Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Radioleg
Gradd
Gradd 6
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
  • Rhannu swydd
37.5 awr yr wythnos (Ar alwad i gefnogi gwasanaeth 24/7, gan gynnwys dyddiau hir)
Cyfeirnod y swydd
100-AHP056-0625
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£37,898 - £45,637 y flwyddyn (pro rata os rhan-amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
25/06/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
03/07/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Radiograffydd Arbenigol - MRI

Gradd 6

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.

Trosolwg o'r swydd

Mae Ysbyty Cyffredinol Glangwili yn chwilio am radiograffydd brwdfrydig i ymuno â'r tîm MRI. Mae'r tîm MRI yn gweithio diwrnodau estynedig tan 8pm, ac ar alwad o gartref dros nos i ymateb i argyfyngau'r asgwrn cefn. Mae gan MRI restr anesthetig cyffredinol pediatrig wythnosol. Swydd barhaol, lawn-amser yw hon. Yn y bwrdd iechyd mae radiograffwyr yn adrodd ar sganiau MRI ac opsiynau eraill i ehangu ymarfer a phrofiad.

Bydd ymgeiswyr yn meddu ar BSc/DCR(R) mewn Radiograffeg Ddiagnostig, byddant wedi'u cofrestru gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC), a bydd ganddynt brofiad priodol (MRI). Bydd gofyn i chi oruchwylio myfyrwyrradiograffwyr a chynorthwyo â hyfforddi staff radiograffeg cylchdro.

Bydd y patrwm gwaith yn defnyddio diwrnodau gweithio 12 awr ar draws saith niwrnod yr wythnos. Bydd trefniadau gweithio'n hyblyg/rhannu swydd hefyd yn cael eu hystyried. Mae cymryd rhan yn y rota MRI ar alwad yn orfodol.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae Ysbyty Cyffredinol Glangwili yn ysbyty cyffredinol dosbarth prysur yn Sir Gaerfyrddin yng Ngorllewin Cymru. Mae gan yr adran gyfarpar da, gan gynnwys sganiwr CT GE 750 HD a Canon Aquilion Prism a osodwyd yn ym mis Ionawr 2022.

Mae gan yr adran sganiwr MRI Siemens Avanto 1.5T. Mae gan yr adran gyffredinol dwy ystafell Samsung DR, ystafell Siemens CR a detholiad o gyfarpar Philips II, ac mae'r holl gyfarpar symudol yn rhai digidol Samsung. Mae ystafell fflworosgopeg Siemens Artis Zee yn hwyluso gweithdrefnau ERCP, astudiaethau bariwm, systemau rheoli'r galon a gweithdrefnau HSG. Mae yna adran uwchsain fawr a gwasanaeth radioleg ymyriadol prysur. 

Anogir trefniadau ymestyn rolau, ac mae gennym brofion Llyncu Bariwm a hysterosalpingogramau dan arweiniad Radiograffwyr, gwaith adrodd Radiograffwyr ffilm blaen, CT, MRI a Meddygaeth Niwclear, yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig, sy'n cynnwys hyfforddiant ar uwchsain, ledled y Bwrdd Iechyd.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).

5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.

Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).

Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:

48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i gefnogi ei staff i goleddu'n llawn yr angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn unol â'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Cynhelir y cyfweliadau ar 03/07/25

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • BSc Radiograffeg (neu gymhwyster cyfatebol cydnabyddedig)
  • Cyrsiau arbenigol byr neu brofiad hyd at lefel diploma ol-raddedig
  • Cofrestriad gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
Meini prawf dymunol
  • Dealltwriaeth o weithdrefnau radiograffeg arbenigol a PACS
  • Cymhwyster ol-raddedig
  • Tystysgrif ôl-raddedig mewn Mamograffeg

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Yn gymwys i ddefnyddio cyfarpar a thechnegau pelydr-x gwahanol
  • Sgiliau radiograffydd
  • Profiad sylweddol mewn arholiadau arbenigol (CT/MRI)
  • Goruchwylio a Hyfforddi Radiograffwyr
Meini prawf dymunol
  • Profiad blaenorol yn y GIG
  • Tystiolaeth o ddatblygu rol

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Breanne Price
Teitl y swydd
Site Lead Radiographer
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
012672 229623
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

 

 

 

 

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg