Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Radiograffeg
- Gradd
- Gradd 5
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AHP114-1126
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £32,557 - £39,631 y flwyddyn (pro rata os rhan-amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 06/12/2026 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 21/12/2026
Teitl cyflogwr
Radiograffydd
Gradd 5
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael i unigolion dynamig a llawn cymhelliant ymuno â’r tîm Radiograffwyr yn Bwrdd Iechyd Hywel Dda.
Ysbyty Glangwili fydd prif safle’r swydd ond efallai y bydd angen cynorthwyo yng Nghanolfan Gofal Integredig Aberteifi.
Mae'r tair adran yn cynnig amgylchedd cefnogol ac anogol i ddatblygu fel gweithiwr proffesiynol a symud ymlaen yn eich gyrfa ym maes radiograffeg.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae hon yn swydd chyffrous; bydd y Radiograffwyr benodir yn gweithio yn yr adrannau radiograffeg gyffredinol a byddwch yn ennill profiad mewn cleifion allanol, cleifion mewnol, cludadwy, theatr a fflworosgopeg. Byddwch yn cael cynllun hyfforddi/cymhwysedd efo preceptoriaeth i chi a chewch gefnogaeth lawn i gael eich hyfforddi ym mhob maes radiograffeg gyffredinol.
Bydd y penodiad am 37.5 awr yr wythnos a fydd yn cynnwys shifftiau dyddiau hir, gyda'r nos, nosweithiau, dros y penwythnos ac ar wyliau banc.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Bydd ceisiadau'n cael eu rhoi ar restr fer yn seiliedig ar y ‘Cymwysterau a Gwybodaeth’. Bydd meini prawf ‘Profiad’, ‘Sgiliau a Nodweddion’ ac ‘Arall’ yn cael eu hasesu yng ngham y ffurflen gais a’r cyfweliad, fel ei gilydd
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadau ar 21/12/2026.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- BSc Delweddu Diagnostig (neu gymhwyster cyfatebol)
- Wedi cofrestru’n Radiograffydd Diagnostig gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC)
Meini prawf dymunol
- Portffolio DPP
- Profiad o weithio yn rôl Radiograffydd Diagnostig
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Yn fedrus mewn perthynas â thechnegau radiograffeg tafluniadol ac addasu ffactorau aramlygu
- Profiad o ddefnyddio systemau TG a PACS radioleg i gofnodi ac adolygu gwybodaeth benodol i'r claf
- Profiad o ddefnyddio systemau gwahanol, h.y. CR, DR a chyfarpar gan ddarparwyr gwahanol
Sgiliau a Nodweddion
Meini prawf hanfodol
- Yn gallu gweithio mewn modd effeithiol fel unigolyn ac yn rhan o dîm.
- Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol cadarn, cyfeillgar, gofalgar ac empathig
- Dull manwl a threfnus o weithio, yn gallu blaenoriaethu, amldasgio, a gweithio’n gyflym ac yn effeithiol mewn amgylchedd prysur
- Sylw da i fanylion, gan allu sicrhau bod eich gweithredoedd Wedi cael hyfforddiant mewn gosod canwlâu mewnwythiennol Mae Sgiliau Iaith Gymraeg yn ddymunol, sef lefelau 1 i 5 o ran deall, siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg yn gyson ag IR(ME)R a'r holl reoliadau eraill sy'n berthnasol i amgylcheddau delweddu diagnostig a gofal iechyd
- Yn meddu ar ddeheurwydd llaw, cydsymudiad rhwng y dwylo a’r llygaid a sgiliau technegol sy'n ofynnol i gynhyrchu delweddau radiograffeg diagnostig o'r ansawdd gorau posibl
Meini prawf dymunol
- Wedi cael hyfforddiant mewn gosod canwlâu mewnwythiennol
- Mae Sgiliau Iaith Gymraeg yn ddymunol, sef lefelau 1 i 5 o ran deall, siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg
Arall
Meini prawf hanfodol
- Yn gallu teithio rhwng safleoedd mewn modd amserol i gefnogi anghenion darparu gwasanaeth yn ôl y gofyn
- Yn hyblyg i ddiwallu anghenion y gwasanaeth, a allai olygu bod angen gweithio oriau anghymdeithasol, neu weithio ar benwythnosau neu’n unol â systemau ar alwad
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Matthew Davey
- Teitl y swydd
- Deputy Site Lead
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03004303163
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau Perthynol i Iechyd neu bob sector





