Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Radioleg
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AHP056-0626
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £50,129 - £57,365 y flwyddyn (pro rata os yn rhan-amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 07/07/2026 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 16/07/2026
Teitl cyflogwr
Radiograffydd Adrodd (CT y Pen)
Gradd 7
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Mae'r raddfa gyflog ar gyfer Band 3 wedi'i haddasu fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2026/2027. Bydd yn cael ei weithredu ym mis Awst 2026 wedi'i ôl-ddyddio i 01 Ebrill 2026 lle bo'n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Mae arnom angen Radiograffydd Adrodd ar CT y Pen â chymwysterau addas i ymuno â’n tîm o Radiograffwyr Adrodd. Rydym yn chwilio am Radiograffydd hunanysgogol sydd â chymhwyster adrodd ar CT y pen a phrofiad yn y GIG i ymuno â’r tîm. Byddwch yn cyfrannu at y gwaith o adrodd ar CT y pen mewn perthynas â delweddau o bob rhan o’r
Bwrdd Iechyd. Bydd yn ofynnol i’r Radiograffydd weithio yn ardal CT Glangwili hefyd. Bydd hon yn rôl ddeuol 50/50.
Bydd angen i chi fod ag ymagwedd hyblyg tuag at anghenion y gwasanaeth, bod yn agored i newid a gallu gweithio'n annibynnol ac o fewn tîm sefydledig.
Mae prif adrannau Radioleg Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli, Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd ac Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rhaid i ymgeiswyr fod yn Weithwyr Iechyd Proffesiynol Cofrestredig sy'n meddu ar gymhwyster ôlraddedig priodol. Mae’n bosibl y bydd angen i chi weithio oriau hyblyg i fodloni gofynion y gwasanaeth, a bydd patrwm gwaith hyblyg yn cael ei ystyried. Bydd tystiolaeth o DPP ac archwilio yn
ofynnol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar sgiliau cyfathrebu/trefnu rhagorol, a bydd yn llawn tact ac yn ddiplomataidd. Byddwch yn ymwneud â goruchwylio myfyrwyr-radiograffwyr yn ogystal â Radiograffwyr sy'n dilyn cyrsiau Adrodd.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadau ar 16/07/2026.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- BSc Radiograffeg (neu gymhwyster cyfatebol cydnabyddedig)
- Cofrestriad gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
- Cymhwyster ôl-raddedig mewn adrodd delweddau radiograffig sy'n addas ar gyfer y rôl a hysbysebir
Meini prawf dymunol
- Modiwl Diploma ôlraddedig/lefel Meistr mewn dulliau delweddu pellach
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad blaenorol mewn uwch rôl Radiograffig gyda phrofiad mewn goruchwylio
- Profiad blaenorol y GIG
Meini prawf dymunol
- Profiad eang o radiograffeg uwch / rheolaeth iau
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i weithio'n dda yn unigol ac i ddefnyddio eich menter eich hun
- Yn gweithio'n dda mewn tîm, yn ddibynadwy, yn meddu ar y gallu corfforol i gyflawni dyletswyddau radiograffydd adolygu
- Ymagwedd hyblyg i ddiwallu anghenion y gwasanaeth – yn gallu gweithio oriau hyblyg. Y gallu i addasu i newid
- Y gallu i deithio yn ardal ddaearyddol y Bwrdd Iechyd
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Breanne Price
- Teitl y swydd
- Site Lead Superintendent Radiographer
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267229623
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau Perthynol i Iechyd neu bob sector





