rôl yn cynnig cyfleoedd i gyfrannu at ymchwil, gwella ansawdd, addysgu ac arloesi, ochr yn ochr â thîm amlddisgyblaethol medrus iawn.
Rydym yn cydnabod bod arbenigedd yn datblygu dros amser, a byddwn yn teilwra goruchwyliaeth, mentoriaeth a datblygiad i brofiad a dyheadau’r ymgeisydd llwyddiannus. Mae hwn yn gyfle i seicolegydd sy’n chwilfrydig, yn frwd iawn dros hawliau a chynhwysiant, ac sydd am ddatblygu ei ymarfer clinigol wrth ddylanwadu ar y ffordd y mae gofal dementia wedi’i lywio gan seicoleg yn cael ei ddarparu ar draws gwasanaethau.
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadau ar 16/10/2026.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Hyfforddiant ar lefel doethuriaeth mewn Seicoleg Glinigol/Gwnsela (neu gymhwyster cyfatebol ar gyfer y rhai a ddechreuodd ar eu hyfforddiant cyn mis Medi 2001) fel sy’n cael ei achredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS)
- Wedi eich cofrestru’n Ymarferydd Seicoleg gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC)
- Yn meddu ar wybodaeth am asesu clinigol, fformiwleiddio, a thriniaethau seicolegol, yn ogystal â phrofiad o weithio mewn modd seicolegol ym mhob arbenigedd craidd, sef a) iechyd meddwl oedolion; b) iechyd meddwl plant a’r glasoed; c) iechyd meddwl oedolion hŷn; a d) anableddau dysgu, fel y ceir mewn hyfforddiant ar lefel Doethuriaeth mewn Seicoleg Glinigol (D. Clin Psy) neu fod wedi bodloni’r holl gymwyseddau mewn Rhaglen Seicoleg Glinigol Doethuriaeth sy’n defnyddio model fframwaith asesu cymhwysedd
- Yn meddu ar wybodaeth am fodelau seicopatholeg penodol, gan gynnwys modelau seicoleg iechyd, seicometreg glinigol a seicoleg wybyddol, dau neu fwy o wahanol therapïau seicolegol a seicoleg ddatblygiadol hyd oes
- Yn amlygu hyfforddiant arbenigol a/neu brofiad pellach
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio gydag amrywiaeth eang o grwpiau cleientiaid ledled y rhychwant bywyd cyfan, a’r rheiny’n ymgyflwyno â phroblemau sy’n adlewyrchu’r ystod lawn o ddifrifoldeb clinigol
- Profiad o weithio mewn modd hyblyg a sensitif gydag amrywiaeth eang o grwpiau cleifion seicoleg, gan gynnal lefel uchel o broffesiynoldeb yn wyneb problemau emosiynol a thrallodus iawn, cam-drin geiriol a’r bygythiad o gamdriniaeth gorfforol
- Profiad o ddarparu ymyriadau seicolegol mewn lleoliadau amlddisgyblaethol
- Profiad o addysgu, hyfforddi a/neu oruchwylio
Meini prawf dymunol
- Profiad o asesiadau niwroseicoleg
- Profiad o seicoleg glinigol gymhwysol mewn perthynas â chyflyrau iechyd corfforol
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Dr Beca Stilwell
- Teitl y swydd
- Consultant Clinical Psychologist
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 239702
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau Perthynol i Iechyd neu bob sector





