Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Radioleg
- Gradd
- Band 3
- Contract
- Banc - yn ôl yr angen
- Oriau
- Gweithio hyblyg
- Arall
- Cyfeirnod y swydd
- 100-ACS243-1125
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £25,313 - £26,999 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 01/12/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 12/12/2025
Teitl cyflogwr
Uwch-weithiwr Cymorth Clinigol Radioleg BANC
Band 3
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn chwilio am unigolyn cydwybodol, gweithgar a gofalgar i ymuno â’n tîm Radioleg yn rôl Uwch-weithiwr Cymorth Clinigol Banc, a hynny ledled y Bwrdd Iechyd.
Rhaid i chi fod yn unigolyn sy'n mwynhau gweithio gyda phobl ac sy'n meddu ar sgiliau cyfathrebu gwych. Rhaid i chi fod yn amyneddgar ac yn drefnus a gallu gweithio'n dda mewn tîm, ond dylech hefyd feddu ar y gallu i fentro a gweithio ar eich pen eich hun.
Swydd banc yw hon. Gall sifftiau gynnwys gweithio diwrnodau hir a phenwythnosau.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae'n bosibl y cewch gynnig shifftiau ar draws y pedwar ysbyty, sef Llwynhelyg, Glangwili, y Tywysog Phillip a Bronglais. Yn rhan o'r tîm ymroddedig, cyfeillgar a chefnogol hwn bydd disgwyl i chi gynorthwyo staff clinigol yn ystod archwiliadau, gan weithio ar batrwm cylch mewn sawl maes Radioleg. Byddwch yn cynorthwyo gyda sganiau, yn ymwneud yn uniongyrchol â gofal cleifion, yn cynnal stoc yr uned ac yn cyflawni dyletswyddau cyffredinol eraill.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Cynhelir y cyfweliadu ar 12/12/2025
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o
- fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster Lefel 3 mewn pwnc gofal iechyd perthnasol, neu'n meddu ar y sgiliau, yr wybodaeth a'r profiad cyfatebol, ynghyd ag ymrwymiad i ymgymryd â hyfforddiant yn y swydd i achrediad NVQ lefel 3
- Dealltwriaeth o rôl gweithwyr cymorth radiograffeg
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth sylfaenol am anatomeg a ffisioleg
- Gwybodaeth am waith clinigol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad blaenorol o weithio gyda'r cyhoedd mewn rolau cyflogedig neu wirfoddol
- Profiad o ddefnyddio cyfrifiaduron
Meini prawf dymunol
- Profiad mewn rôl gefnogol/gynorthwyol, er enghraifft Gweithiwr Cymorth Radioleg neu Weithiwr Cymorth Gofal Iechyd, yn gweithio mewn ysbyty/amgylchedd gofal
- Profiad mewn perthynas ag amrywiaeth o sgiliau clinigol, yn cynnwys technegau aseptig
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i symud a thrin cyfarpar a chynorthwyo gyda chodi a chario cleifion
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Bre Price
- Teitl y swydd
- Site Lead Radiographer
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau Perthynol i Iechyd neu bob sector





