Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Recriwtio
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AC197-0725
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Tŷ Glien
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £24,433 - £26,060 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 27/07/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 07/08/2025
Teitl cyflogwr

Swyddog Recriwtio
Gradd 3
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig iawn i ymuno â'r Tîm Recriwtio Meddygol yn Nhŷ Glien, Sir Gaerfyrddin.
Mae'r swydd yn cynnwys gweithio i ddarparu cymorth i reolwyr a'r unigolion a benodir ar hyd y broses recriwtio a dethol, gan ddefnyddio ystod o systemau gwybodaeth electronig y gweithlu.
Swydd o ddydd Llun i ddydd Gwener yw hon, yn gweithio 08:30-16:30
Prif ddyletswyddau'r swydd
Cefnogi rheolwyr trwy gydol y broses recriwtio gan ddefnyddio system recriwtio Trac ar gyfer swyddi gwag yn y Bwrdd Iechyd, a sicrhau gwasanaeth proffesiynol a chyfrinachol bob amser.
Darparu gwasanaeth recriwtio o ansawdd uchel i'r Bwrdd Iechyd, gan gysylltu â Rheolwyr Penodi, cyrff allanol ac ymgeiswyr a benodir er mwyn sicrhau eu bod yn cael gwybodaeth lawn am gynnydd prosesau recriwtio.
Gweithio'n hyblyg yn y tîm, gan greu, datblygu a chynnal perthnasoedd gwaith effeithiol â staff eraill, cleientiaid a chysylltiadau allanol.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro ·
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 06.08.25
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster Lefel 3 yn y Gyfrifiaeth Fusnes neu brofiad cyfatebol.
- Dealltwriaeth o daenlenni, offer a systemau swyddfa
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth o bolisïau/camau recriwtio a'r broses recriwtio.
Experience
Meini prawf hanfodol
- Ymdrin â'r cyhoedd/ gwasanaeth cwsmer.
- Profiad swyddfa / gweinyddu blaenorol.
- Cymwys gyda phacedi TG Microsoft, yn enwedig Outlook, Word, Excel a Powerpoint
Meini prawf dymunol
- Profiad mewn HR neu recriwtio.
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol
- Agwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth.
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1-3)
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Dawn Summerfield
- Teitl y swydd
- Medical Recruitment Advisor
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 0300 303 6138
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Rachel Silk - Cynghorydd recruitment Meddygol Senior
01437 773336
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau Gweinyddol neu bob sector