Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Radioleg
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 15 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AC323-1125
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £25,313 - £26,999 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 02/12/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 10/12/2025
Teitl cyflogwr
Cymorth Clercol Radioleg a Cydlynydd Penodiadau
Gradd 3
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig i ymuno â'r tîm i ddarparu cymorth clercol ar gyfer yr Adran Radioleg sydd wedi'i lleoli yn Ysbyty Glangwili.
Mae hon yn swydd barhaol, 15 awr yr wythnos
Mae Adran Radioleg Ysbyty Glangwili yn adran brysur ac amrywiol . Wrth i chi weithio gyda ni byddwch yn cael eich cefnogi a'ch annog i gyrraedd eich llawn botensial yn y tîm. Mae'r adran yn darparu ystod o wasanaethau delweddu diagnostig i'r gymuned.
Prif ddyletswyddau'r swydd
O fod yn rhan o’r tîm clercol, chi yw’r person cyntaf y daw ein defnyddwyr gwasanaethau ar ei draws, felly mae’n rhaid i chi feddu ar sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol, a gallu blaenoriaethu eich llwyth gwaith a chwrdd â therfynau amser.
Mae'r swydd yn cynnwys ystod o ddyletswyddau clercol, gan gynnwys cwrdd â'r defnyddwyr gwasanaethau a'u cyfarch yn y dderbynfa, trefnu apwyntiadau, ac unrhyw ddyletswyddau clercol eraill sy'n ofynnol i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i'r defnyddwyr gwasanaethau a'r gymuned.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
• Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
• Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro · Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
• 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
• Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadau ar 10/12/2025
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster lefel 3 NEU gymhwyster cyfatebol ynghyd a phrofiad perthnasol
- Profiad o weithio mewn amgylchedd gweinyddol.
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth ymarferol am raglenni Windows, e.e. Microsoft Word
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio mewn rol weinyddol
- Sgiliau trefnu, ynghyd a'r gallu i gynllunio eich llwyth gwaith eich hun a bodloni unrhyw derfynau amser
- Delio a'r cyhoedd, a phrofiad o ateb galwadau ffon ac ymateb i ymholiadau
- Y gallu i weithio dan bwysau ac i gadw'n ddigynnwrf bob amser
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Breanne Price
- Teitl y swydd
- Site Lead Radiographer
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector





