Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Radioleg
Gradd
Gradd 4
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-AC035-0226
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£27,898 - £30,615 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
22/02/2026 23:59
Dyddiad y cyfweliad
27/02/2026

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Swyddog Apwyntiadau a Rheolwr y Swyddfa Radioleg

Gradd 4

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Rydym yn chwilio am Swyddog Apwyntiadau a Rheolwr y Swyddfa Radioleg brwdfrydig i ymuno â'r adran Radioleg yn Ysbyty Glangwili.

Swydd barhaol am 37.5 awr yr wythnos yw hon.

Mae Adran Radioleg Ysbyty Glangwili yn adran brysur ac amrywiol. Wrth i chi weithio gyda ni byddwch yn cael eich cefnogi a'ch annog i gyrraedd eich llawn botensial yn y tîm. Mae'r adran yn darparu ystod o wasanaethau delweddu diagnostig i'r gymuned.

Prif ddyletswyddau'r swydd

A chithau'n rhan o'r tîm clercol, chi fydd yr unigolyn cyntaf y bydd defnyddwyr ein gwasanaeth yn dod ar ei draws. Felly, rhaid i chi feddu ar sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol, a medru blaenoriaethu eich llwyth gwaith a bodloni terfynau amser.

Mae'r swydd yn cynnwys ystod o ddyletswyddau clercol, gan gynnwys cwrdd â defnyddwyr gwasanaethau a'u cyfarch yn y dderbynfa, trefnu apwyntiadau, ac unrhyw ddyletswyddau clercol eraill sy'n ofynnol i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i ddefnyddwyr y gwasanaethau a'r gymuned.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.

 

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar 27.02.2026

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • RSA/OCR lefel 3 neu brofiad amlwg cyfatebol o deipio.
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd gweinyddol/swyddfa
  • Gwybodaeth am Derminoleg Feddygol/Gofal Iechyd
  • Gwybodaeth ymarferol am systemau meddalwedd TG Radioleg
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth am derminoleg feddygol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o Systemau TG mewn ysbytai, a phrofiad o ddefnyddio pecynnau Microsoft Office [Excel, Word, PowerPoint, Access, cyhoeddi bwrdd gwaith ac e-bost]
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd cymhleth, prysur
  • Profiad blaenorol o ddelio â galwadau ffôn ymosodol gan aelodau o’r cyhoedd
Meini prawf dymunol
  • Profiad mewn ysbyty neu brofiad arall yn y GIG
  • Profiad o Systemau TG ym maes Radioleg

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Bre Price
Teitl y swydd
Site Lead Radiographer
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267 229623
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg