Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Uned Gofal Arbennig Babanod
Gradd
Gradd 6
Contract
6 mis (Mae'r swydd hon yn swydd Cyfnod Penodol / Secondiad am 6 mis tan 31/03/2026 oherwydd cyfnod mamolaeth)
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
  • Arall
37.5 awr yr wythnos (Mae oriau llawn a rhan amser amrywiol ar gael.)
Cyfeirnod y swydd
100-NMR292-0925
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili
Tref
Caerfyrddin
Cyflog
£39,263 - £47,280 y flwyddyn (pro rata os rhan amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
05/10/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
15/10/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Prif Nyrs Iau/Prif Nyrs Gwasanaethau Newyddenedigol

Gradd 6

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae'r swydd hon yn swydd Cyfnod Penodol / Secondiad am 6 mis tan 31/03/2026 oherwydd cyfnod mamolaeth.

Os ydych yn gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am secondiad i'r swydd hon, bydd angen i'ch rheolwr presennol gytuno i'r secondiad cyn i chi gyflwyno eich cais.

Ydych chi'n nyrs newyddenedigol fedrus sy'n barod i gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa? Ymunwch â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn rôl Prif Nyrs Iau/Prif Nyrs Band 6 a dod yn arweinydd clinigol yn ein tîm newyddenedigol blaengar.

Byddwch yn cael eich lleoli yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili, lle byddwch yn darparu gofal arbenigol i fabanod newydd-anedig cynamserol a difrifol wael, yn cefnogi teuluoedd gydol eu taith, ac yn mentora staff iau a myfyrwyr. Gyda mynediad at therapïau uwch a ffocws cryf ar ofal integredig i'r teulu, dyma eich cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Byddwch yn gweithio mewn uned ddynamig sy'n cynnig gwasanaethau sefydlogi, dibyniaeth uchel, gofal arbenigol, a gofal pontio, a bydd gennych gyfleoedd i arwain, addysgu ac arloesi. Os ydych yn frwd dros ragoriaeth, yn hyderus mewn sefyllfaoedd dan bwysau uchel, ac yn barod i ysbrydoli eraill—yna mae'r rôl hon ar eich cyfer chi.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Yn rôl Prif Nyrs Iau/Prif Nyrs mewn Gwasanaethau Newyddenedigol byddwch yn darparu arweinyddiaeth glinigol arbenigol ac yn cyflawni gofal uchel ei safon, seiliedig ar dystiolaeth i fabanod newydd-anedig cynamserol a difrifol wael. Byddwch yn esiampl yn eich gwaith, yn eiriolwr dros deuluoedd, a byddwch yn sicrhau triniaethau diogel ac effeithiol mewn cydweithrediad â'r tîm amlddisgyblaethol.

Mae'r cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys y canlynol:

·       Arwain a goruchwylio staff iau a myfyrwyr nyrsio.

·       Darparu gofal newyddenedigol uwch, sy'n cynnwys monitro, adfywio a thriniaethau arbenigol.

·       Rheoli sefyllfaoedd clinigol cymhleth a chefnogi teuluoedd yn ystod sgyrsiau sensitif.

·       Hyrwyddo gofal integredig i deuluoedd a chynllunio prosesau rhyddhau diogel.

·       Sicrhau cydymffurfedd â diogelu, llywodraethu a safonau ansawdd.

·       Cefnogi prosesau gwella gwasanaethau trwy archwiliadau ac ymchwil a thrwy ddatblygu polisïau.

·       Dirprwyo ar ran Rheolwr yr Uned pan fo gofyn.

Mae'r rôl yn galw am arweinyddiaeth gref, cyfathrebu rhagorol, a'r gallu i weithio mewn modd tawel a thosturiol mewn sefyllfaoedd dan bwysau.

Gweithio i'n sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio. 

Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu. 

Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr. 

Darperir ein gwasanaethau yn: 

  • Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd  

  • Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro 

  • Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall 

  • 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref 

  • Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu 

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.

Cynhelir y cyfweliadau ar 15/10/2025

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cofrestriad cyfredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (Nyrs Gofrestredig rhan 1, 8 neu 15 o'r gofrestr)
  • Cymhwyster Newyddenedigol mewn Arbenigedd
  • Ardystiad Cefnogi Bywyd y Newydd-anedig (NLS)
  • Cymhwyster Mentoriaeth
  • Y gallu i amlygu gwybodaeth ragorol am nyrsio newyddenedigol
  • Dealltwriaeth o faterion proffesiynol a chyfredol ym maes nyrsio newyddenedigol
Meini prawf dymunol
  • Gradd neu brofiad cyfatebol
  • Dealltwriaeth o reoli adnoddau, iechyd a diogelwch, risg glinigol a materion ansawdd

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad ar Fand 5
  • Y gallu i ddarparu rheolaeth oruchwyliol
  • Profiad o gydlynu a rheoli gofal cleifion
  • Profiad o hyfforddiant gorfodol a statudol
Meini prawf dymunol
  • Profiad blaenorol o archwilio
  • Profiad o ymdrin â digwyddiadau clinigol a chŵynion
  • Wedi cymryd rhan mewn proses recriwtio a dethol
  • Profiad blaenorol o arwain a rheoli

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerStep into healthCarer Confident (With Welsh translation)Defence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Leah Andrew
Teitl y swydd
Senior Nurse Manager for Neonates
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267 283300
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg