Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Sonograffydd
Gradd
Band 8a
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-AHP110-1126
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili,
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£58,379 - £65,723 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
09/12/2026 23:59
Dyddiad y cyfweliad
18/12/2026

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Sonograffydd Arolygol

Band 8a

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae arnom angen Sonograffydd Arolygol sydd â’r cymwysterau addas i arwain y tîm blaengar yn ein hadran Uwchsain brysur lle mae datblygu rôl yn cael ei annog yn unol ag anghenion y gwasanaeth. Bydd ymgeiswyr sy’n addas ar gyfer y rolau hyn yn gymwysedig ac yn meddu ar brofiad sicr o archwiliadau uwchsain cyffredinol ac obstetrig. 

Rhaid i’r ymgeiswyr fod yn Weithwyr Iechyd Proffesiynol Cofrestredig sy’n meddu ar gymhwyster ôl-raddedig priodol mewn Uwchsain Feddygol, ynghyd â thystiolaeth o brofiad perthnasol. Rhaid i ymgeiswyr feddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol, bod yn ddynamig ac yn garedig, a chefnogi uwch-reolwyr i ddiwallu anghenion ein cleifion a darparu gofal rhagorol. Bydd angen agwedd hyblyg at gyflawni’r gwasanaeth. 

Byddem yn annog ymgeiswyr a allai fod â diddordeb i gysylltu â ni. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Rhaid i chi feddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol, bod yn bwyllog a diplomyddol a gallu arwain tîm yn ein hadran brysur. Efallai y byddwch hefyd yn cymryd rhan yn y gwaith o oruchwylio myfyrwyr-radiograffwyr.  

  • Bod yn gyfrifol am sganio cleifion yn ddiogel a llunio adroddiadau annibynnol yn seiliedig ar y sganiau hyn yn unol â chanllawiau’r adran; 

  • Cymryd rhan lawn yn y gwaith o ddarparu addysg a hyfforddiant ymarferol i fyfyrwyr-sonograffwyr ac eraill dan hyfforddiant; 

  • Cymryd rhan yn y rhaglenni archwilio a llywodraethu clinigol gyda’r adran; 

  • Cyfathrebu â’r holl staff a’r timau ehangach; 

  • Meithrin eich sgiliau a’ch gwybodaeth eich hun a chyfrannu at ddatblygiad pobl eraill; 

  • Cynllunio a blaenoriaethu eich llwyth gwaith eich hun a llwyth gwaith y maes hwnnw er mwyn sicrhau llif gwaith effeithlon, gan gwtogi cymaint â phosibl ar amseroedd aros a chynnal safon uchel o ran darparu gwasanae

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.

Darperir ein gwasanaethau yn:

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i goleddu'n llawn yr angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn unol â'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Cynhelir y cyfweliadau ar 18/12/2026

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • DCR(R) neu BSc mewn Delweddu Radiograffig ac yn gofrestredig gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd
  • Gwybodaeth am reoli staff ac arian
  • Cymhwyster ôl-raddedig – Cymhwyster Lefel Meistr neu brofiad cyfatebol
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster rheoli

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad ôl-gymhwyso sylweddol gan gynnwys profiad o arwain a rheoli
  • Y defnydd o Systemau PACS, RIS a CR ar lefel defnyddiwr allweddol
  • Datblygiad proffesiynol parhaus
  • Tystiolaeth o gymhwysedd clinigol
  • Gwybodaeth ymarferol am IRMER a Rheoliadau Ymbelydredd Ïoneiddio

Sgiliau Laith

Meini prawf dymunol
  • Siarad Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegDisability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Breanne Price
Teitl y swydd
Site Lead Radiographer
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg